Bydd fferm wynt Awel Co-op yng Nghwm Aman yn rhoddi cyfranddaliadau gwerth dros £30,000 i grwpiau cymunedol lleol y Nadolig hwn.
Un o’r buddiolwyr cyntaf yw Ysgol Gynradd Tairgwaith a dderbyniodd gyfranddaliadau gwerth £500 a thystysgrif berchenogaeth yn ystod ymweliad diweddar gan ddisgyblion Blwyddyn 5 a 6.
Mae ymweliad yr ysgol yn ymddangos mewn ffilm fer, y gallwch ei gweld yma:
Cafodd y fferm wynt, a leolir tua 20 milltir i’r gogledd o Abertawe, ei chomisiynu ym mis Ionawr ar ôl derbyn benthyciad o £5.25m gan Triodos, y prif fanc cynaliadwy yn Ewrop. Dyma un o’r buddsoddiadau mwyaf erioed yng Nghwm Aman.
Ynghyd â darparu digon o ynni glân i bweru 2,500 o gartrefi bob blwyddyn, mae’r ddau dyrbin gwynt 2.35MWh yn cynhyrchu refeniw sydd wedyn yn cael ei ail-fuddsoddi yn y gymuned leol.
Yn ogystal â’r rhodd i Dairgwaith, mae’r cwmni cydweithredol cymunedol sy’n berchen ar y fferm wynt wedi rhoddi cyfranddaliadau gwerth £500 yr un i Feithrinfa Tiddlywinks yn Ystalyfera, Ceiswyr Lloches Bae Abertawe a Chanolfan Maerdy, sy’n elusen adfywio leol. Mae cyfranddaliadau ychwanegol gwerth £30,000 wedi eu clustnodi ar gyfer grwpiau cymunedol lleol.
Tiddlywinks yn ymweld â’r tyrbinau
Esboniodd Dan McCallum, y cyfarwyddwr sefydlol, a dderbyniodd Wobr Cyflawniad Oes gan Adfywio Cymru yn ddiweddar mewn cydnabyddiaeth o’i waith arloesol yn mynd i’r afael â newid hinsawdd: “Mae fferm wynt Awel Co-op yn brosiect ynni cymunedol ac rydym eisiau i’n tyrbinau fod yn perthyn i gymaint o bobl a grwpiau lleol â phosibl. Roeddem wrth ein bodd o fedru rhoddi cyfranddaliadau i Ysgol Gynradd Tairgwaith a fydd yn elwa ar enillion rhagamcanol o 5% y flwyddyn am 20 mlynedd ar eu buddsoddiad o £500.
“Mae’r fferm wynt yn adnodd addysgol anhygoel yn barod, gan addysgu’r genhedlaeth nesaf am bwysigrwydd cynaliadwyedd, ond roeddem eisiau mynd cam ymhellach. Nawr bydd disgyblion Tairgwaith yn gallu ymweld â’r safle pa bryd bynnag y mynnont a dweud, ‘rydym ninnau’n berchen ar y tyrbinau gwynt hyn!’.
“Wrth gwrs, ni fyddai hyn yn bosibl o gwbl heb gymorth ariannol Banc Triodos, sydd wedi bod gyda ni bob cam o’r ffordd ac sy’n parhau i’n cefnogi wrth i ni gyrraedd carreg filltir arall, diwedd ein blwyddyn lawn gyntaf o weithredu.
“Mae ein cynnig cyfranddaliadau yn agored i’r cyhoedd o hyd – nes i ni gyrraedd ein targed o £3 miliwn. Hyd yma, rydym wedi codi £2.5 miliwn. Ewch i www.awel.coop os hoffech ymuno â ni!”
Meddai Steve Moore, Rheolwr Perthnasoedd Triodos Bank UK: “Ym Manc Triodos, rydym yn buddsoddi mewn pobl a phrosiectau sy’n sbarduno newid amgylcheddol a chymdeithasol cadarnhaol.
“Mae Awel Co-op yn fodel o gynaliadwyedd – yn darparu digon o ynni glân i gyflenwi miloedd o gartrefi ynghyd â chynhyrchu refeniw ar gyfer ysgolion a grwpiau cymunedol – ac rydym yn falch iawn o fod yn rhan o’r stori arbennig hon.”
