Roedd yr ymweliad gan ddisgyblion ysgol Tairgwaith i’n chwaer gwmni cydweithredol, Awel, yn ddiwrnod gwych i’r plant ac yn brofiad addysgol pwysig wrth iddynt gael cyflwyniad i brosiectau ynni adnewyddadwy a chymunedol. Cawsant fwy o wybodaeth hefyd am brosiect parhaus Egni ar gyfer solar ar doeon.
Meddai Rosie Gillam, Cyfarwyddwr Egni: “Rydym bob amser yn rhyfeddu at ba mor frwdfrydig a chyfrannog mae’r plant sy’n ymweld â’n safleoedd ac rydym yn awyddus i gynnal mwy o sesiynau ar bob lefel, o ysgolion cynradd hyd at brifysgolion.”
Dywedodd Dan McCallum MBE, Cyfarwyddwr Egni ac Awel: “Un o amcanion allweddol Egni yw datblygu adnoddau ynni adnewyddadwy er lles y gymuned. Rydym yn anelu at fwyhau’r effeithiau i’r ardal leol a’r cyfleoedd dysgu ar bob cam.”
Heblaw am barhau i groesawu tripiau ysgol a phrifysgol am ddim i’n gosodiadau (safleoedd fferm wynt a solar), mae gan Egni gynlluniau ar y gweill i helpu i ariannu swyddog addysg a fydd yn ymweld ag ysgolion ac yn cefnogi athrawon. Byddwn hefyd yn datblygu adnoddau i alluogi ysgolion i gyfuno data o’r paneli solar â gwybodaeth am ynni adnewyddadwy mewn amrywiaeth o wersi. Mae’r rhain yn rhan o gynlluniau Egni Coop i helpu i yrru addysg ynglŷn â newid hinsawdd a helpu i ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol.
Ar hyn o bryd mae gennym ddau intern Astudiaethau Busnes, Matthew Kilgariff a Jordan Coller, o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant sy’n gweithio gyda ni i helpu i gyrraedd ein nodau cymunedol. Meddai Matthew “Mae’r cyfle i weithio gydag Egni nid yn unig wedi agor fy llygaid i fuddion cymdeithasol-economaidd ac eraill prosiectau ynni cymunedol, ond mae hefyd wedi rhoi profiad i mi all fy helpu i gael gwaith yn un o’r diwydiannau sy’n tyfu gyflymaf.”