Egni Coop yn rhagori ar y targed o £750k yn y Cynnig Cyfranddaliadau, a mwy…..

Meddai Dan McCallum, cyd-gyfarwyddwr Egni “Rydym yn falch iawn o gyhoeddi ein bod wedi cyrraedd ein targed cychwynnol o £750k yn y Cynnig Cyfranddaliadau. Mae hyn yn dangos bod pobl ledled y DU yn deall bod newid hinsawdd yn bwysig a’u bod eisiau buddsoddi mewn rhywbeth moesegol sy’n cyflwyno ynni’r haul. Mae’r ffaith ein bod wedi datblygu fferm wynt Awel, www.awel.coop, yn helpu hefyd gan ei bod wedi ad-dalu llog o @5% y flwyddyn i’w haelodau, felly mae pobl yn hyderu ynom ni.

Canolfan Ffenics
Canolfan Ffenics, Abertawe

Gan ein bod yn anelu at osod hyd at 5MW ar doeon ar draws Cymru erbyn mis Mawrth nesaf, rydym wedi penderfynu dyblu ein targed i £1.5m. Mae hyn yn golygu bod angen benthyca llai gan Fanc Datblygu Cymru i ariannu gweddill ein safleoedd sy’n sefyllfa lle mae pawb ar ei ennill – mae’n golygu bod ein costau benthyca’n llai a gall y Banc Datblygu gefnogi prosiectau ynni cymunedol eraill yn unol â pholisi Llywodraeth Cymru.”

Dywedodd Rosie Gillam, cyd-gyfarwyddwr Egni “Ar hyn o bryd, rydym yn gosod ar naw safle: Neuadd y Frenhines Arberth, Pontypridd Precision Engineering yng Nglynrhedynog, Canolfan Ynni Cwm-gors, Pontus Ltd yn Hirwaun, Canolfan Gymunedol Hirwaun, Neuadd Gymunedol East Williamston, Canolfan Cynadleddau Glasdir, Canolfan Gymunedol Llangatwg a Chanolfan Gymunedol Owain Glyndŵr – amrywiaeth o adeiladau cymunedol a hefyd busnesau Cymreig blaengar sy’n ymrwymedig i fynd i’r afael â newid hinsawdd a lleihau eu gorbenion ynni trwy gydweithio gyda ni. Mae’r rhain yn ogystal â’r gosodiadau ar ein saith safle presennol sydd wedi bod yn rhedeg yn hwylus ers 2014. Mae nifer fawr o adeiladau cymunedol a busnesau eraill yn yr arfaeth. Rydym eisiau cyflawni ein huchelgais i ‘solareiddio’ Cymru.”

Precision Engineering

Yr wythnos ddiwethaf, enillodd Egni Coop a’i riant-elusen, Awel Aman Tawe, y wobr Busnes Amgylchedd y Flwyddyn yng Ngwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru ac rydym yn falch o gael ein cynnwys yn y Canllaw newydd a gyhoeddwyd gan Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol.

Mae Egni yn anelu am y lleuad hefyd! Ar hyn o bryd, mae’r artist a’r bardd, Emily Hinshelwood, yn adeiladu llong ofod gyda chymorth ysgolion a grwpiau cymunedol lleol yng Nghanolfan Gelfyddydau Pontardawe i amlygu newid hinsawdd a chynnig cyfranddaliadau solar Egni. Mwy o wybodaeth yma

Meddai Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, Sophie Howe, “ Mae’n hanfodol ein bod yn codi ymwybyddiaeth o newid hinsawdd ac yn ystyried ffyrdd newydd o ganolbwyntio ar genedlaethau’r dyfodol, yma yng Nghymru ac yn fyd-eang. Dyma’r unig brosiect gofod rwyf wedi’i weld sy’n canolbwyntio ar gynaliadwyedd, ac mae’n unigryw i Gymru fel rhan o Wythnos Ofod y Byd. A gobeithiaf mai hon fydd y daith garbon isel gyntaf i’r gofod a fydd yn ysbrydoli ein pobl ifanc i ofalu’n well am y Ddaear. Gallai NASA ddysgu rhywbeth fan hyn.”

Trwy’r prosiect hwn, mae Emily yn anelu at adleisio’r neges gan Tim Peake, a ddychwelodd o’r gofod yn dweud ‘mae’r bydysawd hwn yn ofod du anferth a phan fyddwch yn gweld y ddaear a dim byd ond tywyllwch, rydych yn sylweddoli mai dyma ni, dyma’n cartref – mae’n rhaid i ni ofalu amdano’. https://twitter.com/lorraine/status/1151405447678763008

Dewch yn eich blaen i helpu i adeiladu’r capsiwl a chymryd rhan yng ngweithdai creadigol Emily. Byddwch yn darganfod beth sy’n digwydd wrth i chi edrych ar eich cartref o 230,000 o filltiroedd i ffwrdd.

Rhannu’r Dudalen