Rydym yn falch iawn bod ein Cynnig Cyfranddaliadau wedi mynd heibio i £2 filiwn, sef yr uchaf erioed yng Nghymru hyd y gwyddwn. Mae dros 800 o unigolion wedi buddsoddi, ond rhoddwyd hwb arbennig i ni drwy gymorth Sefydliad Y Gymdeithas Ddarbodus a fuddsoddodd £100,000. Dyma’r buddsoddiad sengl mwyaf a ganiateir dan Gynnig Cyfranddaliadau cwmni cydweithredol ac mae’n gymeradwyaeth gref o’n gwaith.
Meddai Colin Baines, Rheolwr Ymgysylltu Buddsoddiad Sefydliad Y Gymdeithas Ddarbodus, “Mae’n dda gennym wneud ein buddsoddiad uniongyrchol cyntaf mewn ynni cymunedol drwy ymuno â chwmni cydweithredol gwynt Awel. Ystyriwn fod y potensial gweddnewidiol mewn ynni cymunedol yn aruthrol, nid yn unig o ran newid carbon isel ond hefyd o ran cadernid economaidd a chymunedol lleol. Mae’r ffordd y mae’r gymuned wedi ymgymryd â’r prosiect hwn ei hunan, o’r cychwyn i’r cam cynllunio i’r broses gynhyrchu, wedi creu argraff dda iawn arnom: tipyn o gamp a ddylai fwyhau gwerth cymunedol y prosiect. Mae gan Awel hefyd y lleoliad, y dechnoleg a’r arbenigedd iawn, ynghyd ag adenillion da ar fuddsoddiad. Ar y cyd â’i fuddion cymdeithasol ac amgylcheddol, mae hyn yn golygu ei fod yn fuddsoddiad perffaith i sefydliad fel ein un ninnau sy’n ceisio defnyddio’i asedau i hybu ei amcanion elusennol.”
Meddai Dan McCallum o Awel Co-op, “Rydym wrth ein bodd o groesawu Sefydliad Y Gymdeithas Ddarbodus yn aelod o’n cwmni cydweithredol.” Mae’r Gymdeithas Ddarbodus yn ariannu amrywiaeth o brosiectau mawr ar draws y DU ac mae iddi Weledigaeth gref: “Rydym eisiau helpu i adeiladu byd teg a chynaliadwy ble gall pawb fyw bywydau ystyrlon, gyda pharch a gofal iddyn nhw eu hunain, i’w gilydd ac i’r blaned. Credwn mai pwrpas arian a’r economi yw galluogi a gwasanaethu ffyniant dynol ac amgylchedd iach, ac nad dyma yw ei bwrpas ar hyn o bryd. Rydym yn gweithio drwy grantiau, buddsoddiadau a’n gweithgareddau personol, gan geisio creu economi decach sy’n gwasanaethu pawb.”
Marchnerth! (llun gan aeolod Awel, Mike Harrison)
Ychwanegodd Dan, “Mae chwe elusen arall wedi dewis buddsoddi yn ein fferm wynt gymunedol hefyd, gan gynnwys Environmental Justice Foundation and Vision 21 – credwn ei bod yn bwysig iawn bod elusennau’n dilyn canllawiau moesegol cryf a buddsoddi mewn ynni cymunedol. Byddem yn annog elusennau eraill i wneud yr un peth – bydd hyn hefyd yn helpu i’w cynnwys yn uniongyrchol mewn ynni gwynt ar y tir fel un o’r ffyrdd rhataf o gynhyrchu ynni ac i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd. Rhagwelir mai hon fydd y ffordd rataf erbyn 2025. Mae hyn yn ôl Llywodraeth y DU – rhaid i ni ofyn felly, pam maen nhw’n cefnogi ffracio a niwclear sydd llawer yn ddrutach i’r defnyddiwr?”
Mae Cyfarwyddwyr Awel bellach wedi penderfynu estyn y Cynnig Cyfranddaliadau er mwyn ailariannu benthyciad gan Lywodraeth Cymru am £1.2 miliwn. Mae hwn yn fenthyciad 15 mlynedd @7.5% mewn llog felly bydd yn well bod aelodau’r cwmni cydweithredol yn ailariannu hyn drwy Gyfranddaliadau. Byddwn yn cadw’r gyfradd llog ar gyfer Cyfranddaliadau @5% fel yn y cynnig presennol.
Gobeithio y bydd elusennau eraill yn ymuno â ni.