Cyflwyniad
Mae’r telerau defnydd hyn yn rheoli eich defnydd o’n gwefan. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rydych yn derbyn y telerau defnydd hyn yn llawn. Os ydych yn anghytuno â’r telerau defnydd hyn neu unrhyw ran o’r telerau defnydd hyn, ni chewch ddefnyddio ein gwefan.
Rhyddid i ddefnyddio’r wefan
Ni chewch, heb ganiatâd blaenorol:
- Ailgyhoeddi deunydd o’r wefan hon (yn cynnwys ailgyhoeddi ar wefan arall); gwerthu, rhentu neu is-drwyddedu deunydd o’r wefan;
- Dangos unrhyw ddeunydd o’r wefan yn gyhoeddus;
- Atgynhyrchu, dyblygu, copïo neu ecsbloetio deunydd fel arall ar ein gwefan at ddiben masnachol;
- Golygu neu addasu fel arall unrhyw ddeunydd ar y wefan; neu ailddosbarthu deunydd o’r wefan hon [ac eithrio cynnwys y nodir yn benodol ac yn ffurfiol ei fod ar gael i’w ailddosbarthu (megis ein cylchlythyr)].
Oni bai y nodir fel arall, y ni neu ein trwyddedwyr yw perchenogion yr hawliau eiddo deallusol yn y wefan a’r deunydd ar y wefan. Yn amodol ar y drwydded isod, cedwir yr holl hawliau eiddo deallusol hyn. Gallwch edrych ar, lawrlwytho at ddibenion storio dros dro yn unig, ac argraffu tudalennau o’r wefan at eich defnydd personol, yn amodol ar y cyfyngiadau a esbonnir isod ac mewn rhannau eraill o’r telerau defnydd hyn. Ble nodir yn benodol bod cynnwys ar gael i’w ailddosbarthu, gellir ailddosbarthu hwn o fewn eich sefydliad yn unig.
DEFNYDD DERBYNIOL
Ni chewch ddefnyddio ein gwefan mewn unrhyw ffordd sy’n achosi, neu a allai achosi, difrod i’r wefan neu amharu ar argaeledd neu hygyrchedd y wefan; neu mewn unrhyw ffordd sy’n anghyfreithlon, yn anghyfreithiol, yn dwyllodrus neu’n niweidiol, neu mewn cysylltiad ag unrhyw bwrpas neu weithgaredd sy’n anghyfreithlon, yn anghyfreithiol, yn dwyllodrus neu’n niweidiol. Ni chewch ddefnyddio ein gwefan i gopïo, storio, gwesteia, trawsyrru, anfon, defnyddio, cyhoeddi neu ddosbarthu unrhyw ddeunydd sy’n cynnwys (neu sy’n gysylltiedig ag) unrhyw ysbïwedd, firws cyfrifiadurol, ceffyl Caerdroea, mwydyn, logiwr trawiadau bysell, meddalwedd rootkit neu unrhyw feddalwedd cyfrifiadurol maleisus arall. Ni chewch gynnal unrhyw weithgareddau casglu data systematig neu awtomatig (yn cynnwys crafu heb gyfyngiad, cloddio data, echdynnu data a chynaeafu data) ar neu mewn perthynas â’n gwefan heb ein caniatâd ysgrifenedig datganedig. Ni chewch ddefnyddio ein gwefan i drawsyrru neu anfon cyfathrebiadau masnachol digymell. Ni chewch ddefnyddio ein gwefan at unrhyw ddibenion sy’n berthnasol i farchnata heb ein caniatâd ysgrifenedig datganedig.
MYNEDIAD CYFYNGEDIG
Mae’r mynediad ar rannau penodol o’n gwefan yn gyfyngedig. Rydym yn cadw’r hawl i gyfyngu ar y mynediad i rannau eraill o’n gwefan, neu yn wir i’n gwefan gyfan, yn ôl ein disgresiwn. Os rhoddwn ID defnyddiwr a chyfrinair i chi er mwyn caniatáu i chi gyrchu rhannau cyfyngedig o’n gwefan neu gynnwys neu wasanaethau eraill, mae’n rhaid i chi sicrhau eich bod yn cadw’ch ID defnyddiwr a’ch cyfrinair yn gyfrinachol. Efallai byddwn yn analluogi eich ID defnyddiwr a’ch cyfrinair yn ôl ein disgresiwn heb rybudd neu esboniad.
