Mae ysgolion Casnewydd wedi disgleirio yn COP30 gyda’u mentrau arbed ynni beiddgar, gan ysbrydoli gweithredu ar yr hinsawdd a phrofi y gall ymdrechion lleol yrru newid byd-eang.
Fel elusen sy’n canolbwyntio ar ynni adnewyddadwy a chynaliadwyedd, roeddem wrth ein bodd o gael cynnal Cynhadledd Ysgolion COP30 ar y cyd ag Ysgol Peirianneg Prifysgol Caerdydd. Roedd y digwyddiad hwn yn darparu platfform i ddisgyblion Casnewydd i ddysgu, rhannu a gweithredu fel Rhyfelwyr Ynni go iawn.

Pam Mae Hyn yn Bwysig
Esboniodd yr Athro Carrie Lear, Athro Hinsoddau’r Gorffennol a Newid System Ddaear, y wyddoniaeth y tu ôl i newid hinsawdd, pam fod angen gweithredu brys a pham fod angen i ni gefnogi gwleidyddion gwyrdd i sicrhau bod newidiadau go iawn yn digwydd.

Storïau Hinsawdd Bywyd Go Iawn
Disgrifiodd Laura Waldron o Gyngor Dinas Casnewydd yr ymdrechion lleol i arbed ynni a diogelu’r amgylchedd. Eu nod uchelgeisiol? Dileu nwy o’r holl ysgolion – cam hollbwysig tuag at sero net.

Esboniodd Gareth Banks o Orangebox sut mae cwmni dylunio dodrefn yn ailfeddwl popeth: ynni, tanwydd a deunyddiau. Mae eu dull – ailweithgynhyrchu – yn canolbwyntio ar wneud dodrefn sy’n para’n hirach, defnyddio llai o adnoddau a gwneud trwsio’n hawdd. Rydym yn dwli ar eu hymrwymiad i ailbwrpasu ffabrig pen rholiau.

Dangosodd Nikki Webb o Energy Sparks sut gall ysgolion dracio a lleihau eu defnydd ynni, gan arddangos y canlyniadau nodedig gan ysgolion Casnewydd.
Pŵer Myfyrwyr
Dangosodd eco dimau o Ysgol Gwent Is Coed ac Ysgol Gyfun Caerllion sut ddefnyddiont Energy Sparks i dorri eu defnydd o ynni.
- Cafodd yr ysgol gyfan ei chynnwys yng Ngwent Is Coed, gyda gwersi, cyfarfodydd boreol a chyfarfodydd – gan droi arbed ynni yn ymdrech cymunedol.

- Ymgyrchodd Ysgol Gyfun Caerllion dros ddiffodd pŵer yn ystod y gwyliau, gan arbed cannoedd o bunnoedd i’r ysgol.

Mae Eich Llais Chi yn Cyfrif
Ymunodd myfyrwyr â thrafodaethau Padlet rhyngweithiol ar ddau gwestiwn mawr:
- Pa fater hinsawdd yn eich cymuned chi dylai arweinwyr y byd ddelio ag ef?
- Pa syniadau fyddech chi’n eu rhannu i helpu i ymladd yn erbyn newid hinsawdd yn lleol?
Roedd yr atebion yn amrywio o leihau plastig a gwastraff ynni i blannu coed a hyrwyddo ynni adnewyddadwy.

Y Casgliad
Nid yw COP30 yn rhywbeth i arweinwyr byd yn unig – mae’n berthnasol i bawb. Profodd Rhyfelwyr Ynni ifanc Casnewydd y gall gweithredu lleol yrru newid byd-eang. Gyda’n gilydd, gallwn wneud gwahaniaeth.