Mae Banc Triodos wedi lansio cyfrif cyfredol personol newydd eleni, a chawsant eu hysbrydoli gymaint gan waith Awel Co-op, fel iddynt fynd ag un o’u cwsmeriaid, Kathryn Chandler, sy’n byw yn Abertawe, i gwrdd â Dan a disgyblion Tairgwaith ac i weld y tyrbinau dros ei hunan.
Roedd Kathryn yn falch iawn o ddarganfod bod yr arian mae hi’n ei fuddsoddi yn helpu i gynhyrchu ynni glân ar gyfer cartrefi lleol. Esboniodd: “Rwy’n bancio gyda Triodos oherwydd ei fod yn fanc moesegol ac roeddwn eisiau dewis banc rwy’n credu ynddo ac sy’n buddsoddi arian mewn prosiectau rwy’n credu ynddynt.
“Mae Triodos yn agored ynglŷn â ble maent yn gosod eu harian ac i bwy maent yn benthyg ac mae’n bwysig i mi fy mod yn cynilo gyda banc sy’n ystyried y buddiannau i bobl eraill, ynghyd ag i minnau.
Mae’r prosiectau eraill a ariennir gan Fanc Triodos yn cynnwys Eglwys Gymunedol Baglan ym Mhort Talbot, Cartref Nyrsio Glangarnant yn Rhydaman, Cwmni Cydweithredol Tai Rhuddin yng Nghydweli a Fferm Tŷ’r Eithin yn Llanelli.
I gael mwy o wybodaeth ynglŷn â Banc Triodos a’r prosiectau maent yn buddsoddi ynddynt, ewch i triodos.co.uk/changemakers. I gael mwy o wybodaeth ynglŷn ag Awel Co-op, ewch i www.awel.coop
-DIWEDD-
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:
Faye Holst – 07521 898 970 – faye.holst@greenhousepr.co.uk
Helen Bell – 07880 560 233 – helen.bell@greenhousepr.co.uk
Ynglŷn â Banc Triodos
Mae Banc Triodos yn arloeswr byd-eang mewn bancio cynaliadwy gan ddefnyddio grym cyllid i fuddsoddi mewn prosiectau sy’n dda i bobl ac i’r blaned. Mae Triodos yn defnyddio’i €13.5 biliwn (2016) mewn asedau i greu gwerth cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol mewn ffordd dryloyw a chynaliadwy.
Mae gweithrediadau Banc Triodos yn y DU wedi’u lleoli ym Mryste, ac mae ganddo ganghennau yn yr Iseldiroedd, Gwlad Belg, Sbaen, Yr Almaen ac asiantaeth yn Ffrainc. Yn fyd-eang, mae gan Fanc Triodos brosiectau microgyllid yng Nghanol Asia a Dwyrain Ewrop, ac mae’n aelod sefydlol o’r Global Alliance for Banking on Values (GABV), sef rhwydwaith byd-eang o 43 o fanciau sy’n ceisio trawsnewid cyllid yn gyfrwng dylanwad cadarnhaol.
www.knowwhereyourmoneygoes.co.uk
www.facebook.com/triodosbankuk
Ynglŷn ag Awel Co-op
Mae Awel yn gymdeithas budd cymunedol a sefydlwyd yn Medi 2015 gan Awel Aman Tawe, sef elusen ynni cymunedol.
Mae ein tyrbinau wedi’u lleoli ar Fynydd y Gwrhyd, 20 milltir i’r gogledd o Abertawe. Rhagwelir y bydd y tyrbinau’n cynhyrchu’r swm amcangyfrifedig o 12,404 MWh o ynni glân yn flynyddol, digon i gyflewni dros 2,500 o gartrefi bob blwyddyn. Bydd hyn yn cynhyrchu tua £3m dros 25 mlynedd nesaf y fferm wynt i ariannu prosiectau carbon isel yn y gymuned.
Triodos Bank NV (corfforedig dan ddeddfau’r Iseldiroedd gydag atebolrwydd cyfyngedig, cofrestredig yng Nghymru a Lloegr BR3012). Awdurdodwyd gan y Dutch Central Bank ac mae’n ddarostyngedig i reoleiddio cyfyngedig gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol ac Awdurdod Rheoleiddio Prudential. Mae manylion ynglŷn â maint ein rheoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol ac Awdurdod Rheoleiddio Prudential ar gael gennym ar gais.