Ar ddechrau’r flwyddyn hon sy’n dathlu’r glanio ar y lleuad, dywedwyd wrthyf – pe byddwn yn gallu mynd i’r Lleuad yn ddiogel ac yn gynaliadwy, byddai hawl gennyf i dderbyn y swydd dwi wedi dyheu amdani ers tro, sef Artist Preswyl ar y Lleuad. Ar ôl misoedd o astudio, a nosweithiau hwyr yn y gweithdy, rydw i nawr yn credu ei fod wir yn mynd i ddigwydd.

Dwi wedi dylunio ac adeiladu model o fy nglaniwr ar y lleuad ac mae nid yn unig yn gynaliadwy, ond mae hefyd yn organig, wedi’i gynhyrchu’n lleol, wedi’i saernïo â llaw, ac yn cael ei bweru gan y peiriant mwyaf nerthol sy’n hysbys i’r ddynol ryw: Y Dychymyg. Y cwestiwn fydda i’n gofyn i mi fy hunan dro ar ôl tro yw, a fydd yn dod â mi nôl i’r Ddaear yn ddiogel? Rwy’n gobeithio mai’r ateb yw y bydd, ond fel mae pob gofodwr yn dweud, allwch chi ddim disgwyl dod nôl heb i chi newid.

Astudiais Daith Apollo i’r Gofod, orbitau a thaflwybrau’r planedau, ein hatmosffer sy’n newid, yn cynnwys faint o CO2 sydd yn yr aer, ynghyd â’r tymereddau a’r gwasgeddau bydd yn rhaid i’r capsiwl eu gwrthsefyll. Un o’r testunau pryder oedd y posibilrwydd o fynd ar dân o ystyried bod cyflymder y Meddwl wedi llwyddo i deithio ar 99.999% o fuanedd Golau o bryd i’w gilydd. Yn ffodus dywedwyd wrthyf na fydd hyn yn broblem yn fy achos innau.
Manylion technegol:
Sail strwythurol: Helyg, wedi’u tyfu â llaw yng Nghanolfan Rheoli’r Daith yn Nhairgwaith.
Prif ddefnydd: papier mâché, papur gwastraff a ddewiswyd yn ofalus o swyddfeydd lleol – wedi’i socian a’i wasgu.
Leinin: gwlân defaid gan Jakob, Olly a Spot ar Fferm Cwm.



Ar 22 Medi, byddaf yn cychwyn y cyfnod 12 diwrnod o adeiladu’r glaniwr maint llawn yn Oriel Lliw, Canolfan Gelfyddydau Pontardawe. Gan fod yr amser yn brin (roedd gan Apollo lawer mwy o amser i adeiladu eu glaniwr nhw), byddwn i wir yn gwerthfawrogi eich cymorth. Dewch yn eich blaen i’m helpu i baratoi’r capsiwl ar gyfer yr esgyniad ar 4 Hydref am 20:00 Amser Pontardawe.
Os hoffech gymryd rhan naill ai gyda’r gwaith adeiladu neu drwy ymweld â mi ar y lleuad, anfonwch e-bost ataf: emily@myphone.coop neu dewch nôl i’r dudalen hon am fwy o fanylion am fy amserlen.
