Mae Cyngor Sir Penfro wedi dyfarnu contract i osod paneli solar ar doeau 20 o ysgolion a chanolfannau hamdden lleol i’r fenter gymdeithasol Gymreig, Egni Co-op.
Caiff ei amcangyfrif y bydd y paneli solar yn atal tua 200 tunnell o allyriadau carbon deuocsid y flwyddyn ac y dylent arbed £180,000 y flwyddyn i’r ysgolion a’r canolfannau hamdden mewn costau ynni.
Dylai’r systemau fod ag oes weithredol o ymhell y tu hwnt i 30 o flynyddoedd a nod y contract yw gosod dros 1MW o baneli solar PV ar yr ysgolion a’r canolfannau hamdden dros y 18 mis nesaf.
Dywedodd Steve Keating, Rheolwr Tîm Ynni a Chynaliadwyedd y Cyngor, fod y cynllun yn enghraifft o feddwl yn wahanol.
“Trwy sicrhau buddsoddiad cyfalaf allanol gan fenter gymdeithasol, mae’r prosiect ynni solar hwn yn cynnig yr holl arbedion carbon i’r Cyngor, ynghyd ag arbedion sylweddol ar wariant gweithredol heb unrhyw gost cyfalaf i’r Cyngor,” dywedodd.
“Mae’r model caffael hefyd yn sicrhau y bydd ysgolion lleol yn cael cymorth addysgol rhagorol ar bynciau ynni adnewyddadwy a newid yn yr hinsawdd.
“Ar yr un pryd, mae’r cynllun yn cefnogi uchelgeisiau cwmni cydweithredol cymunedol ynni, gan alluogi i fenter gymdeithasol gyflwyno rhagor o brosiectau ynni adnewyddadwy mewn lleoliadau eraill a chadw cymaint â phosibl o’r buddion i’r gadwyn gyflenwi yng Nghymru.”
Mae rhan allweddol o’r tendr yn gysylltiedig â rhaglen addysgol i ymgysylltu ag ysgolion yn Sir Benfro, ochr yn ochr ag Ysgolion Cynaliadwy Sir Benfro, i helpu i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd. Enw rhaglen addysg Egni yw ‘Ymgyrchwyr Ynni ydym Ni’ ac fe’i datblygwyd gan ei Swyddog Addysg, Jen James.
Mae enghraifft o’r gweithgareddau y mae’r chwe ysgol gynradd bresennol sydd â phaneli solar yn Sir Benfro wedi ymgymryd â nhw i’w gweld Fideo Ynni ar YouTube.
Mae Egni eisoes yn gweithio mewn partneriaeth ag elusen Energy Sparks sydd wedi datblygu platfform data ynni rhagorol i gynorthwyo ysgolion i leihau eu hôl troed carbon ac arbed arian.
Mae ysgol gynradd gyfartalog Energy Sparks wedi arbed o leiaf £3,000 oddi ar ei bil ynni dros y flwyddyn ddiwethaf, ynghyd â 12.8 tunnell o CO2, ac mae’r ysgol uwchradd gyfartalog wedi arbed o leiaf £12,000 a 48 tunnell o CO2.
Ar hyn o bryd, mae Egni a’i brif gontractwr Ice Solar yn cynnal gwiriadau dichonolrwydd pellach ar bob safle ac yn cydweithio â’r Grid Cenedlaethol cyn cytuno ar osodiadau terfynol â’r Cyngor. Wrth i safleoedd gael eu gosod, byddant yn cael cyhoeddusrwydd trwy sianelu cyfryngau cymdeithasol Cyngor Sir Penfro ac Egni.
Dywedodd Dan McCallum, Cyfarwyddwr Awel Aman Tawe ac Egni Co-op: “Mae’n bleser gennym gydweithio â’r Cyngor a phlant ac athrawon mewn ysgolion yn Sir Benfro.
“Mae angen i bob un ohonom gydweithio â’n gilydd i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd – fel cwmni cydweithredol, mae hynny wedi’i ymwreiddio yn ein model.
“Rydym hefyd wedi cael cefnogaeth gan Wasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru, a fu’n dyngedfennol i’n datblygiad.
“Hoffem ddiolch i Sir Penfro am eu hymagwedd arloesol tuag at gaffael – credwn mai dyma un o’r enghreifftiau cyntaf o gyngor yng Nghymru yn dyfarnu contract mawr i fenter gymdeithasol fel ni.
“Rydym bellach yn canolbwyntio ar ddarparu ynni glân ac arbed cymaint â phosibl o arian i ysgolion a chanolfannau hamdden yn Sir Benfro. Yn y dyfodol, hoffem i’r ymagwedd gydweithredol hon gael ei hystyried yn astudiaeth achos ar y ffordd orau i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd.”