Cyllid LEADER yn helpu i droi Castell-nedd Port Talbot …yn Wyrdd!

Mae Egni Coop ac Adfywio CNPT yng Nghastell-nedd Port Talbot wedi cyhoeddi bod 5 safle yn y Fwrdeistref wedi cael eu comisiynu â phaneli solar ac mae’r chweched ar ddod!

Meddai Cyfarwyddwr Egni, Rosie Gillam “Rydym wedi gorffen 5 gosodiad gan dderbyn cyllid astudiaeth ddichonoldeb gan LEADER ar eu cyfer. Mae cyfanswm o 137kw o solar wedi’i osod – bydd hyn yn arbed tua 26 tunnell o allyriadau CO2 y flwyddyn. Bydd y paneli solar yn arbed miloedd o bunnoedd mewn costau ynni hefyd ar gyfer yr adeiladau lleol hanfodol hyn. Mae cyfleusterau cymunedol fel Llyfrgell Cymer Afan yn hanfodol – un o’r llu o bethau pwysig maen nhw’n ei wneud yw darparu banc bwyd yn ystod y coronafeirws – felly mae’r holl arian a arbedir ar filiau yn helpu i sicrhau eu cynaliadwyedd.

Llyfrgell Gymunedol Cymer Afan

Y chwe safle LEADER yn CNPT yw Llyfrgell Gymunedol Cymer Afan, Clwb Rygbi Cwm-gors, Neuadd Cwmllynfell, Neuadd Gymunedol Crynant a Hwb y Gors. Rydym hefyd yn mynd i osod y swm anferth o 50kW ar Bwll Nofio Cymer yn yr wythnosau nesaf – fel bod y dŵr yn hyfryd o gynnes, a bydd y pwll nofio’n cael ei bweru gan yr haul pan fydd y pwll nofio yn ailagor i’r cyhoedd! Ariannom gostau cyfalaf y gosodiadau paneli solar trwy ein cynnig cyfranddaliadau Coop sydd wedi codi £1.9m hyd yma – rydym ninnau’n gweithredu yng Nghastell-nedd Port Talbot felly mae hwn yn hwb cyffredinol sylweddol i’r economi werdd.”

Neuadd Cwmllynfell
Canolfan Owain Glyndŵr
NPTCVS, Gaynor Richards a Tony Potts gyda thîm Ice Solar

Meddai Len Preece, Cadeirydd Adfywio CNPT “Mae’r rhain yn hybiau cymunedol allweddol ac rydym yn falch iawn o’u cefnogi ag ynni glân. Mae cyllid LEADER wedi helpu i gyfrannu dros £150,000 o gyllid cyfalaf i osod y paneli solar, felly mae’n ddefnydd da iawn o gyllid LEADER. Mae’r 6 safle’n cynnig amrywiaeth o gymorth i’w cymunedau lleol, yn cynnwys: clybiau ieuenctid, campfeydd, neuaddau chwaraeon a chyfleusterau hyfforddi ac addysg. Mae llawer o’r sefydliadau hyn yn cael eu rhedeg a/neu eu rheoli gan y cymunedau a’u gwirfoddolwyr, felly mae’n wych ein bod wedi medru eu cefnogi yn y ffordd hon”.

Clwb Rygbi Cwm-gors

Ychwanegodd cyd-Gyfarwyddwr Egni, Dan McCallum “Mae gennym nifer o safleoedd solar eraill yng Nghastell-nedd Port Talbot yn cynnwys Gweithdai Dove, Canolfan Hyfforddi Glyn-nedd, Canolfan Gymunedol Blaendulais, Myself and I, NPTCVS, Canolfan Owain Glyndŵr, Canolfan Gymunedol Cwmafan a Chanolfan Gymunedol Tregatwg. At ei gilydd, mae hyn yn golygu swm syfrdanol o 266kW o baneli solar ar adeiladau cymunedol allweddol ac mae’n cynrychioli buddsoddiad gan ein 1000+ o aelodau Coop o tua £300k, gan sicrhau bod CNPT yn siwper wyrdd …ond mae llawer mwy i’w wneud!

