Eich cyfle olaf i fuddsoddi yn Egni Co-op – beth am fwynhau Nadolig heulog!

Mae Egni Co-op wedi cyhoeddi ei fod wedi codi targed ei Gynnig Cyfranddaliadau i £4.8m. Mae gan y cwmni cydweithredol gyfanswm o 4.4MWp ar 88 o doeon yng Nghymru – ar ysgolion, busnesau ac adeiladau cymunedol. Erbyn hyn, Egni yw’r cwmni cydweithredol solar ar doeon mwyaf yn y DU.

Clwb Rygbi Cwm-gors

Meddai’r cyd-gyfarwyddwr, Dan McCallum, “Hwn yw’r targed terfynol. Rydyn ni’n disgwyl cau’r Cynnig Cyfranddaliadau yn gynnar yn y Flwyddyn Newydd felly gallai hwn fod yn anrheg Nadolig perffaith. Gall unrhyw un fuddsoddi cyn lleied â £50 yn ein cwmni cydweithredol.

Gosod ceblau yn Ysgol Gynradd Cwm Glas, Abertawe

Rydyn ni wedi codi £4.62m drwy gyfranddaliadau yn barod ac wedi llwyddo i ad-dalu ein benthyciad o £2.2m gan Fanc Datblygu Cymru. Nawr rydyn ni eisiau ad-dalu’r benthyciad o £180k i’n rhiant-elusen, Awel Aman Tawe, fel y gall ail-fuddsoddi’r arian hwn yn ein datblygiad newydd cyffrous, Hwb y Gors. Mae’r Hwb yn lleoliad celfyddydau ac addysg menter newydd yng Nghwm Tawe yr ydym yn ei ailwampio ar hyn o bryd. Yn ogystal â llog blynyddol rhagamcanol o 4% o gyfranddaliadau Egni, bydd ein holl aelodau’n cael paned o goffi, cacen a thaith o gwmpas yr Hwb am ddim! Y disgwyl yw y bydd yr Hwb yn agor yn yr haf. Ar hyn o bryd, mae ein pwmp gwres o’r ddaear yn cael ei osod – gallwch weld y diweddariadau

Hwb y Gors

Meddai Rosie Gillam, cyd-gyfarwyddwr Egni, “Cefnogir ein holl safleoedd Egni gan y Tariff Bwydo i Mewn. Rydym yn falch iawn ein bod wedi gallu ad-dalu’r holl log i’n haelodau yng nghwmnïau cydweithredol Egni ac Awel yn unol â’r Dogfennau Cynnig Cyfranddaliadau blynyddol. Mae ein safleoedd Egni wedi cynhyrchu’n dda iawn yn 2021 felly rydym yn hyderus o ran perfformiad y paneli. Rydym yn arbed dros £100 y flwyddyn mewn costau trydan i’n safleoedd ac yn lleihau allyriadau carbon o dros 1000 tunnell y flwyddyn.

Awel Co-op

Rydym yn defnyddio’r holl arian sydd dros ben yn Egni i ddarparu addysg newid yn yr hinsawdd yn ysgolion Cymru. Gwnawn hyn ar y cyd â’n helusen bartner, Energy Sparks, sy’n darparu platfform data ynni gwych i ysgolion www.energysparks.uk. Mae ein Swyddog Addysg, Jen James, wedi bod yn cydweithio gyda’r ysgolion sydd â’n paneli solar yn Sir Benfro, Casnewydd ac Abertawe. Mae’n gweithio gyda phlant i ennyn eu diddordeb yn y gwaith gwych gan ein hwyluswyr, Sion Thomas Owen, Ynni Da, Mr Phormula a TTS Practical Science. Gallwch weld sut mae Ysgol Gynradd Saundersfoot yn lleihau eu defnydd o ynni yma.

Murlun Rhyfelwr Ynni Gelli Aur

Ynglŷn ag Egni Co-op

Mae Egni wedi gosod 4.4 MWp o solar ar doeon ar 88 o ysgolion, adeiladau cymunedol a busnesau ar draws Cymru. Erbyn hyn, Egni yw’r cwmni cydweithredol solar ar doeon mwyaf yn y DU. www.egni.coop

Dyma ffilmiau diweddar a wnaed gan yr enillydd dau BAFTA Cymru, Mike Harrison, ynglŷn â’r prosiect solar ar doeon mwyaf yng Nghymru ar Felodrom Cenedlaethol Geraint Thomas yng Nghasnewydd a Chlwb Pêl-droed Tref Merthyr – Felodrom: https://youtu.be/ZC80dcRmla0 Merthyr https://www.youtube.com/watch?v=Des8Fr-qgnk

Yn ogystal, mae’r tîm y tu ôl i Egni wedi sefydlu’r fenter arobryn, Awel Co-op, sef fferm wynt gymunedol 4.7MW a gomisiynwyd ym mis Ionawr 2017. Cafodd ei hariannu gan fenthyciad gwerth £5.25m gan Fanc Triodos a chynnig cyfranddaliadau cymunedol gwerth £3m www.awel.coop.

Yn 2019, Enillodd Egni Co-op y wobr Prosiect Ynni Adnewyddadwy Eithriadol mewn seremoni a noddwyd gan Lywodraeth Cymru, a chydnabuwyd Awel Aman Tawe yn Sefydliad Amgylcheddol y Flwyddyn yng Ngwobrau Mentrau Cymdeithasol y DU.

Am ragor o fanylion am Egni, cysylltwch â Dan McCallum ar 07590 848818

Ynglŷn â Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru

Mae Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru y,n darparu cymorth technegol, masnachol a chaffael am ddim i ddatblygu prosiectau ynni adnewyddadwy ac effeithlonrwydd ynni ac mae wedi cefnogi Egni. Mae’r gwasanaeth ynni’n helpu gyda chynllunio ariannol a chyllid, er enghraifft grantiau a benthyciadau di-log.

E-bost: enquiries@energyservice.wales

Rhannu’r Dudalen