Egni Co-op yn chwalu’r targed cyfranddaliadau cymunedol o £3m ac yn ei estyn i £4m!

Mae Egni Coop wedi cyhoeddi ei fod bellach wedi cyrraedd ei darged o £3m mewn cyfranddaliadau cymunedol ac mae wedi estyn hwn i £4m.

Ysgol Gyfun Llyswyry

Mae Egni Co-op yn sefydliad cymunedol sy’n ariannu ac yn rheoli gosodiadau PV yng Nghymru. Rydym wedi gosod ein paneli ar ysgolion, busnesau ac adeiladau cymunedol. Cafodd Egni ei sefydlu gan Awel Aman Tawe (AAT), sef elusen ynni cymunedol sydd wedi bod yn gweithredu ers 20 mlynedd. Ein prif sbardunau yw mynd i’r afael â newid hinsawdd ac ennyn diddordeb pobl mewn ynni. Mae’r holl wargedion yn cael eu neilltuo i brosiectau addysgol.

Ysgol Gymraeg Casnewydd

Bellach mae Egni wedi codi £3 miliwn gan dros 1,000 o bobl a sefydliadau drwy ei gynnig cyfranddaliadau cymunedol. Mae Egni wedi gosod dros 4MWp ar 83 o safleoedd yng Nghymru, ac mae hyn yn:

Meddai Dan McCallum, Cyd-gyfarwyddwr Egni, “Rydym mor ddiolchgar i’n holl aelodau – mae rhai wedi buddsoddi £50 ac eraill, fel Sefydliad Y Gymdeithas Ddarbodus, wedi buddsoddi £100,000. Rydym yn falch o dderbyn y buddsoddiadau lleiaf – mae’n gyfle i fagu hyder yn y model cwmnïau cydweithredol ac mae llawer o’r bobl a fuddsoddodd £50 yn Awel Co-op, wedi ymweld â’n fferm wynt, ei gweld yn gweithio, ac yna wedi rhoi mwy o arian yn Egni.

Awel Co-op

Mae cwmnïau cydweithredol yn strwythurau democrataidd iawn sy’n seiliedig ar yr egwyddor o un aelod, un bleidlais, felly maent yn ffordd wych o ennyn diddordeb pobl mewn gweithredu ar newid hinsawdd. Mae ein holl ysgolion yn derbyn £500 mewn cyfranddaliadau yn Egni Co-op am ddim a thrwy hyn mae pobl ifanc yn dysgu am fentrau cydweithredol.

Canolfan Hamdden Trimsaran

Hwn yw’r prosiect mwyaf o osod solar ar doeon yn hanes Cymru www.egni.coop – mae’n anhygoel gweld beth all Cymru ei gyflawni pan ddown at ein gilydd ac adeiladu partneriaethau rhwng y sector cyhoeddus, cwmnïau cydweithredol a’n dinasyddion – yn enwedig gan fod hyn wedi ei gyflawni yn y flwyddyn pan ddigwyddodd COVID.

Rheiliau’n barod ar gyfer gosod paneli solar yn Ysgol John Frost

Rydym bellach yn anelu at ailariannu ein benthyciad gyda Banc Datblygu Cymru (BDC) i ariannu’r gosodiadau sy’n mynd yn eu blaen – yr wythnos hon, rydym yn gosod 50kW o baneli solar ar Ysgol Gyfun Penyrheol yn Abertawe. Rydym wedi ad-dalu £1 filiwn yn barod felly mae £1 filiwm i fynd. Bydd hyn yn golygu mwy o arian ar gyfer prosiectau addysgol – rydym yn talu llog blynyddol o 4% i aelodau ein cwmni cydweithredol tra bod ein benthyciad gyda BDC yn codi 5%. Dydy hyn ddim yn golygu nad ydym yn caru BDC – ni fyddai ein paneli wedi cael eu gosod heb eu cymorth nhw! Ond os gallwn ad-dalu ein benthyciad, mae hefyd yn golygu y bydd mwy o arian ym mhot BDC i ariannu mwy o brosiectau ynni cymunedol mewn rhannau eraill o Gymru. Mae llu o brosiectau rhagorol yn cael eu datblygu ledled Cymru – y man gorau i gael gwybod amdanynt yw yn Ynni Cymunedol Cymru

Clwb Golff Garnant

Ynglŷn ag Egni

Dyma ffilm ddiweddar a wnaed gan yr enillydd dau BAFTA Cymru, Mike Harrison, ynglŷn â’r prosiect solar ar doeon mwyaf yng Nghymru ar Felodrom Cenedlaethol Geraint Thomas yng Nghasnewydd https://youtu.be/ZC80dcRmla0

Mae’r tîm y tu ôl i Egni wedi sefydlu’r fenter arobryn, Awel Co-op, hefyd, sef fferm wynt gymunedol 4.7MW a gomisiynwyd ym mis Ionawr 2017. Cafodd ei hariannu gan fenthyciad gwerth £5.25m gan Fanc Triodos a chynnig cyfranddaliadau cymunedol gwerth £3m www.awel.coop.

Enillodd Egni’r wobr am Brosiect Ynni Adnewyddadwy Eithriadol a noddwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr 2019 (https://egni.co-op/egni-co-op-earns-a-place-in-the-sun-at-wales-sustainability-academy-awards/) a chafodd Awel Aman Tawe ei gydnabod fel Sefydliad Amgylcheddol y Flwyddyn yng Ngwobrau Mentrau Cymdeithasol y DU – https://www.socialenterprise.org.uk/winners-of-the-uk-social-enterprise-awards-2019/

Am ragor o fanylion am Egni, cysylltwch â Dan McCallum ar 07590 848818

Ynglŷn â Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru

Mae Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth technegol, masnachol a chaffael am ddim i ddatblygu effeithlonrwydd ynni a phrosiectau ynni adnewyddadwy, ac mae wedi cefnogi Egni. Mae’r gwasanaeth ynni’n helpu gyda chynllunio ariannol a chyllid, er enghraifft grantiau a benthyciadau di-log.

E-bost: enquiries@energyservice.wales

Twitter: @_energyservice | @_gwasanaethynni

Rhannu’r Dudalen