CYNNWYS A GYNHYRCHIR GAN DDEFNYDDWYR
Yn y telerau defnydd hyn, mae “eich cynnwys defnyddiwr” yn golygu deunydd (yn cynnwys testun heb gyfyngiad, delweddau, deunydd sain, deunydd fideo a deunydd clyweled) a gyflwynir gennych i’n gwefan, pa beth bynnag yw ei bwrpas. Rydych yn rhoi i ni’r rhyddid byd-eang, diwrthdro, anunigryw, rhydd o freindaliadau, i ddefnyddio, atgynhyrchu, addasu, cyhoeddi, cyfieithu a dosbarthu eich cynnwys defnyddiwr mewn unrhyw gyfryngau presennol neu yn y dyfodol. Rydych hefyd yn rhoi’r hawl i ni is-drwyddedu’r hawliau hyn, a’r hawl i ddwyn achos am dresmasu ar yr hawliau hyn. Ni chaiff eich cynnwys defnyddiwr fod yn anghyfreithiol neu’n anghyfreithlon, ni chaiff dresmasu ar hawliau cyfreithiol unrhyw drydydd parti, ac ni chaiff feddu ar y gallu i fynd i achos cyfreithiol boed yn eich erbyn chi neu yn ein herbyn ni neu yn erbyn trydydd parti (ym mhob achos dan unrhyw ddeddf berthnasol). Ni chewch gyflwyno unrhyw gynnwys defnyddiwr i’r wefan sydd yn destun neu erioed wedi bod yn destun unrhyw brawf achos gwirioneddol neu a fygythiwyd neu gŵyn debyg arall. Rydym yn cadw’r hawl i olygu neu ddileu unrhyw ddeunydd a gyflwynir i’n gwefan, neu a gaiff ei storio ar ein gweinyddion, neu a gaiff ei letya neu ei gyhoeddi ar ein gwefan. Er gwaethaf ein hawliau dan y telerau defnydd hyn mewn perthynas â chynnwys defnyddiwr, nid ydym yn ymrwymo i fonitro cyflwyno’r cyfryw gynnwys i, neu gyhoeddi’r cyfryw gynnwys ar, ein gwefan.
GWARANTIADAU CYFYNGEDIG
Er ein bod yn ymdrechu i sicrhau bod y wybodaeth ar y wefan hon yn gywir, nid ydym yn gwarantu ei bod yn gyflawn neu’n dra chywir; nid ydym yn ymrwymo ychwaith i sicrhau bod y wefan yn parhau i fod ar gael neu fod y deunydd ar y wefan yn cael ei ddiweddaru’n rheolaidd. Hyd eithaf y gallu a ganiateir gan y ddeddfwriaeth berthnasol, rydym yn gwahardd pob cynrychiolaeth, gwarantiad ac amod sy’n ymwneud â’r wefan hon a’r defnydd o’r wefan hon (yn cynnwys, heb gyfyngiad, unrhyw warantiadau sydd ymhlyg yn gyfreithiol o ran ansawdd boddhaol, addasrwydd i’r pwrpas ac/neu’r defnydd o ofal a sgil rhesymol).
CYFYNGIADAU ATEBOLRWYDD
- I’r graddau bod y wefan a’r wybodaeth a’r gwasanaethau ar y wefan yn cael eu darparu yn rhad ac am ddim, ni fyddwn yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod o unrhyw fath;
- Ni fyddwn yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod canlyniadol, anuniongyrchol neu arbennig;
- Ni fyddwn yn atebol am unrhyw golled mewn elw, incwm, refeniw, cynilion disgwyliedig, contractau, busnes, ewyllys da, enw da, data, neu wybodaeth.
- Ni fyddwn yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod yn ymgodi oddi wrth unrhyw ddigwyddiad neu ddigwyddiadau y tu hwnt i’n rheolaeth resymol;
- Bydd mwyafswm ein hatebolrwydd mewn perthynas ag unrhyw ddigwyddiad neu gyfres o ddigwyddiadau cysylltiedig yn gyfyngedig i swm rhesymol.
