Awelog: Cwblhau a Chomisiynu


Awelog logo  Mae’r tyrbinau ar eu traed!


O’r diwedd, mae’r fferm wynt yn weithredol. Mae’n anhygoel ei gweld yn troi ar ôl cyfnod sy’n teimlo fel oes ers y cyfarfod cyntaf hwnnw 18 mlynedd yn ôl, pan ddaeth dyrnaid o drigolion lleol at ei gilydd i drafod y syniad.

Dros y misoedd diwethaf mae’r safle wedi bod yn brysur:

Arllwys y Concrit ar safle Tyrbin 2

Ar ôl adeiladu’r sylfeini dur, cafodd y rhan waelod ei llenwi â choncrit. Dyma’r concrit yn cael ei arllwys i sylfeini Tyrbin 2. Cymerodd ddiwrnod cyfan, ond gallwch weld pa mor gyflym maen nhw’n gweithio!


Yr Isbwerdy

Cwblhawyd yr isbwerdy, a’i orchuddio â cherrig. Y tu mewn, gosodwyd dwy set o offer diogelu trydan, ynghyd a’r mesuryddion a’r newidyddion, a’r cyfan yn barod i’w cysylltu â’r grid.

[su_custom_gallery source=”media:2483, 2486″ limit=”45″ width=”1000″ height=”500″ title=”never”] Bethan. Site Engineer.[/su_custom_gallery]


Cludo’r Tyrbinau

Anfonom dros 4,000 o gardiau post at y cartrefi ar hyd llwybr cludo’r tyrbinau yn esbonio sut i gael gwybod pryd fyddai’r lorïau’n mynd heibio. Dosbarthwyd posteri a thaflenni ar hyd y llwybr hefyd.

[su_custom_gallery source=”media: 2493, 2495″ limit=”45″ width=”370″ height=”275″ title=”never”] Bethan. Site Engineer.[/su_custom_gallery]

Llawer o ddiolch i’r holl bobl a’n helpodd i osod posteri, labelu a stampio – Alison Maddocks, Johanna Lukas, Derek Cobley, Andrew a Beth Lucas, Suzanne Bevan, Janet a Rhys Daniel, Rachel Kennedy, Alun Edwards, Dave Smith, Mair Craig and Graham, Don Keller, Brian Jones, Bethan Edwards, Jenny Cowley, Tanya Davies, Eleri Davies, Yvonne Wood, Mari Morris a Peter Fenner.

Dyma un noswaith yng ‘Ngwlad y Labeli’, a phawb yn mynd ati, cyn i’r gwin ddod allan…

[su_custom_gallery source=”media: 2497″ limit=”45″ width=”1000″ height=”500″ title=”never”] Bethan. Site Engineer.[/su_custom_gallery]

Cyrhaeddodd un cyflenwad y dydd am 10 diwrnod, gyda dau ddarn i bob cyflenwad fel arfer (e.e. dau lafn neu ddau ddarn o dŵr). Roedd gweld y rhain yn troi wrth y Cross ym Mhontardawe ac yn symud yn araf deg drwy’r pentrefi yn dipyn o olygfa. Daeth llawer o bobl allan ar hyd y ffordd i dynnu lluniau neu i’w ffilmio’n mynd heibio. Diolch i’r holl drigolion am eu hamynedd yn hyn o beth, ac i’n cludwr, Plantspeed – yn ffodus aeth popeth yn hwylus a llwyddom i beidio â dymchwel neu dorri dim byd ar y ffordd!

Amrywiol ddarnau

Cafodd darnau’r tyrbinau eu storio ar y lleiniau o lawr caled ger safle pob tyrbin. Roeddent wedi eu gosod yn ofalus fel y gellid eu rhoi at ei gilydd yn ddiogel, yn hwylus, ac yn y drefn gywir. Roedd hwn yn dipyn o jig-so o ystyried bod angen craen bob tro roedd rhaid symud rhywbeth!

[su_custom_gallery source=”media:2534″ limit=”45″ width=”1000″ height=”600″ title=”never”] Bethan. Site Engineer.[/su_custom_gallery]

Mae 4 darn i bob tŵr. Dyma ddau ddarn yn cyrraedd.

[su_custom_gallery source=”media: 2666″ limit=”45″ width=”1000″ height=”600″ title=”never”] Bethan. Site Engineer.[/su_custom_gallery]

Mae’r both yn mynd y tu mewn i’r nasél ar ben y tŵr. Dyma’r both a thrwyn blaen y nasél.

