Cyhoeddi ymuno â 10:10 a Diwrnod Agored Newydd

Mae’n Bythefnos Ynni Cymunedol rhwng 24 Mehefin a 9 Gorffennaf ac ym mhob rhan o’r wlad bydd digwyddiadau i symbylu pobl i gefnogi ynni glân.  I ddathlu hyn ac i dynnu sylw at Ddiwrnod Gwynt Byd-eang (heddiw!), rydym yn agor un o dyrbinau Awel fel y gall pobl weld y tu mewn i dyrbin gwynt. Felly os hoffech weld y tu mewn i un o’r tyrau hyn, dewch yn eich blaen i’n Diwrnod Agored ar 4 Gorffennaf. Byddwn yn cynnig te a choffi, a phice ar y maen,  wedi’u pweru â gwynt!

Mae’n ddigwyddiad galw heibio – rhwng 4pm ac 8pm. Mae’r safle ar Fynydd y Gwrhyd – tua 5 milltir i’r gogledd o Bontardawe ac 20 milltir i’r gogledd o Abertawe gyda golygfeydd ysblennydd. Y cod post agosaf yw SA8 4TA ac mae map yma. Mae parcio ar gael felly nid oes angen cerdded. Anfonwch e-bost at info@awelamantawe.co.uk i fwcio eich lle. Byddwn yn nhafarn y Queen of Hearts yng Nghwm-gors wedyn i ateb unrhyw gwestiynau a rhannu peint!

Rydym hefyd wedi ymuno â’r elusen, 10:10, sy’n rhedeg ymgyrch gwych i gefnogi ynni gwynt yn y DU. Mae 10:10 wedi sefydlu apêl cyllid tyrfa i brynu gwerth £250 o gyfranddaliadau yng Nghwmni Cydweithredol Awel i’w rhoi i Sajid Javid, y Gweinidog sy’n gyfrifol am bolisi ynni gwynt, ac Ysgrifennydd Gwladol newydd yr Wrthblaid, Teresa Pearce. Bydd hyn yn rhoi chwa o bŵer gwynt cymunedol Cymreig i wleidyddion allweddol yn y gobaith y bydd hyn yn helpu i lywio’u polisïau yn y dyfodol. Gallwch weld yr ymgyrch a’r gefnogaeth yma.

Mae amser o hyd i fuddsoddi yn ein Cynnig Cyfranddaliadau a gallwch ymuno â ni am leiafswm o £50. Rydym wedi codi bron £2.3m hyd yma o’n targed o £3m ac wedi cael benthyciad o £5.25m gan Triodos Bank. Mae ein Cynnig Cyfranddaliadau parhaus yn cael ei ddefnyddio i ad-dalu benthyciad gan Lywodraeth Cymru – rydym yn awyddus i ailariannu gan fod Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig iawn i ynni adnewyddadwy cymunedol a gellir defnyddio’r arian hwn i gefnogi mwy o brosiectau.

Mae ein tyrbinau’n cynhyrchu mwy na’r rhagfynegiad – 4,525,600 kWh hyd yma ers i’r tyrbinau gael eu comisiynu ar 25 Ionawr (mae llun o’n mesurydd yma). Gwyliwch y ffilm syfrdanol o’r tyrbinau’n mynd i fyny. Darllenwch fwy ar www.awel.coop a llenwch ffurflen gais  am gyfranddaliadau! Os oes gennych unrhyw gwestiynau, peidiwch â phetruso cyn cysylltu â ni ar 01639 830870 neu anfonwch e-bost at info@awelamantawe.co.uk.

Rhannu’r Dudalen