Mae capsiwl gofod ‘Greta’ wedi bod yn brysur yr wythnos hon, yn cludo dros 200 o bobl i’r Lleuad. Mae ysgolion, grwpiau ac ymwelwyr a alwodd heibio wedi profi’r daith 200,000 mya i’r gofod dros eu hunain. Mae wedi bod yn wych gweld y parchedig ofn ar eu hwynebau o weld yr olygfa o’r Ddaear wrth iddynt lanio. Dwi hefyd wedi croesawu Terry Pugh o TTS Science i syfrdanu’r plant gyda’i arbrofion ‘rocket tots’.






Dwi wedi sefydlu stiwdio’r Artistiaid uwchlaw un o’r craterau ac wedi defnyddio’r amrywiol ddarnau o sothach Gofod dwi wedi bod yn eu casglu ers i mi gyrraedd i greu darnau o gelf gyda fy ymwelwyr. Y bwriad yw rhoi arddangosfa at ei gilydd i ddweud wrth y Bydysawd am Y Ddaear – y rhyfeddodau a’r dinod, y pethau cadarnhaol a’r rhai negyddol. Mae pawb sy’n ymweld yn derbyn lleuad bapur fechan i greu eu celfwaith arni.
Ac mae cymaint o ddarnau hyfryd hyd yma sydd, gyda’i gilydd, yn cyfrannu at stori’r Ddaear. Dyma enghreifftiau o’r creadigaethau niferus sydd wedi’u gwneud:








Mae’r ymwelwyr wedi dod â newyddion o gartref ynghyd â byrbrydau blasus i’m calonogi. Diolch Hamish am y baklava – fy hoff fwyd erioed.
Dwi wedi bod yn gwylio’r Ddaear a datblygiad Teiffŵn Hagibis. Mae’n edrych yn arswydus. Dyma’r olygfa o’r gofod.

Mae’r profiad wedi bod yn un dwys hyd yma, ac rwy’n disgwyl yn eiddgar am wythnos arall pan fyddaf yn croesawu ymwelwyr bob dydd, cyn i mi ddod nôl i’r Ddaear ddydd Gwener.