Cyfarwyddwr Cyllid

Pwy ydym ni: www.aat.cymru a www.hwbygors.cymru

Mae Awel Aman Tawe yn elusen ynni cymunedol arloesol sy’n gweithio i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd tra’n cryfhau gwydnwch cymunedau. Wedi’i sefydlu ym 1998, rydym wedi datblygu dau o’r cydweithfeydd ynni adnewyddadwy mwyaf yng Nghymru – Awel Co-op (gwynt) ac Egni Co-op (solar a systemau ynni lleol clyfar).

Rydym yn mynd i mewn i gyfnod cyffrous a phwysig. Yn ogystal â’n hasedau ynni adnewyddadwy sefydledig, rydym yn datblygu seilwaith newydd gan gynnwys fferm solar a phrosiect storio batri (un o’r systemau “tribrid” cyntaf yn y DU). Rydym hefyd yn symud ymlaen gyda phrosiectau gwynt a solar perchnogaeth ar y cyd gyda datblygwyr masnachol – prosiectau gwerth miliynau o bunnoedd a fydd yn cael eu hadeiladu dros y 2–10 mlynedd nesaf.

Mae ein gwaith yn ymestyn ar draws strwythurau cyfreithiol a gweithredol amrywiol, gan gynnwys elusen, cymdeithasau budd cymunedol (cydweithfeydd), gweithgareddau masnachu a chyd-fentrau. Mae Hwb y Gors, ein canolfan celfyddydau a menter carbon isel, yn rhan allweddol o’n hincwm a’n datblygiad cymunedol cynyddol.

Rydym yn sefydliad deinamig sy’n cael ei yrru gan werthoedd, gyda hanes cryf a chynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol

Pam mae’r rôl hon yn bwysig

Gyda graddfa, cymhlethdod ac uchelgais yn cynyddu, mae angen Cyfarwyddwr Cyllid arnom a all sicrhau bod ein systemau ariannol, cynllunio a llywodraethu yn gadarn ac yn hyblyg, ac yn cyd-fynd â’n cenhadaeth. Mae’r rôl hon yn cynnig cyfle prin i weithio ar draws tirwedd ariannol amrywiol ac esblygol.

Y Rôl

Rydym yn chwilio am Gyfarwyddwr Cyllid profiadol, chwilfrydig a rhagweithiol i ddarparu arweinyddiaeth ariannol strategol ar draws y sefydliad. Fel aelod allweddol o’r tîm arwain uwch, byddwch yn gweithio’n agos gyda’r Prif Swyddog, y Cyfarwyddwr Creadigol, yr Ymddiriedolwyr a chydweithwyr i lunio strategaeth, cefnogi penderfyniadau a sicrhau cynaliadwyedd ariannol.

Prif Gyfrifoldebau

Arweinyddiaeth strategol

Cynllunio ac adrodd ariannol

Cyllid gweithredol a llywodraethu

Cymhlethdod a rheoli risg

Cynhyrchu incwm a phrosiectau

Arweinyddiaeth a datblygiad tîm

Manyleb Person

Profiad hanfodol

Profiad dymunol

Sgiliau a galluoedd

Rhinweddau personol

Rydym yn chwilio yn benodol am rywun sydd yn:

Pam ymuno ag Awel Aman Tawe?

Y broses ymgeisio

Cyflwynwch eich CV a llythyr eglurhaol yn nodi:

E-bost: croeso@awel.coop
Pwnc: Cyfarwyddwr Cyllid

Am sgwrs anffurfiol, cysylltwch â Dan McCallum ar 07590 848818

Cyfleoedd cyfartal

Mae’r swyddi ar agor i bawb sydd â’r cymwysterau priodol, waeth beth fo oedran, anabledd, rhyw, hil, crefydd, cyfeiriadedd rhywiol neu statws teuluol.

Mae’r swydd hon yn cael ei hariannu gan Sefydliad Esmée Fairbairn

Rhannu’r Dudalen