Rydym yn gyffrous iawn heddiw i fod yn lansio’r Cynnig Cyfran ar gyfer ein fferm wynt gymunedol www.awel.coop . Hoffem eich gwahodd i fuddsoddi o gyn lleied â £50
Bydd y ddau dyrbin yn cynhyrchu ynni glân, ac yn bwydo’r elw yn ôl i brosiectau cymunedol.
Hwn fydd eich cyfle i fod berchen rhywfaint o bŵer gwynt yng Nghymru, cymryd camau ar newid hinsawdd a chael elw ar eich buddsoddiad. Datblygwyd y prosiect gan Awel Aman Tawe, elusen leol. Mae caniatâd cynllunio llawn yn ei le am ddau dyrbin fydd â chyfanswm o 4.7 MW ar Fynydd y Gwrhyd, tua 20 milltir i’r gogledd o Abertawe.
Mae’r Cynnig hwn ar gael am gyfnod o bythefnos. Mae’r Cynnig Cyfran ar agos nes 23 Tachwedd 2015. Bydd hyn yn galluogi buddsoddwyr i hawlio gostyngiad ar dreth gyfredol cyn iddo gael ei dynnu’n ol gan y llywodraeth:
- Oherwydd yr amserlen, rydym yn dyrannu Cyfrannau ar sail y cyntaf i’r felin;
- Mae cyfrannau ar gael o £50;
- Cyfradd Elw Rhagamcannol o 7%;
- Ein targed yw 500k – gallai’r £150k cyntaf fod yn gymwys am ostyngiad ar dreth SEIS (50%); ac unrhyw rai uwch hynny a allai fod yn gymwys am ostyngiad EIS (30%);
- Cefnogi swyddi lleol.
Cliciwch yma i ddarllen ein Dogfen Cynnig Cyfran a’n Ffurflen Gais.
p.s. we are also promoting our friends at Carmarthenshire Energy who have a Share Offer open and keep an eye on Gower Power who have several exciting projects in development.