Roedd 2023 yn flwyddyn i ddathlu ein gwirfoddolwyr gwych ac amhrisiadwy – ymddiriedolwyr Awel Aman Tawe a’r Caffi Trwsio, y Clwb Garddio, y Clwb Gwnïo, yr holl de a choffi mewn digwyddiadau, codi ein proffil yn Rhedeg yn y Parc Brynaman (gweler y llun gyda Chapten Rygbi Cymru, Jac Morgan), ynghyd â dadlwytho rhoddion o ddodrefn o lorïau Orangebox (diolch Orangebox)! Yn ystod 2023, cyfrannodd ein gwirfoddolwyr dros 1400 o oriau – diolch o galon i chi bob un, am bob munud a roesoch i ni ac i’r gymuned leol! Ym Mehefin, cydnabuwyd y gwaith caled hwn gan Gyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Cyngor Castell-nedd Port Talbot pan ddaeth ein gwirfoddolwyr yn Enillwyr y Wobr Amgylchedd!
Cysylltwch â ni os hoffech gymryd rhan!








