Mae Kerry a Lucy – ein hymgynghorwyr ynni – yn brysur bob wythnos yn cyfarfod ag aelodau o’r gymuned yn bersonol mewn llawer o hybiau lleol yn Aman Uchaf a Chwm Tawe Uchaf. Mae eu desgiau cymorth galw heibio yn ffordd o helpu’n uniongyrchol bobl sydd mewn tlodi tanwydd neu sy’n cael trafferth gyda’r cymhlethdodau o arbed ynni yn y cartref a dod yn fwy cynaliadwy. Dim ond y mis hwn maen nhw wedi helpu cartrefi gyda cheisiadau grant, wedi cyhoeddi Talebau Tanwydd, wedi helpu yng nghartrefi’r rhai oedd â systemau gwres canolog wedi methu, wedi egluro mesuryddion clyfar ac wedi archwilio materion yn ymwneud â biliau ynni. Maent wedi ymweld â digwyddiadau yng Ngwauncaegurwen, Tairgwaith, Cwmgors a Brynaman Uchaf a byddant yn parhau â digwyddiadau wythnosol ac untro i’r dyfodol. Yma, gallwch weld Kerry yn Rhynew, Tairgwaith a Lucy yn Plant Dewi, Grŵp Rhieni a Phlant Bach, yng Nghanolfan Gymunedol Cwmgors – dim ond dau o’r lleoliadau maen nhw’n ymweld â nhw’n rheolaidd.

