Felodrom Cenedlaethol Cymru Geraint Thomas yn dangos ei ymrwymiad i’r amgylchedd drwy osod paneli solar

Mae gwaith wedi dechrau ar brosiect cymunedol i osod paneli solar ar do Felodrom Cenedlaethol Cymru Geraint Thomas yng Nghasnewydd. Hwn fydd y prosiect mwyaf o’i fath yng Nghymru, gyda mwy na 2,000 o baneli’n cael eu gosod.

Mae Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru, mewn partneriaeth â rhaglen Cymunedau Cynaliadwy Cymru a Chanolfan Cydweithredol Cymru, wedi cwblhau astudiaeth ddichonoldeb fanwl a fydd yn arwain at leihau allyriadau carbon Cyngor Dinas Casnewydd 348 o dunelli’r flwyddyn. Caiff rhywfaint o’r trydan ei allforio i’r grid hefyd i’w ddefnyddio yn y ddinas.

Gan gydweithio ag Egni Co-op, mae’r prosiect yn y Felodrom Cenedlaethol yn rhan o gynllun ehangach Cyngor Dinas Casnewydd i osod 6,000 o baneli solar ar 21 o adeiladau sy’n berchen i’r cyngor ledled y ddinas, gyda’r nod o fod yn sefydliad carbon niwtral erbyn 2030. Bydd y paneli solar yn cynhyrchu cyfanswm cyfunol o 1,973,000 o unedau o drydan glân adnewyddadwy y flwyddyn, a chaiff y rhan fwyaf o’r trydan a gynhyrchir ei ddefnyddio ar y safle.

Dywedodd Jim Cardy, un o Uwch-reolwyr Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru: “Mae’r prosiect hwn yn enghraifft wych o grwpiau ynni cymunedol yn gweithio’n agos gyda phartner Awdurdod Lleol yng Nghymru i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd. Mae Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru yn llywio’r prosiect am ei fod yn cefnogi pobl leol i fuddsoddi a chael budd o’r broses o drawsnewid i ynni gwyrdd, wrth hefyd gyfrannu at uchelgais y sector cyhoeddus o fod yn garbon niwtral erbyn 2030.”

Dywedodd y Cynghorydd Deb Davies, Aelod Cabinet ar gyfer Datblygu Cynaliadwy: “Ar ôl gosod paneli solar yn llwyddiannus yn 19 o’n hadeiladau hyd yn hyn, mae’n gyffrous gweld gwaith yn dechrau ar safle’r Felodrom. Mae ein huchelgais o fod yn garbon niwtral erbyn 2030 yn un o’r agweddau allweddol ar ein hadduned i adeiladu Casnewydd well, ac mae’r ynni adnewyddadwy a gaiff ei gynhyrchu gan y Felodrom yn gam cadarnhaol tuag at gyflawni’r uchelgais hwnnw.”

Dywedodd Rosie Gillam, Cyfarwyddwr Cydweithredol Egni “Mae hwn wedi bod yn brosiect partneriaeth gwych ac mae’n dangos y gall cydweithfeydd ynni weithio ar y raddfa hon gan mai hwn yw’r arae solar to fwyaf yng Nghymru. Ac mae’r Felodrom yn fwy na lleoliad beicio yn unig. Yn ystod argyfwng COVID-19, mae’r Felodrom wedi bod yn gweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan i gefnogi adferiad cleifion COVID-19 a awyru gynt ar ôl eu rhyddhau. Mae’r Rhaglen, y gyntaf o’i bath yng Nghymru, yn cael cleifion yn ôl i’r man y maent am fod, yn feddyliol ac yn gorfforol. Hoffem ddiolch i’n holl aelodau cydweithredol a helpodd i hyn ddigwydd a gwahodd mwy o bobl i ymuno â ni. A nawr y bydd beicwyr o Gymru yn cael eu pweru gan guriadau haul, rydyn ni’n gobeithio y byddan nhw’n mynd hyd yn oed yn gyflymach! ”

Mae’r Felodrom Cenedlaethol eisoes wedi dangos ei ymrwymiad i’r amgylchedd, gyda system llifoleuadau LED o’r radd flaenaf a gafodd ei gosod ar drac y felodrom gyda chymorth Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru. Yn ogystal â lleihau’r defnydd o ynni, mae’r system hefyd wedi sicrhau cyfleusterau llawer gwell, gyda goleuadau LED o’r fath safon i alluogi’r lleoliad i gynnal rasys ar lefel broffesiynol. Gellir gostwng y goleuadau hefyd i arbed ynni pan fydd y cyhoedd yn defnyddio’r trac. Caiff goleuadau LED eu gosod ym mhob rhan o’r Felodrom Cenedlaethol dros y flwyddyn nesaf hefyd. Disgwylir y bydd y goleuadau yn arbed 750 o dunelli o garbon dros eu hoes, sy’n gyfystyr ag allbwn ynni blynyddol 190 o gartrefi ar gyfartaledd.

Cyngor Dinas Casnewydd – cefndir y prosiect solar

Yn ogystal â phrosiect y Felodrom Cenedlaethol, mae ysgolion, un o ddepos y cyngor a chartrefi gofal wedi cael eu nodi hefyd. Unwaith y cânt eu gosod, bydd y paneli solar yn cynhyrchu cyfanswm cyfunol o 1,973,000 o unedau o drydan glân adnewyddadwy bob blwyddyn.

Caiff y rhan fwyaf o’r trydan a gynhyrchir ei ddefnyddio ar y safle, gan leihau allyriadau carbon y cyngor 348 o dunelli’r flwyddyn. Caiff rhywfaint o’r trydan ei allforio i’r grid hefyd i’w ddefnyddio yn y ddinas.

Ariannwyd y paneli solar yng Nghasnewydd drwy fenthyciad gan Fanc Datblygu Cymru a chynnig cyfranddaliadau cydweithredol parhaus Egni, sydd wedi codi £1.94m hyd yn hyn.

Ynglŷn â Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru

Mae Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru yn cynnig cymorth technegol, masnachol a hefyd gymorth â chaffael am ddim er mwyn datblygu prosiectau effeithlonrwydd ynni ac ynni adnewyddadwy. Mae’r gwasanaeth ynni yn helpu â gwaith cynllunio ariannol ac â chyllid, er enghraifft benthyciadau di-log a grantiau.

E-bost: ymholiadau@gwasanaethynni.cymru

Twitter: @_energyservice | @_gwasanaethynni

Ynglŷn ag Egni Co-op

Sefydliad cymunedol yw Egni Co-op sy’n ariannu ac yn rheoli gosodiadau ffotofoltäig yng Nghymru. Cafodd ei sefydlu gan Awel Aman Tawe (AAT), sef elusen ynni cymunedol sydd wedi bod yn gweithredu ers 20 blynedd. Ein prif sbardunau yw mynd i’r afael â newid hinsawdd ac ennyn diddordeb pobl mewn ynni.

www.egni.coop

Ynglŷn â Felodrom Cenedlaethol Cymru Geraint Thomas

Un o bum felodrom dan do a gydnabyddir yn rhyngwladol ym Mhrydain yw Felodrom Cenedlaethol Cymru Geraint Thomas, ac mae wedi cynnal gwersylloedd hyfforddi ar gyfer Tîm GB a Thîm Paralympaidd GB cyn y pedwar Gemau Olympaidd a Pharalympaidd diwethaf.

www.casnewyddfyw.co.uk

Rhannu’r Dudalen