Rydym yn dathlu Diwrnod y Ddaear drwy ddiolch i’n holl aelodau, gosodwyr, cynghorau a staff safle yn Egni Coop sydd wedi ein helpu i osod 2.3 MW o solar cymunedol ar draws toeon yng Nghymru hyd yma….
Mae ein safleoedd yn cynnwys ysgolion, adeiladau cymunedol a busnesau. Mae’n ddiwrnod heulog heddiw felly mae’r safleoedd hynny wrthi’n brysur yn cynhyrchu ynni glân ac yn lleihau ein hallyriadau carbon.

Isod, gallwch weld un o’n safleoedd, Canolfan Ffenics Abertawe, sydd wedi derbyn cyflenwad llawn drwy’r solar ar y to ers hanner dydd heddiw. Mae hyn yn golygu nad yw wedi mewnforio trydan o’r grid o gwbl ers 7am pan gychwynnodd y solar gynhyrchu go iawn. Yn wir, mae Canolfan Ffenics wedi allforio 42.2 kWh o’r paneli i’r grid yn barod y bore hwn, sy’n golygu bod y cyflenwad pŵer i bob un ohonom rhywfaint yn lanach ac yn fwy gwyrdd!

Meddai Rosie Gillam, Cyfarwyddwr Egni “Mae ein safleoedd yn arbed arian ar y biliau trydan hefyd gan eu helpu i ddal ati yn y cyfnod anodd hwn pan fod pob ceiniog mewn costau rhedeg yn cyfrif – amcangyfrifwn y bydd cyfanswm o £88k yn cael ei arbed eleni. Felly mae’n rhoi hwb i economi Cymru – gan gadw’r gwerth a ddaw o haul ‘Cymru’ yng Nghymru ei hunan! Mae llawer o’n safleoedd wrthi’n gweithio ar y rheng flaen yn brwydro yn erbyn Covid19 – ysgolion sy’n aros ar agor i blant gweithwyr allweddol neu ganolfannau cymunedol sy’n cefnogi gwaith allgymorth i aelodau agored i niwed yn yr ardal leol. Mae gennym baneli ar ddau gartref gofal yng Nghasnewydd hefyd. Mae’r arbedion hyn yn bwysig dros ben.”

Ychwanegodd y Cyfarwyddwr, Dan McCallum “Rydym yn falch iawn o gyhoeddi hefyd bod ein chwaer gwmni cydweithredol, Awel, yn gwneud taliadau o £170k yr wythnos hon i’n 800+ o aelodau. Cafodd Awel ei ffigur cynhyrchu blynyddol uchaf hyd yma’r llynedd, sef 11,832 MWh – digon i ddiwallu cyflenwad trydan blynyddol dros 3000 o gartrefi. Mae’r aelodau hyn a fydd yn derbyn taliadau yn cynnwys sefydliadau cymuned leol fel y ddau Fanc Bwyd lleol (CATCH yn Ystalyfera a’r Pantri ym Mhontardawe), Hyb Bwyd Canolfan Maerdy yn Nhairgwaith a sefydliadau cymunedol allweddol fel Neuadd Mileniwm Cwmllynfell, Canolfan y Mynydd Du, Canolfan Gymunedol Ystradowen, Canolfan Gymunedol Cwmaman, Gweithdai Dove a Chanolfan Hyfforddi Glyn-nedd. Mae pob un o’r rhain yn gweithio’n galed i helpu’n cymunedau i oroesi’r argyfwng hwn.”

Mae Diwrnod y Ddaear yn ein hatgoffa hefyd bod ynni cymunedol yn ffordd hanfodol o sicrhau bod ein cymunedau’n fwy cynaliadwy fel y gallant ymdopi’n well ag argyfwng fel Covid19. Ond ni ddylem anghofio newid hinsawdd ychwaith. Mae’n hanfodol ein bod yn cynllunio ar gyfer dechrau mwy o osodiadau solar cyn gynted ag y bydd y cyfyngiadau symud yn y diwydiant adeiladu’n cael eu dileu. Mae’r Llywodraeth wedi gwneud ei rhan drwy estyn y Tariff Bwydo i Mewn ar gyfer prosiectau ynni cymunedol tan ddiwedd Medi. Mae ein Cynnig Cyfranddaliadau wedi codi £1.8m hyd yma tuag at ein targed of £2m, sy’n cynnwys ailgyllido benthyciad gan Fanc Datblygu Cymru – gallwch ymuno â ni yma www.egni.coop i sicrhau y bydd Diwrnodau’r Ddaear yn y dyfodol yn fwy o ddathliad nag erioed.