Ni fydd dim byd yn y telerau defnydd hyn (neu yn unrhyw ran arall o’n gwefan) yn gwahardd neu’n cyfyngu ar ein hatebolrwydd am dwyll, am farwolaeth neu anaf personol a achosir drwy ein hesgeulustod, neu am unrhyw atebolrwydd arall na ellir ei wahardd neu gyfyngu dan y gyfraith berthnasol. Yn amodol ar hyn, bydd ein hatebolrwydd i chi mewn perthynas â defnyddio’n gwefan neu dan neu mewn cysylltiad â’r telerau defnydd hyn, boed mewn contract, camwedd, (yn cynnwys esgeulustod) neu fel arall, yn cael ei gyfyngu fel a ganlyn:
INDEMNIAD
Drwy hwn rydych yn ein hindemnio ac yn ymrwymo i’n cadw dan indemniad yn erbyn unrhyw golledion, difrodau, costau, rhwymedigaethau a threuliau (yn cynnwys costau cyfreithiol heb gyfyngiad ac unrhyw symiau a dalwn i drydydd parti fel setliad mewn hawliad neu anghydfod yn unol â chyngor ein cynghorwyr cyfreithiol) a ysgwyddwyd neu a ddioddefwyd gennym o ganlyniad i unrhyw dorri ar unrhyw ddarpariaeth o’r telerau defnydd hyn gennych chi, neu sy’n ymgodi o unrhyw hawliad eich bod chi wedi torri unrhyw ddarpariaeth o’r telerau defnydd hyn.
Heb niweidio ein hawliau eraill dan y telerau defnydd hyn, os byddwch yn torri’r telerau defnydd hyn mewn unrhyw ffordd, efallai byddwn yn gweithredu mewn ffordd a ystyrir yn briodol gennym i ddelio â’r toriad, yn cynnwys eich gwahardd dros dro rhag cyrchu’r wefan, eich gwahardd yn llwyr rhag cyrchu’r wefan, rhwystro cyfrifiaduron sy’n defnyddio eich cyfeiriad IP rhag cyrchu’r wefan, cysylltu â’ch darparwr gwasanaeth rhyngrwyd a gofyn iddynt eich rhwystro rhag cyrchu’r wefan ac/neu ddwyn achos llys yn eich erbyn.
AMRYWIAD
Efallai byddwn yn diwygio’r telerau defnydd hyn o bryd i’w gilydd. Daw’r telerau defnydd diwygiedig i rym mewn perthynas â defnyddio ein gwefan o ddyddiad cyhoeddi’r telerau defnydd diwygiedig ar ein gwefan. Gwiriwch y dudalen hon yn rheolaidd i sicrhau eich bod yn gyfarwydd â’r fersiwn cyfredol.
ASEINIAD
Efallai byddwn yn trosglwyddo, is-gontractio, neu ddelio fel arall â’n hawliau ac/neu ein rhwymedigaethau dan y telerau defnydd hyn heb roi gwybod i chi neu gael eich caniatâd. Ni allwch drosglwyddo, is-gontractio, neu ddelio fel arall â’ch hawliau ac/neu eich rhwymedigaethau dan y telerau defnydd hyn.
TORADWYEDD
Os bydd unrhyw lys neu awdurdod cymwys arall yn barnu bod darpariaeth yn y telerau defnydd hyn yn anghyfreithlon ac/neu’n anorfodadwy, bydd y darpariaethau eraill yn parhau i fod mewn grym. Pe byddai unrhyw ddarpariaeth anghyfreithlon ac/neu anorfodadwy yn gyfreithlon neu’n orfodadwy pe byddai’r rhan honno’n cael ei dileu, gellir ystyried bod y rhan honno wedi ei dileu, ac y bydd gweddill y ddarpariaeth yn parhau i fod mewn grym.
GWAHARDD HAWLIAU TRYDYDD PARTÏON
Mae’r telerau defnydd hyn er eich budd chi a’n budd ninnau, ac ni fwriedir iddynt fod o fudd i unrhyw drydydd parti neu iddynt fod yn orfodadwy gan unrhyw drydydd parti. Nid yw arfer ein hawliau ninnau a’ch hawliau chi mewn perthynas â’r telerau defnydd hyn yn amodol ar ganiatâd unrhyw drydydd parti.
CYDSYNIAD LLWYR
Mae’r telerau defnydd hyn, ynghyd â’n polisi preifatrwydd, yn ffurfio’r cytundeb cyfan rhyngoch chi a ninnau mewn perthynas â’ch defnydd o’n gwefan, ac maent yn disodli pob cytundeb blaenorol mewn perthynas â’ch defnydd o’r wefan hon.
CYFRAITH AC AWDURDODAETH
Rheolir a dehonglir y telerau defnydd hyn yn unol â chyfraith Lloegr, a bydd unrhyw anghydfodau yn ymwneud â’r telerau defnydd hyn yn rhwym wrth awdurdodaeth anunigryw llysoedd Cymru a Lloegr.
EIN MANYLION
Cewch ein gwybodaeth gysylltu lawn ar ein tudalen Cysylltwch â Ni.