Canolfan Gymunedol Blaendulais

Hoffem ddiolch i’r 6 sefydliad cymunedol eu hun a Chyngor Castell-nedd Port Talbot sy’n berchen ar nifer o’r safleoedd – mae llawer o waith wedi’i wneud i drefnu’r prydlesi, cynnal arolygon asbestos, arolygon strwythurol, cael cytundeb gan y gweithredwr grid, Western Power Distribution, i gyrraedd y man hwn o ran gosodiadau llwyddiannus. Mae ein gosodwyr safleoedd, ICE Solar ac Urban Solar, wedi bod yn ardderchog drwy’r holl broses hefyd ac maen nhw wedi gwneud gwaith o safon uchel.

Hoffem ddiolch hefyd i’r staff yn Peter Lynn and Partners, ein cyfreithwyr, gan nad yw eu gwaith mor amlwg – maen nhw’n helpu i baratoi a chwblhau prydlesi sy’n unigryw i amgylchiadau’r eiddo ar bob safle ac yn sicrhau eu bod yn dderbyniol i bob plaid. Ni ddylid anwybyddu eu cyfraniad!”

Hwb y Gors

Nodiadau’r Golygydd

Egni Coop

Mae Egni Co-op yn fudiad cymunedol sy’n ariannu ac yn rheoli gosodiadau PV yng Nghymru. Cafodd ei sefydlu gan Awel Aman Tawe (AAT), elusen ynni cymunedol sydd wedi bod yn gweithredu ers 20 mlynedd. Ein prif nodau yw mynd i’r afael â newid hinsawdd ac ennyn diddordeb pobl mewn ynni.

Mae’r tîm y tu ôl i Egni hefyd wedi sefydlu’r Awel Co-op arobryn, sef fferm wynt gymunedol 4.7MW a gomisiynwyd yn Ion 2017. Cafodd ei hariannu gan fenthyciad o £5.25m gan Fanc Triodos a chynnig cyfranddaliadau cymunedol gwerth £3m www.awel.coop.

Enillodd Egni Wobr am Brosiect Ynni Adnewyddadwy Rhagorol mewn seremoni wobrwyo gan Lywodraeth Cymru y mis diwethaf https://www.sustainableacademy.wales/2019/12/02/winners-of-wales-sustainability-academy-awards-announced/ a chafodd Awel Aman Tawe ei gydnabod fel Sefydliad Amgylcheddol y Flwyddyn yng Ngwobrau Mentrau Cymdeithasol y DU –  https://www.socialenterprise.org.uk/winners-of-the-uk-social-enterprise-awards-2019/

Adfywio CNPT

Adfywio Castell-nedd Port Talbot yw’r bartneriaeth leol sy’n cyflwyno’r Cynllun Datblygu Gwledig yng Nghastell-nedd Port Talbot. Mae’r rhaglen yn cael ei chydariannu gan yr Undeb Ewropeaidd, fel rhan o’r Polisi Amaethyddol Cyffredin trwy Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig, a Llywodraeth Cymru.

Y term a roddir i’r ‘bartneriaeth’ yw’r ‘Grŵp Gweithredu Lleol’ (GGLl) ac mae’n cynnwys aelodau o’r cyhoedd, y sectorau preifat a gwirfoddol. Yng Nghastell-nedd Port Talbot, mae’r GGLl – Adfywio CNPT, yn gyfrifol am arolygu ein rhaglen LEADER  leol. Mae’r GGLl yn cynnwys cynrychiolwyr o amrywiaeth eang o sefydliadau drwy holl ardaloedd CNPT a Chymru. Mae’r GGLl yno i dargedu’r meysydd blaenoriaeth ar gyfer CNPT ac i gefnogi datblygu prosiectau llawr gwlad sy’n mynd i’r afael yn uniongyrchol â’r meysydd blaenoriaeth hyn.

Rhannu’r Dudalen