Croeso!
Mae Awel Aman Tawe wedi prynu hen Ysgol Gynradd Cwmgors ac rydym wrth ein bodd yn ei hadnewyddu fel Canolfan Celfyddydau, Addysg a Menter Ddi-garbon – Hwb y Gors.Ar hyn o bryd rydym yn ymgynghori ar yr hyn yr hoffai’r gymuned leol ei weld yn cael ei gynnwys ac rydym yn cynnal cyfres o arolygon, cyfarfodydd a digwyddiadau i gael eich mewnbwn.Dilynwch y dudalen Facebook i gael y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd ac ymunwch â’n grŵp Facebook i gymryd rhan.
Rydym yn arbennig o awyddus i glywed gan gyn-ddisgyblion yr ysgol ac mae gennym rai syniadau prosiect ar gyfer cofio pawb a aeth yno. Byddem wrth ein bodd yn clywed gan gyn-ddisgyblion yr ysgol. Oeddech chi neu rywun rydych chi’n ei adnabod yn mynychu’r ysgol? Oes gennych chi unrhyw luniau? Beth yw eich atgofion o’r ysgol? Byddwn yn dechrau, gyda lluniau anhygoel a ganfuwyd gennym yn yr archifau ddoe! Dyma ddiwrnod 1, y nifer cyntaf o ddisgyblion yn yr ysgol!