Byddwn yn flwydd oed yn Chwefror!
Ar 22 Chwefror 2023, gyda chymorth Caffi Trwsio Cymru, rhedom ein Caffi Trwsio cyntaf yn Neuadd Gymunedol Cwm-gors a dydyn ni heb edrych nôl ers hynny! Rydym wedi bod yn rhedeg un bob mis ac mae’r gefnogaeth iddynt wedi cynyddu. Ethos y caffi trwsio yw atgyweirio ac ailddefnyddio fel bod llai o wastraff yn glanio mewn safle tirlenwi. Mae trwswyr gwirfoddol yn cynnig eu hamser a’u sgiliau a phan ddaw ymwelwyr ag eitemau i’w trwsio, maent yn cael croeso gan y trefnwyr, yn cael cynnig paned o de ac yn cwrdd â thrwsiwr a all drwsio’u heitem wedi torri gan amlaf.
Mae gennym dîm gwych o drwswyr gwirfoddol o’r gymuned, a pheth cyllid gan yr Ymddiriedolaeth Pobl ar gyfer teclynnau ac offer – mae wedi dod yn ddigwyddiad cymunedol mor fywiog fel bod Llywodraeth Cymru wedi ein cynnwys yn eu ffilm! Beth am alw heibio a dod â rhywbeth sydd angen ei drwsio, neu hyd yn oed helpu i drwsio neu groesawu yn un o’n caffis trwsio? Rydym yn gyfeillgar a byddem wrth ein bodd yn eich gweld!
Y llynedd cynhaliom gaffi trwsio arbennig yn yr ysgol gynradd leol, YGG Gwaun Cae Gurwen. Gan weithio gydag Eco-gyngor y disgyblion, roedd yn canolbwyntio ar drwsio gwisgoedd ysgol, ar y cyd ag ambell i degan meddal a chas pensiliau neu ddau! Roedd y plant yn anhygoel, yn croesawu ethos y Caffi Trwsio ac yn westeiwyr gwych! Gweithiodd y 3 trwsiwr yn ddiflino am 2 awr, gan drwsio 27 o’r 28 o eitemau a welsom!
Mae’r grŵp Caffi Trwsio wedi cymryd rhan hefyd mewn cyfarfod byd-eang o gaffis atgyweirio (y Fix Fest) i rannu syniadau a dysgu sgiliau newydd. Cawsom gyfle i gwrdd â thrwswyr o leoedd mor bell i ffwrdd â Toronto! At ei gilydd, y teimlad oedd bod atgyweirio yn normal, dyna beth fyddai pobl yn arfer gwneud bob amser ac mae angen i ni wneud hyn yn fwy aml eto i leihau gwastraff tirlenwi a chefnogi lles a chymuned.
Rydym hefyd wedi dechrau cynnig gweithdai mini am ddim yn ein caffi trwsio yn cynnwys cymorth TG, sgiliau peiriant gwnïo a chynnal beiciau, felly os hoffech ymuno â’r rhain, cysylltwch â ni fel y gallwn ddweud wrthych pryd fydd y gweithdai nesaf.
Yn anffodus, rydym yn ffarwelio (am nawr!) â’n cydweithiwr anhygoel, Jo. Mae Jo wedi bod yn amhrisiadwy i’r caffi trwsio, nid yn unig fel trwsiwr tecstilau ond mae’n gallu troi ei llaw at unrhyw mae’n debyg – trwsio hambyrddau pren, tebotau, jariau, standiau teisennau, blancedi picnic, tedi bêrs ac wrth gwrs, hi ydy Brenhines y Creithio!
Dydd Mercher 28 Chwefror, 10am-1pm. (Dydd Mercher olaf bob mis).
Lleoliad: Neuadd Gymunedol Cwm-gors, Heol y Fynwent, SA18 1PS.
Byddwn yn dathlu ein pen-blwydd yn un ddydd Mercher 28 Chwefror 2024 felly galwch heibio am drwsiad!