
Dim ond deufis i fynd, felly rwy’n dechrau cynllunio’r daith i’r lleuad. Yn gyntaf oll rhaid paratoi’r capsiwl gofod. Dwi wedi ymweld â chapsiwl Tim Peake a fedra i ddim credu ei fod wedi dod yr holl ffordd nôl o’r gofod ynddo – gan deithio miloedd o filltiroedd yr awr! Bydd fy nghapsiwl innau wedi’i wneud o ddefnyddiau cynaliadwy a gyrchwyd yn lleol, a bydd yn fwy tebyg i rywbeth o’r Clangers.
