Clwb Golff Parc Garnant – y Grîn gwyrddaf yng Nghymru!

Mae Clwb Golff Parc Garnant ac Egni Co-op wedi cyhoeddi y byddant yn gosod system 30kW o baneli solar yn y clwb.

Mae Clwb Golff Garnant yn fenter gymdeithasol sy’n perthyn i’r aelodau – mae’r holl warged yn cael ei ail-fuddsoddi i redeg y clwb ac ehangu’r cyfranogiad yn y gêm. Mae’n lleoliad ar gyfer chwarae golff, ond mae ganddo hefyd fwyty a bar gwych, ac mae’n croesawu digwyddiadau eraill fel gwleddoedd priodas. Y chwaraewr rygbi chwedlonol i Gymru, Shane Williams, yw llywydd y clwb ac mae’n chwarae’r maes yn aml! http://www.garnantgolfclub.co.uk

Meddai Dylan Jones, Ysgrifennydd y Clwb “Rydyn ni’n fodlon iawn ar y paneli. Mae ein haelodau’n gweld hwn yn gam cadarnhaol lle gall y clwb chwarae ei ran mewn mynd i’r afael â newid hinsawdd, a lleihau ei gostau trydan. Rydyn ni’n fenter gymdeithasol felly mae’r paneli solar yn cyfrannu at ein cynaliadwyedd, yn ariannol ac yn amgylcheddol.”

Meddai Dan McCallum, cyd-gyfarwyddwr Egni “Rydyn ni’n falch iawn o gefnogi’r clwb golff ac i noddi eu Diwrnod y Capten yn ddiweddar. Mae’r clwb yn gwneud gwaith gwych yn annog pobl o bob cenhedlaeth i fynd allan i’r awyr iach i chwarae golff – mae fy nhad yn un ohonyn nhw! Mae Garnant yn hyb cymunedol allweddol ac yn ased lleol.  Ac yn awr, mae’n corffori’r trawsnewid mewn ynni – roedd y maes yn arfer bod yn safle pwll glo brig, ond nawr mae’n rhan o ddyfodol ynni drwy ei baneli solar.

Mae’r lleoliad yn syfrdanol gyda golygfeydd dros Fannau Brycheiniog. Gwnaeth ein gosodwyr, Urban Solar, waith gwych yn gosod y paneli mewn amgylchiadau anodd yn ystod y cyfyngiadau symud Covid. Mae’r graff isod yn dangos bod y paneli wedi cynhyrchu 24MWh o drydan glân yn barod ers iddyn nhw gael eu comisiynu ym mis Mawrth – digon i ddiwallu anghenion blynyddol tua 8 o dai ac arbed dros 6 tunnell o allyriadau CO2.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Kevin Madge “Rwy’n gefnogwr brwd o’r clwb golff ac o ynni adnewyddadwy hefyd, felly mae’n wych gweld y ddau wedi’u cyfuno yn fy maes lleol!”

Egni Coop

Mae Egni Co-op yn sefydliad cymunedol sy’n ariannu ac yn rheoli gosodiadau PV yng Nghymru. Cafodd ei sefydlu gan Awel Aman Tawe (AAT), elusen ynni cymunedol sydd wedi bod yn gweithredu ers 20 mlynedd. Ein prif sbardunau yw mynd i’r afael â newid hinsawdd ac ennyn diddordeb pobl mewn ynni.

Bellach mae Egni wedi gosod mwy na 3,000 kW o solar ar doeon ar ysgolion, busnesau ac adeiladau cymunedol ar draws Cymru. Dyma ffilm ddiweddar a wnaed gan enillydd dau BAFTA Cymru, Mike Harrison, ynglŷn â’r prosiect solar ar doeon mwyaf yng Nghymru ar Felodrom Cenedlaethol Geraint Thomas yng Nghasnewydd https://youtu.be/ZC80dcRmla0

Mae’r tîm y tu ôl i Egni wedi sefydlu’r fenter arobryn, Awel Co-op, hefyd – sef fferm wynt gymunedol 4.7MW a gomisiynwyd ym mis Ionawr 2017. Cafodd ei hariannu gan fenthyciad gwerth £5.25m gan Fanc Triodos a chynnig cyfranddaliadau cymunedol gwerth £3m www.awel.coop.

Enillodd Egni’r wobr am Brosiect Ynni Adnewyddadwy Eithriadol a noddwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr 2019 (https://egni.co-op/egni-co-op-earns-a-place-in-the-sun-at-wales-sustainability-academy-awards/) a chafodd Awel Aman Tawe ei gydnabod fel Sefydliad Amgylcheddol y Flwyddyn yng Ngwobrau Mentrau Cymdeithasol y DU – https://www.socialenterprise.org.uk/winners-of-the-uk-social-enterprise-awards-2019/

Am ragor o fanylion am Egni, cysylltwch â Dan McCallum ar 07590 848818

Urban Solar

Mae Urban Solar yn un o osodwyr solar a mannau gwefru cerbydau trydan blaenllaw Cymru.  Maen nhw wedi gosod solar ar doeon ar gannoedd o safleoedd unigol, yn cynnwys tai, ysgolion, llyfrgelloedd, adeiladau diwydiannol, prifysgolion ac archfarchnadoedd

Rhannu’r Dudalen