Egni Co-op yn anfon Artist i’r Lleuad
Un Cam Bach i Fenywod, Un Cam Anferth i Ynni Cymunedol.
I ddathlu 50 mlynedd ers i ddyn lanio ar y Lleuad, mae Egni Co-op yn mynd ati i godi ymwybyddiaeth o’r Llanast Hinsawdd – a’n cynnig cyfranddaliadau solar Cymru Gyfan newydd
Mae’n brosiect hwyliog a phryfoclyd: bydd yr artist a’r bardd Emily Hinshelwood yn adeiladu capsiwl gofod cynaliadwy, yn ei lanio ar y ‘lleuad’, ac yn ffrydio darnau o ffilm yn fyw o orsaf ofod NASA am un diwrnod lleuad (28 diwrnod daear) yn oriel Canolfan Gelfyddydau Pontardawe, Oriel Lliw.
Meddai Emily “Yn ystod Taith Apollo i’r Gofod, dywedodd y gofodwyr mai’r profiad mwyaf grymus oedd gweld y ddaear o bell, ac nid gweld y lleuad ei hun. Wrth weld ein planed fel cyfanwaith yn y Gofod, gyda’i hatmosffer bregus, cafwyd teimlad o unoliaeth sydd wedi cael ei ddisgrifio fel yr ‘effaith trosolwg’. Nawr, 50 mlynedd yn ddiweddarach, mae’n bwysicach nag erioed ein bod yn gweld ein byd fel cyfanwaith ac yn gweithio gyda’n gilydd i adeiladu dyfodol cynaliadwy”.
Bydd Emily yn gwahodd y cyhoedd i’w helpu i droi Oriel Lliw yn lloerlun ac adeiladu replica o gapsiwl gofod Tim Peake, wedi ei wneud o ddeunyddiau cynaliadwy (yn cynnwys helyg a dyfir yn lleol, papier mâché o bapur wedi’i ailgylchu a gwlân ffeltiog Cymreig).
Ar ôl i’r capsiwl gael ei adeiladu, bydd Emily yn aros yno 24/7 am un diwrnod golau dydd lleuad (pythefnos). Bydd yn gwahodd ymwelwyr i’r oriel lle gallant ystyried yr effaith trosolwg, a chreu darnau gweledol ac ysgrifenedig i gyfrannu at arddangosfa gyffredinol y bydd Emily yn ei churadu. Bydd hefyd yn rhyngweithio â’r Blaned Ddaear ehangach drwy’r cyfryngau cymdeithasol a thrwy ei Blog Lleuad rheolaidd yma ar wefan Egni.
Mae’r prosiect hwn yn cysylltu â’n rhaglen dreigl o osodiadau solar a chodi arian ar draws Cymru fel enghraifft o weithredoedd gweladwy y gall pobl eu cefnogi i helpu i fynd i’r afael â newid hinsawdd. Ar ôl hyn, bydd Emily yn creu arddangosfa yn yr oriel ac ar-lein, gan dynnu celfwaith a syniadau’r cyfranogwyr ynghyd o’r holl brosiect.
Meddai Rosie Gillam o Egni “Rydym yn falch iawn bod y Loteri Genedlaethol yn cefnogi’r prosiect hwn drwy eu rhaglen Grantiau Cymunedol. Bydd y prosiect yn helpu i godi ymwybyddiaeth o newid hinsawdd a beth allwn ni ei wneud yng Nghymru drwy osod paneli solar. Edrychwn ymlaen at weld llong ofod Emily yn tanio ym Mhontardawe!”
Dewch yn eich blaen a chymryd rhan yn ei gweithdai lloerol creadigol a byddwch yn dysgu beth sy’n digwydd wrth i chi edrych ar eich cartref o 200,000 milltir i ffwrdd.
Adeiladu’r Capsiwl: 22 Medi – 1 Hydref
Gweithdai Lloerol Creadigol: 2 – 16 Hydref
Rhannu Lloerol – am ddim 18 Hydref 6pm
Am ragor o wybodaeth ac os hoffech helpu Emily i adeiladu’r capsiwl cysylltwch â hi: emily@myphone.coop
Gyda chymorth Egni Co-op sy’n gosod y rhaglen fwyaf erioed o ynni’r haul cymunedol yng Nghymru. Nawr tan Fawrth 2020. Ymunwch yma: www.egni.coop