Awel yn ennill Gwobr Ynni Cymunedol

Mae Awel Co-op wedi ennill gwobr fel y Prosiect Ynni Adnewyddadwy Cymunedol gorau yn 2016. Mae’r Wobr yn agored i bob prosiect yng Nghymru a Lloegr.

Meddai Mary Ann Brocklesby, un o Gyfarwyddwyr Awel, “Rydym yn falch dros ben. Erbyn hyn mae cannoedd o brosiectau rhagorol yn cael eu datblygu ar draws y DU felly mae’n anrhydedd aruthrol i ni ennill y gydnabyddiaeth hon. Rydym wedi bod yn gweithio ar y fferm wynt gymunedol hon ers 18 mlynedd ac roedden ni yno ar ddechrau’r mudiad ynni cymunedol yn y DU. Mae wedi cymryd llawer o amser, a bu’n rhaid i ni oresgyn nifer o anawsterau, ond mae’n bleser gweld y tyrbinau gwynt yn cael eu hadeiladu nawr a’r gefnogaeth a gawn trwy ein Cynnig Cyfranddaliadau. Bellach mae dros 150MW o ynni cymunedol a £95m o fuddsoddiad cymunedol yn y DU – rydym yn falch o fod yn rhan o’r mudiad hwn.

Rydym hefyd yn derfynwyr yng Ngwobrau Ynni Adnewyddadwy’r DU Cymru yn y categori Mudiad Rhagorol a gaiff ei gyhoeddi ar 4 Tachwedd yng Nghaerdydd, ac yng Ngwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru a gyhoeddir mewn seremoni yn Stadiwm Liberty, Abertawe ar 28 Medi.

Meddai Dan McCallum, rheolwr prosiect Awel, “Mae ynni cymunedol yn un o’r ffyrdd gorau o fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd gan ei fod yn ennyn diddordeb pobl yn ein system ynni. Roedd yn gyfareddol clywed yn y Gwobrau Ynni Cymunedol am y twf mewn ynni cymunedol yn yr Almaen – 1,000MW o brosiectau wedi eu gosod ac £1.53 biliwn wedi ei fuddsoddi. Erbyn heddiw mae dros 800 o gwmnïau cydweithredol ynni yn yr Almaen – gweler y graff isod.

Roedd presenoldeb cryf gan Gymru ar draws y Gwobrau gydag Anafon Hydro, Swansea Energy Coop, Cydynni a Chilgwyn yn cael eu cydnabod @Anafon_Hydro @SCEES_Swansea #cilgwyn #cydynni.

“Rydym eisiau i’n fferm wynt fod yn perthyn i gymaint o bobl â phosibl – mae’n wych eich bod yn gallu bod yn gydberchennog ar fferm wynt am £50. Fel cwmni cydweithredol, mae’n drefn un aelod, un bleidlais ni waeth faint o gyfranddaliadau sydd gan rywun. Rydym yn cynnig enillion o 5% i aelodau ac mae’r holl elw yn mynd i brosiectau ynni adnewyddadwy cymunedol newydd.

Rydym wedi codi bron £1.3m yn barod a’r nod yw codi £2 filiwn o’n cynnig cyfranddaliadau cymunedol. Ymunwch â ni drwy fuddsoddi yn www.awel.coop.

Rhannu’r Dudalen