[su_custom_gallery source=”media:2520, 2516,” limit=”45″ width=”1000″ height=”600″ title=”never”] Bethan. Site Engineer.[/su_custom_gallery]

Mae’r llafnau’n anferth – mae’n anodd credu pa mor hir maen nhw a sut maen nhw’n bolltio i mewn i’r both. Mae’r ymylon ‘wedi eu pluo’ i leihau’r lefelau sŵn.

[su_custom_gallery source=”media:2673,2575,2514, 2512″ limit=”45″ width=”1000″ height=”600″ title=”never”] Bethan. Site Engineer.[/su_custom_gallery]

Y peirianwaith mewnol y tu mewn i’r tŵr

[su_custom_gallery source=”media:2524,” limit=”45″ width=”1000″ height=”600″ title=”never”] Bethan. Site Engineer.[/su_custom_gallery]

Gosodwyd camerâu diogelwch ychwanegol – a elwir yn UFOs – tra bod darnau’r tyrbinau’n cael eu storio. Roedd y rhain yn cysylltu’n uniongyrchol ag Enercon Security yn yr Iseldiroedd. Ymddiheuriadau i unrhyw un gafodd fraw wrth glywed llais di-gorff yn eu rhybuddio i gadw draw oddi wrth y tyrbinau 😉

[su_custom_gallery source=”media:2488,” limit=”45″ width=”1000″ height=”500″ title=”never”] Bethan. Site Engineer.[/su_custom_gallery]


Ar eu sefyll!

Felly ar ôl 7 mis o waith ar y safle – yn adeiladu’r trac, yr isbwerdy ac ati – ac ar ôl 18 mlynedd o gynllunio, mae’r tyrbinau’n cael eu codi o’r diwedd. Gwaith diwrnod neu ddau yn unig. Am deimlad! Diolch o galon i’r enillydd Gwobr BAFTA (a’r aelod o Awel) Mike Harrison, a wirfoddolodd i godi cyn y wawr i ffilmio’r gwaith o godi’r llafnau, a golygu’r ffilm hon sydd, yn llythrennol, ddyrchafol.

Ar ôl i’r tyrbinau gael eu gosod, cysylltwyd y system drydanol a dechreuodd y fferm wynt gynhyrchu trydan gwyrdd a’i fwydo i’r grid. Cawsant eu comisiynu’n llawn ar 25 Ionawr 2017, ac o’r diwrnod hwnnw ymlaen dechreuodd Awel ennill arian o’r ynni a gynhyrchir. Mae Enercon yn cynnal y profion terfynol ar y tyrbinau gweithredol cyn i allweddi’r tyrbinau gael eu trosglwyddo i Awel Co-op.

[su_custom_gallery source=”media: 2628″ limit=”45″ width=”1000″ height=”600″ title=”never”] Bethan. Site Engineer.[/su_custom_gallery]

Kani ac Eira, y mae eu bywydau wedi cael eu rheoli rhywfaint gan dyrbinau gwynt:

[su_custom_gallery source=”media: 2633″ limit=”45″ width=”600″ height=”1000″ title=”never”] Bethan. Site Engineer.[/su_custom_gallery]


Cyhoeddusrwydd

Ymddangosodd Awel ar y teledu sawl gwaith.


Gwobrau 

Mae Awel wedi ennill a/neu wedi bod ar y rhestr fer ar gyfer nifer o wobrau yn ystod 2016, yn cynnwys: Enillydd, Prosiect Ynni Adnewyddadwy’r Flwyddyn – Gwobrau Ynni Cymunedol Cymru a Lloegr; Terfynwr, Gwobrau Ynni Gwyrdd Cymru REUK; Enillydd, Gwobr Plunkett – Gwobr Perchnogaeth Gymunedol Wledig, Cymru; Terfynwr, Gwobrau Busnes Cymdeithasol NatWest; Terfynwr, Gwobrau Trydydd Sector CGGC; Terfynwr, Gwobrau Cynnal Cymru.

