Egni Coop yn disgleirio yng Ngwobrau Academi Cynaliadwyedd Cymru

Cyhoeddwyd enillwyr Gwobrau Academi Cynaliadwy Cymru heddiw mewn Seremoni Wobrwyo yn Stadiwm y Principality yng Nghaerdydd. Roeddent yn cynnwys sgil gynnyrch o fwyd poblogaidd y gellir ei ddefnyddio fel cynnyrch halen isel sy’n gwella blas, mainc a bwerir gan ynni’r haul, a chwmni cydweithredol solar Egni sy’n perthyn i’r gymuned ac sydd ar hyn o bryd yn rhedeg y rhaglen fwyaf o gyflwyno solar ar doeon yn hanes Cymru.

Trefnir y Gwobrau Academi Cynaliadwy gan Cynnal Cymru a RenewableUK Cymru, a’r prif noddwr yw Wales & West Utilities. Maent yn dathlu rhagoriaeth mewn cynaliadwyedd, arloesedd ac arweinyddiaeth ar draws Cymru ac yn cydnabod y gwaith a wneir gan unigolion, grwpiau cymunedol a’r sector cyhoeddus, ynghyd â busnesau bach a mawr.

Rosie Gillam ac Ilona Shadrach o Egni Coop yn derbyn y Wobr gan Vicky Davies, Llywodraeth Cymru

Enillwyr y naw categori oedd:

 EIRIOLWR CYNALIADWYEDD dan nawdd Innogy

Meleri Davies o Wynedd

LLEOLIAD NEU LE CYNALIADWY dan nawdd CECA Cymru

Cymdeithas Dai Newydd / Eggseeds – y fainc gyntaf yng Nghymru a bwerir gan ynni’r haul

Mae’r fainc yn nhiroedd Eglwys y Santes Catrin ym Mhontypridd

CADWYN GYFLENWI NEU GAFFAEL CYNALIADWY dan nawdd Arup

Prifysgol Aberystwyth – BEACON

Mwy o flas, llai o halen, bywydau iachach

PROSIECT YNNI ADNEWYDDADWY EITHRIADOL dan nawdd Llywodraeth Cymru

Egni Co-op – solar sy’n perthyn i’r Gymuned

BUSNES CYNALIADWY

Oseng-Rees Reflection, Abertawe

CYMUNED GYNALIADWY dan nawdd EDF Renewables

O Dan y Bont – Youth Matters – Aberdaugleddau

MENTER GYMDEITHASOL EITHRIADOL

Greenstream Flooring, Porth

ADDYSG NEU HYFFORDDIANT CYNALIADWY dan nawdd Dŵr Cymru

Asiantaeth Ynni Severn Wye – Dyfodol Ein Pobl – Powys

GWOBR CYDNABYDDIAETH ARBENNIG

Paul Allen, Machynlleth

Meddai Rosie Gillam, Cyfarwyddwr Egni: “Rydym wrth ein bodd o dderbyn y gydnabyddiaeth hon. Rydym wedi cwblhau 8 gosodiad solar yn y mis diwethaf ac mae llawer mwy i ddod cyn y Nadolig. Mae’n wych bod Cymru’n achub y blaen mewn solar ar doeon a bod pobl eisiau buddsoddi yn ein cwmni cydweithredol – rydym wedi derbyn symiau sy’n amrywio o £50 i £100,000. Y peth pwysicaf yw bod pobl eisiau gweithredu ar newid hinsawdd. Rydym yn ddiolchgar iawn i Gronfa Datblygu Gwledig yr UE/Llywodraeth Cymru yng Nghastell-nedd Port Talbot, Cwmni Buddiannau Cymunedol Pen y Cymoedd, Cymunedau Cynaliadwy Cymru a Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru am ariannu’r gwaith dichonoldeb a ganiataodd i ni sicrhau’r lefel hon o fuddsoddiad cymunedol mewn ynni adnewyddadwy. Gallwch ymuno â ni o hyd – ewch i www.egni.coop!”

Meddai Mari Arthur, Cyfarwyddwr Cynnal Cymru: “Unwaith eto rydym wrth ein bodd o weld canlyniadau’r Gwobrau Academi Cynaliadwy. Maent yn dangos yr amrywiaeth eang o brosiectau cynaliadwyedd sy’n cael eu cyflawni yng Nghymru ac rwy’n falch iawn o gael bod yma heddiw i’w dathlu. Mae’n rhoi gobaith mawr i mi y gall Cymru ddod yn genedl gynaliadwy.”

Meddai Rhys Wyn Jones, Pennaeth RenewableUK Cymru: “Dyma fy mhrofiad cyntaf o’r Gwobrau Academi Cynaliadwy ac mae wedi bod yn fraint cael cymryd rhan ynddynt. Mae mor gyfareddol gweld yr amrywiaeth o brosiectau sydd ar y gweill. Mae pob cynnig yn dystiolaeth anhygoel o’r penderfyniad, brwdfrydedd ac ymrwymiad eithriadol sy’n helpu Cymru i fod yn arweinydd byd-eang mewn cynaliadwyedd ymarferol mewn amrywiaeth o feysydd. Rhaid estyn diolch arbennig hefyd i’n noddwyr – heb y rhain, ni fyddai hyn oll wedi bod yn bosibl.”

Meddai Steven Edwards, Cyfarwyddwr Rheoleiddio a Masnachol Wales & West Utilities: “Rydym yn ymrwymedig i gefnogi’r cymunedau sy’n dibynnu arnom ymhell i’r dyfodol, gan ddarparu ynni sy’n fforddiadwy, dibynadwy a gwyrdd. Mae ein Cynllun Busnes nesaf yn esbonio sut rydym yn bwriadu cyflawni rhwydwaith nwy Sero Net. Crëwyd hwn mewn cydweithrediad â’n rhanddeiliaid, ac mae cynaliadwyedd yn greiddiol iddo.

“Felly rydym yn falch iawn o fod yn brif noddwr Gwobrau Academi Cynaliadwy Cymru ac rydym yn llongyfarch yr enillwyr, y mae pob un wedi dangos rhagoriaeth, arloesedd ac arweinyddiaeth mewn cynaliadwyedd.”

Os hoffech gael lluniau o unrhyw rai o’r prosiectau buddugol neu gyfweld y beirniaid neu gynrychiolwyr y prosiectau buddugol, cysylltwch â Sara Powell-Davies ar 029 2034 7840 / 07815 550 983.

diwedd

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:

Sara Powell-Davies, Rheolwr Cyfathrebu, RenewableUK Cymru, 029 2034 7840 neu 07815 550 983 neu sara.powell-davies@renewableuk.com

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Rhannu’r Dudalen