Mae Mike Harrison, sydd wedi ennill dwy wobr BAFTA Cymru, wedi gwneud ffilm fer syfrdanol yn cipio’r munudau pan gafodd y llafnau eu codi a’u gosod ar un o dyrbinauCwmni Cydweithredol Awel gyda’r wawr
Meddai Dan McCallum, un o gyfarwyddwyr Cwmni Cydweithredol Awel, “Roedd yn rhaid i Mike fod ar y safle am 5am a gweithio yn yr oerfel (ar y cyd â thîm gosod Enercon) ac rydym yn ddiolchgar iawn i Mike am aberthu ei hoe fore Sadwrn i gynhyrchu’r ffilm hardd, atgofus hon. Mae Mike yn aelod o’r cwmni cydweithredol ac mae’n byw yn lleol yng Ngwaun Cae Gurwen.
“Does dim gwell anrheg Nadolig na bod yn gydberchennog ar fferm wynt! Mae’n lân, yn gynaliadwy a bydd yn helpu i sicrhau y gall bob un ohonom ddathlu’r Nadolig yn y dyfodol. Mae dros saith cant o bobl wedi ymuno yn barod â Chwmni Cydweithredol Awel, ac mae’r cynnig cyfranddaliadau wedi cael ei estyn tan Ddydd Nadolig.
Mae ein Cynnig Cyfranddaliadau wedi codi £1.53m yn barod, dyma’r swm mwyaf erioed yng Nghymru ac rydym wedi sicrhau benthyciad o £4.7m gan Lywodraeth Cymru. Fel cwmni cydweithredol, mae’n un aelod, un bleidlais, ni waeth faint o gyfranddaliadau sydd gan rywun. Rydym yn cynnig enillion o 5% i aelodau, sydd llawer yn well na’r cyfraddau banc presennol. A byddwch yn gallu gweld i ble mae eich arian yn mynd!”