Egni Co-op yn chwilio am doeon newydd ar gyfer solar!

Mae Egni Co-op yn gwmni cydweithredol ffotofoltaig solar arobryn Cymreig, ac mae’n chwilio am doeon yng Nghymru i’w defnyddio i gynhyrchu ynni glân. Mae Egni yn chwilio am adeiladau fel canolfannau cymunedol, busnesau ac ysgolion sydd â diddordeb mewn gostwng eu biliau a helpu i fynd i’r afael â newid hinsawdd.
Mae’r Tariff Cyflenwi Trydan yn dod i ben ar 31 Mawrth ond, fel cwmni cydweithredol gallwn gofrestru safle a sicrhau’r Tariff Cyflenwi Trydan am flwyddyn. Mae hyn yn rhoi amser i ni godi arian drwy ddefnyddio cyfranddaliadau cymunedol. Rydym wedi cael ymateb gwych gan y cymunedau rydym wedi ymweld â nhw. Rydym yn gweithio gyda dros 40 o fusnesau a grwpiau cymunedol ar bron 40 o safleoedd, gan rag-gofrestru dros 1 MW o solar hyd yma!

Mae’n fuddiol iawn bod Egni wedi gosod 179kw o solar yn barod ar saith safle sydd wedi bod yn rhedeg yn dda ers tair blynedd. Mae ein safleoedd presennol yn cynnwys Ysgol y Bedol, Garnant, Gweithdai Dove, Banwen, Canolfan Hyfforddi Glyn-nedd, Canolfan y Ffenics, Abertawe a Chanolfan Hamdden Trimsaran. Rydym hefyd yn rhan o’r tîm a ddatblygodd fferm wynt gymunedol Awel Co-op uwchlaw Pontardawe – cafodd hon ei chydnabod fel y prosiect ynni cymunedol gorau yng Nghymru a Lloegr ac mae wedi codi dros £3m drwy gynnig cyfranddaliadau cwmni cydweithredol.

Mae pawb yn cydnabod effaith newid hinsawdd ac mae hwn yn gyfle i wneud rhywbeth cadarnhaol, ac ennyn diddordeb pobl yng Nghymru mewn cwmni cydweithredol ar yr un pryd. Hefyd, os yw pobl eisiau gwybod am y cynnig cyfranddaliadau nesaf, gallant ymuno â’n rhestr bostio ar www.egni.coop.”

Ond does dim llawer o amser ar ôl, felly os oes gennych ddiddordeb mewn cael ynni solar ar eich to, (yn cynnwys adeiladau ar brydles, anfonwch e-bost at rosie@awel.coop neu ffoniwch 07938 377374.

Rhannu’r Dudalen