Egni Co-op yn rhagori ar y nod o £4m yn y cynnig cyfranddaliadau solar

Mae Egni Co-op wedi cyhoeddi ei fod wedi rhagori ar y nod o £4m yn ei gynnig cyfranddaliadau solar Mae Egni wedi gosod 4.3MWp ar 88 o safleoedd ar draws Cymru, yn cynnwys ysgolion, busnesau ac adeiladau cymunedol.

Meddai’r Cydgyfarwyddwr, Dan McCallum, “Rydym wrth ein bodd o weld y lefel o gefnogaeth i’n cynnig cyfranddaliadau gan y cyhoedd. Mae gennym dros 1,000 o aelodau bellach. Roeddem hefyd yn falch o allu talu llog o 4% i’n haelodau’n ddiweddar ar sail y cynhyrchiant solar yn 2020, yn unol â’n Cynnig Cyfranddaliadau – mae llawer yn dewis ail-fuddsoddi eu llog gan fuddsoddi mewn mwy o gyfranddaliadau – ac felly rydym wedi codi £4.35m erbyn hyn.

Ysgol Gyfun Cefn Hengoed

Rydym wedi codi ein targed cynnig cyfranddaliadau terfynol i £4.6m. Bydd hyn yn ein galluogi i ad-dalu’r £350k olaf o’n benthyciad gan Fanc Datblygu Cymru (BDC). Rydym yn talu 5% mewn llog ar ein benthyciad gan BDC, felly hoffem ailariannu fel y gallwn neilltuo mwy o arian ar gyfer addysg ar y newid yn yr hinsawdd yn ysgolion Cymru. Gobeithiwn y bydd llawer mwy o bobl yn ymuno â ni – i gael mwy o wybodaeth, ewch i www.egni.coop

Clwb Golff Garnant

Mae aelodau Egni yn amrywio o bobl leol sydd wedi buddsoddi ein swm lleiaf, £50, i elusennau fel yr Environmental Justice Foundation, mentrau cymdeithasol fel Blue Patch a sefydliadau elusennol fel Friends Provident sydd wedi buddsoddi £100k. Y peth allweddol yw bod ein haelodau’n defnyddio unrhyw arian y gallant ei fforddio i weithredu ar y newid yn yr hinsawdd.

Gall ein holl aelodau ymuno â’r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ar 23 Mehefin – mae’n addo bod yn ddiddorol dros ben. Byddwn yn trafod beth ddylen ni ei wneud nesaf o ran gosodiadau solar heb gymhorthdal, a thrafod telerau unrhyw Gynnig Cyfranddaliadau yn y dyfodol. Byddwn hefyd yn adrodd ar ein gwaith addysgol ar ynni mewn ysgolion, a’n cynlluniau ar gyfer y dyfodol. Rydym yn awyddus i glywed gan awdurdodau lleol eraill yng Nghymru sydd eisiau gosod solar ar eu hysgolion ac adeiladau eraill – mae Cynghorau Casnewydd, Abertawe a Sir Benfro wedi dangos y ffordd o ran beth ellir ei gyflawni drwy gydweithio gyda ni.

Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Castell-nedd Port Talbot

Ychwanegodd y Cydgyfarwyddwr, Rosie Gillam, “Ar draws Cymru yn 2020, arbedodd ein paneli solar £108k mewn costau trydan i’n 88 o safleoedd, a thros 1,000 o dunellau o allyriadau CO2. Mae hyn yn bwysig i’n safleoedd cymunedol bach fel Llyfrgell Gymuned Cymer sy’n rhedeg llawer o wasanaethau lleol, yn cynnwys banc bwyd; Clwb Rygbi Cwm-gors sydd wedi bod wrth galon y pentref erioed; a Chanolfan Hyfforddi Glyn-nedd sy’n rhedeg crèche, dosbarthiadau TG a gweithgareddau eraill. A hyfyd ein safleoedd mawr fel Ysgol John Frost yng Nghasnewydd lle rydym wedi gosod 230kW, Ysgol Gyfun Treforys yn Abertawe (100kW), a’r prosiect solar ar doeon mwyaf yng Nghymru ar Felodrom Cenedlaethol Geraint Thomas yng Nghasnewydd https://youtu.be/ZC80dcRmla0 lle mae gennym osodiad anferth 500kW!

Felodrom Cenedlaethol Cymru Geraint Thomas

Ynglŷn ag Egni

Mae Egni wedi gosod 4.3 MWp o solar ar doeon ar ysgolion, adeiladau cymunedol a busnesau ar draws Cymru. www.egni.coop

Mae’r holl safleoedd yn cael eu cefnogi gan y Tariff Bwydo i Mewn. Mae Egni yn ailariannu ein benthyciad gan Fanc Datblygu Cymru gyda chyfranddaliadau cwmni cydweithredol gan fod y Banc yn codi llog o 5% tra bod aelodau’r cwmni cydweithredol yn buddsoddi ar log o 4%. Mae hyn yn golygu bod mwy o warged i’w ddefnyddio ar brosiectau addysg ar y newid yn yr hinsawdd yn ysgolion Cymru.

Mae’r tîm y tu ôl i Egni wedi sefydlu’r fenter arobryn, Awel Co-op, hefyd, sef fferm wynt gymunedol 4.7MW a gomisiynwyd ym mis Ionawr 2017. Cafodd ei hariannu gan fenthyciad gwerth £5.25m gan Fanc Triodos a chynnig cyfranddaliadau cymunedol gwerth £3m www.awel.coop.

Yn 2019, Enillodd Egni Co-op y wobr Prosiect Ynni Adnewyddadwy Eithriadol mewn seremoni a noddwyd gan Lywodraeth Cymru, a chydnabuwyd Awel Aman Tawe yn Sefydliad Amgylcheddol y Flwyddyn yng Ngwobrau Mentrau Cymdeithasol y DU.

Am ragor o fanylion am Egni, cysylltwch â Dan McCallum ar 07590 848818

Ynglŷn â Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru

Mae Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth technegol, masnachol a chaffael am ddim i ddatblygu effeithlonrwydd ynni a phrosiectau ynni adnewyddadwy, ac mae wedi cefnogi Egni. Mae’r gwasanaeth ynni’n helpu gyda chynllunio ariannol a chyllid, er enghraifft grantiau a benthyciadau di-log.

E-bost: enquiries@energyservice.wales

Rhannu’r Dudalen