Egni Coop/Awel Aman Tawe yn un o’r teilyngwyr yn Yr 2il Wobrau BbaChau Cymru yn 2019

Mae’r Gwobrau BBaChau yn dod nôl i Gymru i ddathlu llwyddiant busnesau sy’n fach ond yn nerthol dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae rhestr fer y teilyngwyr yn barod bellach o blith cannoedd o enwebiadau a bydd y rhain yn cymryd rhan yn y seremoni wobrwyo ar ddydd Mercher 30 Hydref yng Ngwesty’r Exchange yng Nghaerdydd.

Mae’r Gwobrau’n anrhydeddu’r cyfraniadau a wneir gan entrepreneuriaid a busnesau bach a chanolig ar draws Cymru. Byddant yn diolch i fusnesau BBaCh am wasanaethu eu cymunedau, am gyflwyno ymagweddau creadigol i ddylunio cynnyrch a gwasanaeth, ac am fod yn driw i’w gwreiddiau.

Mae Egni Coop/Awel Aman Tawe (AAT) a leolir yng Nghastell-nedd Port Talbot yn deilyngwr yn y categori cynhwysiant cymdeithasol.

Meddai Rosie Gillam a Dan McCallum, Cyfarwyddwyr Egni “Ar hyn o bryd mae Egni Coop/AAT yn ymgymryd â’r datblygiad mwyaf o solar ar doeon yn hanes Cymru. Rydym wedi codi £1.1m o’n Cynnig Cyfranddaliadau bellach ac yn gosod ar naw safle ar hyn o bryd: Neuadd y Frenhines Arberth, Pontypridd Precision Engineering yng Nglynrhedynog, Canolfan Ynni Cwm-gors, Pontus Ltd yn Hirwaun, Canolfan Gymunedol Hirwaun, Neuadd Gymunedol East Williamston, Canolfan Gynadledda Glasdir, Canolfan Gymunedol Llangatwg a Chanolfan Gymunedol Owain Glyndŵr – amrywiaeth o adeiladau cymunedol a hefyd busnesau Cymreig blaengar sy’n ymrwymedig i fynd i’r afael â newid hinsawdd a lleihau eu gorbenion ynni trwy gydweithio gyda ni. Mae’r rhain yn ogystal â’r gosodiadau ar ein saith safle presennol sydd wedi bod yn rhedeg yn hwylus ers 2014.  Mae nifer fawr o adeiladau cymunedol a busnesau eraill yn yr arfaeth. Rydym eisiau cyflawni ein huchelgais i ‘solareiddio’ Cymru.

Canolfan Hamdden Trimsaran

Mae gennym hanes blaenorol cryf mewn cynhwysiant cymdeithasol – bu dros 800 o bobl o ysgolion a grwpiau cymunedol lleol yn cymryd rhan yn ein Taith i’r Lleuad yng Nghanolfan Gelfyddydau Pontardawe ym mis Hydref i godi ymwybyddiaeth o newid hinsawdd a chynnig cyfranddaliadau solar Egni. Mwy o wybodaeth a lluniau o’n llong ofod ‘Greta’ yma

Meddai Irfan Younis, Prif Swyddog Gweithredol Creative Oceanic: “Rydym yn falch iawn o ddod â’r Gwobrau BBaChau nôl i Gymru am yr ail flwyddyn. Bydd y gwobrau hyn yn diolch i berchenogion busnesau bach ac yn rhoi llwyfan iddynt gael eu cydnabod am yr holl waith gwych a wnânt. Pob lwc i’r holl derfynwyr, edrychwn ymlaen at ddathlu gyda chi ar y noson.”

Canolfan Ffenics
Canolfan Ffenics Abertawe

Rhannu’r Dudalen