Dan yn y Gwobrau Ynni Cymunedol:

[su_custom_gallery source=”media: 2270″ limit=”45″ width=”1000″ height=”600″ title=”never”] Bethan. Site Engineer.[/su_custom_gallery]

Kani yn y Gwobrau Plunkett:

[su_custom_gallery source=”media: 2530″ limit=”45″ width=”1000″ height=”600″ title=”never”] Bethan. Site Engineer.[/su_custom_gallery]

Dan, Hamish Laing, Michael Calderbank a Peter Charles yng Ngwobrau Cymdeithasol NatWest:

[su_custom_gallery source=”media: 2650″ limit=”45″ width=”1000″ height=”600″ title=”never”] Bethan. Site Engineer.[/su_custom_gallery]


Adfer y trac, a gwaith ar y priffyrdd

Gan fod y tyrbinau yn eu lle bellach, nid oes angen y trac ac eithrio ar gyfer y cerbydau cynnal a chadw. Mae Swyddfa’r Safle wedi mynd, ac mae Raymond Brown wedi adfer y trac i 3 metr o led gan ddefnyddio’r tyweirch a godwyd yn gynharach yn y flwyddyn. Mae cyrbau a tharmac wedi eu gosod ar y lôn sydd ychydig yn ehangach nag o’r blaen gan wella’r gwelededd i drigolion lleol sy’n ymuno â’r A474, ac mae’r ymagoriad wedi ei dirlunio. Gosodwyd gatiau cerbydau, gatiau mochyn i gerddwyr, a mynediad i farchogwyr i ddiogelu’r comin ac i gadw anifeiliaid oddi ar y ffordd, a gerddi pobl. Mae’r cyngor wedi arolygu’r gwaith adfer dan ein Cytundeb Adran 278 ac maen nhw’n fodlon arno. Maen nhw’n cadw bond o 20% gan Awel am flwyddyn rhag ofn bydd unrhyw broblemau gyda’r gwaith a wnaed.

Yr ymagoriad, y lôn a’r trac

[su_custom_gallery source=”media: 2600,2606,2608,2612,2615″ limit=”45″ width=”1000″ height=”500″ title=”never”] Bethan. Site Engineer.[/su_custom_gallery]

Gatiau, a grid gwartheg

[su_custom_gallery source=”media: 2602,2604, 2610,2625″ limit=”45″ width=”1000″ height=”500″ title=”never”] Bethan. Site Engineer.[/su_custom_gallery]


Gwaith cynnal a chadw

Caiff y tyrbinau eu cynnal gan dechnegwyr gwasanaethu a gyflogir gan Enercon i weithio’n benodol ar dyrbinau Enercon. Dyma’n tîm o dechnegwyr: (o’r dde i’r chwith) Wayne Morgan (o’r Rhondda), Jake Mason (o Gwm-gors) ac Alan Wright (ein harbenigwr foltedd uchel).

[su_custom_gallery source=”media: 2685″ limit=”45″ width=”1000″ height=”600″ title=”never”] Bethan. Site Engineer.[/su_custom_gallery]


Y Cynnig Cyfranddaliadau

Erbyn hyn rydym wedi codi’r swm anhygoel o £1.7 miliwn trwy gyfranddaliadau cydweithredol. Mae’r Cynnig Cyfranddaliadau ar agor tan ddiwedd mis Mawrth, ac mae’n codi arian i ad-dalu ein benthyciad i Lywodraeth Cymru. Mae’r ffurflen gais a’r ddogfen cynnig cyfranddaliadau ar y wefan yma os hoffech fuddsoddi neu eu hanfon ymlaen at ffrind.

 


Ymwelwyr

Rydym wedi cael dros 100 o ymwelwyr i’r safle i wylio’r gwaith trosgludo, y gwaith codi ac i weld y tyrbinau yn eu lle. Dyma rai ohonynt:

[su_custom_gallery source=”media:2642,2640,2638, 2636,” limit=”45″ width=”1000″ height=”600″ title=”never”] Bethan. Site Engineer.[/su_custom_gallery]

[su_custom_gallery source=”media: 2679″ limit=”45″ width=”1000″ height=”600″ title=”never”] Bethan. Site Engineer.[/su_custom_gallery]

Mae croeso i chi ddod yma i weld! Gallech hyd yn oed wneud y Segment Strava: Trac Fferm Wynt Awel. Marciodd Kani y trac hwn dros y Nadolig, ac mae’n gobeithio gweld mwy o redwyr arno. Mae’n drac da ar gyfer beicio hefyd.


Felly mae’r tyrbinau’n troi… diolch o galon i bawb sydd wedi bod yn rhan o’r prosiect hwn, i bawb sydd wedi buddsoddi yn y fferm wynt, ac yn arbennig i Dan McCallum am ei benderfyniad di-ildio a’i waith caled ar hyd yr holl flynyddoedd er mwyn rhoi’r tyrbinau yn eu lle. Beth am wydraid o siampên!


[su_custom_gallery source=”media: 931″ limit=”18″ width=”1300″ height=”350″ title=”never”] Bethan. Site Engineer.[/su_custom_gallery]

 

Rhannu’r Dudalen