Busnesau yng Nghymru yn arwain y ffordd at 2020 lân

Mae Egni Coop newydd gomisiynu dwy system 150kW ychwanegol ar ddau gwmni yng Nghymru

80kW ar Pontus Research Ltd, Hirwaun

Mae gan Precision Engineering Ltd  yng Nglynrhedynog yng nghwm Rhondda 70kW o solar ac mae’n arbenigo mewn gwneud offer a pheiriannu. Mae gan Pontus Research 80 kW ar eu to yn Hirwaun ac maen nhw’n gwneud ymchwil yn y sectorau acwafeithrin, morol a dyfrol.

Precision Engineering

Meddai Rosie Gillam, Cyfarwyddwr Egni “Rydym wrth ein bodd o gael gweithio gyda’r ddau gwmni Cymreig hyn a leolir yn y Cymoedd. Mae’r ddau yn defnyddio swm sylweddol o drydan ar y safle. Trwy ariannu paneli solar ar eu toeon, rydym yn gallu gostwng eu biliau trydan yn sylweddol trwy ddefnyddio solar ar y safle a hefyd lleihau eu hôl-troed carbon oddi wrth eu gweithrediadau. Mae’r math hwn o brosiect yn fuddiol iawn i economi Cymru ac mae’n helpu i fynd i’r afael â newid hinsawdd. Mae’r ddau gwmni’n darparu swyddi lleol o ansawdd da, ac mae wedi bod yn bleser cael gweithio gyda nhw. Byddwn yn cyhoeddi nifer o osodiadau eraill tebyg dros y misoedd nesaf.

Gwrthdroyddion yn Pontus Research

Mae hyn yn goron ar gyfnod da i ninnau – yr wythnos ddiwethaf, cafodd Egni ei gydnabod fel Prosiect Ynni Adnewyddadwy Eithriadol mewn seremoni wobrwyo a noddwyd gan Lywodraeth Cymru, yn y Gwobrau Academi Cynaliadwy. Ar yr un pryd cafodd ein rhiant-elusen, Awel Aman Tawe, ei gydnabod fel Sefydliad Amgylcheddol y Flwyddyn yng Ngwobrau Mentrau Cymdeithasol y DU.

Dan McCallum, Y Parch. Richard Coles ac Isobel Godding yng Ngwobrau Mentrau Cymdeithasol y DU.

Ychwanegodd Rosie “Gwnaed y gwaith gosod gan y gosodwyr Cymreig Urban Solar yn Precision Engineering ac Ice Power yn Pontus, a gwnaeth y ddau gwmni waith rhagorol.”

Ni fyddai hyn wedi digwydd heb gyllid dichonoldeb. Rydym eisiau rhoi diolch arbennig i Fferm Wynt Penycymoedd am ariannu’r astudiaeth ddichonoldeb ar Pontus, a Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru a Chymunedau Cynaliadwy Cymru am ariannu’r astudiaeth ddichonoldeb ar Precision Engineering. Roedd hyn yn dadrisgio’r prosiectau ac yn ein galluogi i ariannu costau’r gosodiadau solar o’n Cynnig Cyfranddaliadau sydd bellach wedi codi £1.3m. Gall pobl ymuno â’n cwmni cydweithredol a buddsoddi £50 neu fwy – ewch i www.egnicoop am ragor o wybodaeth a gobeithiwn y byddwch yn ymuno â ni i helpu i fynd i’r afael â newid hinsawdd.”

Nodiadau i’r Golygydd

Mae Egni Co-op yn sefydliad cymunedol sy’n ariannu ac yn rheoli gosodiadau PV yng Nghymru. Cafodd ei sefydlu gan Awel Aman Tawe (AAT), elusen ynni cymunedol sydd wedi bod yn gweithredu ers 20 mlynedd. Ein prif sbardunau yw mynd i’r afael â newid hinsawdd ac ennyn diddordeb pobl mewn ynni.

Mae’r tîm y tu ôl i Egni hefyd wedi sefydlu’r fenter arobryn, Awel Co-op, sef fferm wynt gymunedol 4.7MW a gomisiynwyd ym mis Ionawr 2017. Cafodd ei ariannu gan fenthyciad gwerth £5.25m gan Fanc Triodos a chynnig cyfranddaliadau cymunedol gwerth £3m www.awel.coop 

Fel rhan o’i Gynnig Cyfranddaliadau newydd, llwyddodd Egni i sicrhau cymhorthdal Tariff Bwydo i Mewn (FiT) ar gyfer paneli solar ar safleoedd ar draws Cymru sydd â chapasiti mwyaf o rhwng 3,000-5,000kW. Hwn yw’r dyraniad mwyaf yn y DU a bydd yn cynrychioli’r prosiect mwyaf yn hanes Cymru o ran gosod solar ar doeon. Mae’r safleoedd yn cynnwys busnesau lleol, canolfannau cymuned, prifysgolion, maes golff, bragdy, clybiau rygbi, canolfannau hamdden ac ysgolion.

Bydd Cynnig Cyfranddaliadau newydd Egni yn cyflwyno:

Gellir gweld lluniau AAT yn y digwyddiad Mentrau Cymdeithasol y DU ar www.egni.coop. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch ag Awel Aman Tawe/Egni ar 07590 848818 neu 01639 830870 neu drwy swyddfa’r wasg, Mentrau Cymdeithasol y DU ar 020 3589 4950.

Pontus Research Ltd

“Gwella’r gronfa wybodaeth wyddonol a masnachol yn y sectorau acwafeithrin, morol a dyfrol a helpu i sbarduno arloesedd trwy ddarparu gwasanaethau ymchwil a datblygu effeithiol, wedi’u targedu”

Mae Pontus Research Ltd yn ddarparwr gwasanaeth hollol annibynnol mewn Ymchwil a Datblygu (YaD), sy’n cynnig gwasanaethau YaD in vivo proffesiynol, o safon uchel i’r sectorau acwafeithrin, morol a dyfrol. Rydym yn ymrwymedig i ddarparu gwasanaethau o safon a gwerth am arian drwy ddefnyddio dros 30 mlynedd o brofiad cyfunol mewn ymchwil academaidd a masnachol, ynghyd â chynhyrchu RAS masnachol, gan sicrhau gwasanaeth cyflawn, cefnogol ac effeithlon i’n cwsmeriaid, cleientiaid a’n partneriaid.

Mae Precision Engineering Ltd wedi’i leoli yng Nglynrhedynog yng Nghwm Rhondda ac mae’n arbenigo mewn gwneud offer a pheiriannu. Mae PPE Ltd wedi cynnig peirianneg fanwl yn Ne Cymru ac yn y DU ers iddo gael ei sefydlu yn 1998. Mae’r meysydd arbenigol yn cynnwys Offer Gwasgu, Peiriannau Pletio Papur Hidlo ar gyfer y Sector Modurol a Gwasgfeydd Metel.

Rhannu’r Dudalen