Canlyniad Cynhyrfus! Tref Merthyr 30 – Newid Hinsawdd 0

Mae Clwb Pêl-droed Tref Merthyr wedi cicio gôl fuddugol yn eu brwydr i leihau eu hôl-troed carbon. Maen nhw wedi ymuno ag Egni Co-op i osod paneli solar 30kW uwchben y prif stand yn y stadiwm pêl-droed. Mae’r ddau sefydliad yn gwmnïau cydweithredol sy’n golygu eu bod yn perthyn i’w haelodau a bod yr holl wargedion yn cael eu defnyddio i gyflawni eu nodau craidd.

Mae’r enillydd dau BAFTA Cymru, Mike Harrison, wedi gwneud ffilm newydd am y gosodiad a ariannwyd gan Gymunedau Cynaliadwy Cymru a gallwch ei gweld yma.

https://youtu.be/N7ur2X_iVUo

Meddai Alex Ferraro o Egni “Rydyn ni’n credu mai Clwb Pêl-droed Tref Merthyr yw’r clwb pêl-droed gwyrddaf yng Nghymru erbyn hyn. Mae gennym baneli solar ar nifer o leoliadau chwaraeon eraill hefyd, yn cynnwys Clwb Rygbi Cwm-gors, Pafiliwn Rygbi Bryncethin, Clwb Golff Parc Garnant, Pwll Nofio Cymunedol Pontycymer a Felodrom Cenedlaethol Cymru Geraint Thomas. Byddem yn falch iawn o weld Clwb Pêl-droed Wrecsam, sy’n perthyn i’r sêr Hollywood, Ryan Reynolds a Rob McElhenney, yn dilyn esiampl Merthyr’!”

Meddai Rob Davies o Glwb Pêl-droed Tref Merthyr “Mae mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd a lleihau ein costau ynni yn bwysig iawn i’r clwb. Rydyn ni wrth ein bodd gyda’n paneli solar newydd gan Egni Co-op. Gobeithiwn y bydd ynni’r haul yn rhoi mwy fyth o egni pêl-droedio i’r Merthyron. Edrychwn ymlaen at gyrraedd yr ucheldiroedd heulog yn y dyfodol!”.

Cyflawnwyd y prosiect trwy bartneriaeth gadarn sydd hefyd yn cynnwys Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr, Cymunedau Cynaliadwy Cymru, Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru a’r Sefydliad Pêl-droed.

Mae Cynnig Cyfranddaliadau Egni ar agor o hyd ac mae wedi codi £4.4m o’i darged o £4.6m hyd yma. Cefnogir yr holl safleoedd gan y Tariff Bwydo i Mewn. Mae mwy o wybodaeth ar gael yn www.egni.coop

Ynglŷn ag Egni Co-op

Mae Egni wedi gosod 4.3 MWp o solar ar doeon ar 88 o ysgolion, adeiladau cymunedol a busnesau ar draws Cymru. Erbyn heddiw, Egni yw’r cwmni cydweithredol solar ar doeon mwyaf yn y DU. www.egni.coop

Cefnogir yr holl safleoedd gan y Tariff Bwydo i Mewn. Mae Egni yn ailariannu ein benthyciad gan Fanc Datblygu Cymru gyda chyfranddaliadau cwmni cydweithredol gan fod y Banc yn codi llog o 5% tra bod aelodau’r cwmni cydweithredol yn buddsoddi ar log o 4%. Mae hyn yn golygu bod mwy o warged i’w ddefnyddio ar brosiectau addysg newid hinsawdd yn ysgolion Cymru.

Dyma ffilm ddiweddar a wnaed gan yr enillydd dau BAFTA Cymru, Mike Harrison, ynglŷn â’r prosiect solar ar doeon mwyaf yng Nghymru ar Felodrom Cenedlaethol Geraint Thomas yng Nghasnewydd https://youtu.be/ZC80dcRmla0

Mae’r tîm y tu ôl i Egni wedi sefydlu’r fenter arobryn, Awel Co-op, hefyd, sef fferm wynt gymunedol 4.7MW a gomisiynwyd ym mis Ionawr 2017. Cafodd ei hariannu gan fenthyciad gwerth £5.25m gan Fanc Triodos a chynnig cyfranddaliadau cymunedol gwerth £3m www.awel.coop

Yn 2019, Enillodd Egni Co-op y wobr Prosiect Ynni Adnewyddadwy Eithriadol mewn seremoni a noddwyd gan Lywodraeth Cymru, a chydnabuwyd Awel Aman Tawe yn Sefydliad Amgylcheddol y Flwyddyn yng Ngwobrau Mentrau Cymdeithasol y DU.

Am ragor o fanylion am Egni, cysylltwch â Dan McCallum ar 07590 848818

Ynglŷn â Chymunedau Cynaliadwy Cymru (CCC) (SCW)

Mae CCC yn gweithio gyda sefydliadau cymunedol ar draws y wlad i wella effeithlonrwydd ynni eu hadeiladau. Maent yn lleihau eu hallyriadau ac yn gweithredu fel esiampl o gynaliadwyedd i’r gymuned gyfan. Ariennir CCC gan Raglen Datblygu Gwledig Llywodraeth Cymru, ac mae’n cael ei gyflenwi gan gonsortiwm o arbenigwyr ar effeithlonrwydd ynni yng Nghymru, dan arweiniad y Severn Wye Energy Agency. Am ragor o wybodaeth, ewch i sustainablecommunities.wales

Ynglŷn â Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru

Mae Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth technegol, masnachol a chaffael am ddim i ddatblygu effeithlonrwydd ynni a phrosiectau ynni adnewyddadwy, ac mae wedi cefnogi Egni. Mae’r gwasanaeth ynni’n helpu gyda chynllunio ariannol a chyllid, er enghraifft grantiau a benthyciadau di-log.

Email: enquiries@energyservice.wales

Rhannu’r Dudalen