Cefnogi Diwrnod Ymwybyddiaeth Tlodi Tanwydd ar 15 Chwefror!

Cynhelir Diwrnod Ymwybyddiaeth Tlodi Tanwydd ar 15 Chwefror. Nod y diwrnod yw codi ymwybyddiaeth o broblem sy’n effeithio ar 1 o bob 3 aelwyd yng Nghymru. Felly, bydd National Energy Action yn gweithio gydag ASau, awdurdodau lleol a sefydliadau eraill i godi ymwybyddiaeth o’r cymorth sydd ar gael i’r rhai sydd mewn tlodi tanwydd.

Sut allwch chi gefnogi?

o Sut ydw i’n gwybod os ydw i mewn tlodi tanwydd
o Talu am ynni
o Gwneud y mwyaf o incwm
o Sut i wneud fy nghartref yn gynhesach
o Sut i newid cyflenwr
o Sut i aros yn ddiogel gartref

Mae Tlodi Tanwydd yn effeithio ar gynifer o bobl yn ein cymunedau ac felly rydym wir yn gwerthfawrogi eich help i godi ymwybyddiaeth o’r gefnogaeth sydd ar gael.

FuelPovertyAwarenessDay #WarmSafeHomes

Rhannu’r Dudalen