Dyfodol carbon isel cyffrous i hen ysgol gynradd – diolch i arian y Loteri

Mae prosiect adfywio allweddol, a ddatblygwyd gan Awel Aman Tawe (AAT) yng Nghwm-gors yng Nghwm Tawe, wedi derbyn hwb ariannol anferth yr wythnos hon. Mae’r Loteri Genedlaethol wedi rhoi £400,000 i ‘Hwb y Gors’ – i ailddatblygu’r hen ysgol gynradd yn y pentref.

Mae Hwb y Gors hefyd wedi derbyn grant o £250,000 yn ddiweddar gan Raglen Cyfleusterau Cymunedol Llywodraeth Cymru a £49,999 arall o Gynllun Cymunedau y Treth Gwarediadau Tirlenwi Llywodraeth Cymru, a weinyddir gan WCVA.

Bydd Hwb y Gors yn creu canolfan fenter carbon isel lewyrchus. Bydd yn cynnwys ystafelloedd swyddfa, stiwdios artistiaid, a chyfleusterau addysgol a chymunedol. Bydd y ganolfan yn lleoliad ar gyfer prosiectau cynaliadwy a fydd yn helpu pobl, sefydliadau a busnesau lleol i ffynnu.

Mae 30kW o solar ar doeon wedi’i osod yn barod a bydd gwres yn cael ei ddarparu drwy bwmp gwres o’r ddaear.

Meddai Mary Ann Brocklesby, Cadeirydd yr Ymddiriedolwyr, “Rydyn ni wrth ein bodd o glywed y newyddion hyn. Mae’n bwysig bod yr hen ysgol gynradd yn cael ei diogelu fel ased gymunedol”.

Dywedodd Sonia Reynolds, Cynghorydd Sir dros Gwm-gors, “Mae’r adeilad wedi bod yn segur ers blynyddoedd bellach, felly mae’n wych ei fod yn mynd i gael ei ailddatblygu er budd y gymuned.”

Meddai Jeremy Miles, Aelod o’r Senedd dros Gastell-nedd, “Mae Hwb y Gors wedi ennill momentwm go iawn nawr. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyfrannu £250k at y prosiect yn barod, felly rwy’n falch iawn bod hyn wedi helpu i ddenu cymorth ychwanegol gan y Loteri.”

Dywedodd Rebecca Blanche, Swyddog Cyllid yng Nghronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, “Mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn parhau i wneud cyfraniad anhygoel i gefnogi cymunedau yng Nghymru bob tro maen nhw’n prynu tocyn. Mae’n wych bod chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn galluogi pobl i wneud gwahaniaeth mawr yn eu cymunedau – diolch i brosiectau fel hyn.”

Dyma enghreifftiau o’r hyn fydd yn digwydd y tu mewn i’r adeilad:

Cefndir

Mae Awel Aman Tawe (AAT) yn elusen ynni cymunedol sydd wedi bod yn gweithredu ers 20 mlynedd. Ein prif sbardunau yw mynd i’r afael â newid hinsawdd, creu swyddi, ac ennyn diddordeb pobl mewn ynni. Rydyn ni wedi sefydlu dau gwmni cydweithredol, Awel ac Egni, sydd â thros 1500 o aelodau yn cynnwys 75 o ysgolion a sefydliadau cymunedol fel Merched y Wawr, Cyfeillion Canolfan Gelfyddydau Pontardawe, ac elusennau adfywio lleol fel Canolfan Maerdy, Canolfan y Mynydd Du a Neuadd y Mileniwm, Cwmllynfell.

Mae Egni Co-op yn ariannu ac yn rheoli gosodiadau PV yng Nghymru. Dyma ffilm ddiweddar a wnaed gan yr enillydd dau BAFTA Cymru, Mike Harrison, ynglŷn â’r prosiect solar ar doeon mwyaf yng Nghymru ar Felodrom Cenedlaethol Geraint Thomas yng Nghasnewydd https://youtu.be/ZC80dcRmla0

Mae Egni wedi codi £3.5m hyd yma drwy gynnig cyfranddaliadau cymunedol. Derbyniom fenthyciad o £2.12m gan Fanc Datblygu Cymru hefyd i ariannu’r gosodiadau sydd yn mynd ymlaen. Hwn yw’r prosiect mwyaf sy’n gosod solar ar doeon yn hanes Cymru www.egni.coop

Mae Egni wedi gosod mwy na 4MWp ar 83 o safleoedd yng Nghymru, sy’n:

Mae tîm Awel Aman Tawe hefyd wedi sefydlu’r fenter arobryn, Awel Co-op, sef fferm wynt gymunedol 4.7MW a gomisiynwyd ym mis Ionawr 2017. Cafodd ei hariannu gan fenthyciad gwerth £5.25m gan Fanc Triodos a chynnig cyfranddaliadau cymunedol gwerth £3m www.awel.coop.

Enillodd Egni Co-op y wobr Prosiect Ynni Adnewyddadwy Eithriadol mewn seremoni a noddwyd gan Lywodraeth Cymru, a chydnabuwyd Awel Aman Tawe fel Sefydliad Amgylcheddol y Flwyddyn yng Ngwobrau Mentrau Cymdeithasol y DU.

Rhannu’r Dudalen