Dyma fi wedi esgyn!

Am ddiwrnodau anhygoel! Prysur. Cyffrous. Llafurus. A nawr dwi yn y Gofod yn troi o gwmpas y Ddaear, ac yn rhyfeddu at ei harddwch.

Roedd y diwrnodau diwethaf o baratoi ar gyfer yr Esgyniad yn rhyfedd o brysur: ffitio’r ffenestr a’r paneli rheoli, goresgyn problemau technegol fel y goleuadau yn diffodd yn sydyn, gwirio bod y system gyfathrebu’n gweithio ac ati. Rwy’n teimlo y dylen ni fod wedi datrys y mathau hyn o fanylion cyn nawr, ond roedd Taith Apollo i’r Lleuad hyd yn oedd wedi cael ei throeon anodd.

Ron Madge, y prif dechnegydd, yn trafod goleuadau tylwyth teg.
Y leinin ffelt yn y capsiwl, a wnaed o wlân Jakob, Olly a Spot..

Pleidleisiodd y  cyhoedd i enwi’r capsiwl yn Luna McLooneyface. Ond fel mae’n digwydd gyda’r pethau hyn, dwi wedi enwi’r capsiwl model bach yn Luna McLooneyface. Ac ar ôl yr holl waith, ymroddiad ac ewyllys da a gysegrwyd i greu’r capsiwl gofod maint llawn hwn, dwi’n mynd i’w enwi ar ôl arloeswr dwi’n ei hedmygu. Rhywun sy’n ddewr, yn benderfynol, ac sy’n credu’n angerddol mewn gostwng ein hallyriadau carbon: Greta Thunberg. Felly, dyma Greta, ein capsiwl gofod cynaliadwy, ar daith i’r Lleuad – yn defnyddio pŵer y meddwl.

A munud neu ddwy cyn i mi esgyn, cefais ymweliad gan Max Boyce, i ddymuno lwc dda i mi ar y daith … a’m rhybuddio i beidio â glanio ar yr ochr dywyll, fel ‘Morgan the Moon’! https://www.youtube.com/watch?v=FBrjdQIH8uw

Daeth torf dda i ffarwelio â mi, i yfed llwyddiant y Daith a chyfri’n ôl i’r Esgyniad. Yna gyda fy nau gydymaith gofo-tedi*, Mat a Rocket-Bella, saethon ni i fyny trwy do’r Ganolfan Gelfyddydau ym Mhontardawe ac allan o Fae Abertawe. Roedd mor uchel – roedd fel pe bai drymwyr yn taranu uwchlaw’r capsiwl. Ac yna’n sydyn roedden ni uwchlaw’r cymylau.

*Mae’r ddau dedi hyn wedi bod yn y gofod yn barod. Nawr maen nhw’n llywio’r capsiwl – sy’n beth gan fy mod wedi cael ychydig yn ormod o win coch, mae’n debyg, i lywio ar fy mhen fy hun: https://www.theguardian.com/education/2008/dec/04/teddy-bears-space

Dyma’r olygfa wrth i mi ddeffro’r bore ‘ma, A dwi wedi treulio llawer o’r diwrnod yn llythrennol yn gwylio’r byd yn troi ?

Rhannu’r Dudalen