Awel Co-op yn cael benthyciad o £5.25m ar gyfer fferm wynt gymunedol

Mae’r fferm wynt gymunedol wobrwyedig, Awel Co-op, yn dathlu buddsoddiad o £5.25m gan Fanc Triodos. Meddai Dan McCallum, un o gyfarwyddwyr y cwmni cydweithredol.

Victoria Allsopp a Elin Blundell, Burges Salmon; Ben Kumordzie, TLT, Triodos’ solicitor. Mary Ann Brocklesby and Dan McCallum, Awel Co-op

“Rydym wrth ein bodd fod Triodos, y prif fanc moesegol yn y DU, wedi penderfynu rhoi benthyciad 15 mlynedd i ni. Rhoesant y benthyciad ar ôl proses ddiwydrwydd dyladwy drylwyr ar y fferm wynt. Dyma un o’r buddsoddiadau mwyaf erioed yn hen gymuned lofaol Cwm Aman. Mae Triodos wedi bod yn gefnogwyr allweddol i’r sector ynni cymunedol tra chyffrous ers blynyddoedd yn y DU, ond dyma’r tro cyntaf iddyn nhw allu buddsoddi mewn cwmni cydweithredol ynni yng Nghymru.”

Nawr mae’r cwmni cydweithredol wedi penderfynu estyn ei Gynnig Cyfranddaliadau tan ddiwedd Gorffennaf neu nes iddo gyrraedd ei darged o £3m. Bydd hyn yn galluogi Awel i ad-dalu benthyciad o £1.2m gan Lywodraeth Cymru. Bydd y gyfradd llog ar gyfer cyfranddaliadau yn aros ar 5% y flwyddyn er mwyn cyrraedd y targed o £3m cyn gynted â phosibl. Cafodd y prosiect ei gefnogi gan y seren Hollywood, Michael Sheen, sy’n dod o Bort Talbot;  Paul Thorburn, y chwaraewr rygbi Cymreig chwedlonol; Gillian Clarke, Bardd Cenedlaethol cyntaf Cymru; a Paul Allen o’r Canolfan Technoleg Amgen.

Meddai Steve Moore o Triodos “Gan fy mod yn gyfarwydd â’r prosiect hwn ers tro, mae’n wych gweld ei fod wedi dwyn ffrwyth.  Mae ymgysylltu â’r gymuned yn rhan hanfodol o’r prosiect hwn ac mae llwyddiant y sylfaen eang o gyfranddalwyr yn y gymuned yn dystiolaeth o hynny.  Mae pob prosiect cymunedol yn ymwneud â phobl ac nid yw hwn yn eithriad – mae Awel wedi dangos lefelau anarferol o daerni ac ymroddiad i oresgyn llawer o heriau er mwyn gwneud i’r prosiect hwn ddigwydd, a gallant fod yn haeddiannol falch o’u cyflawniad rhagorol.  Nid yw prosiectau fel hwn yn hawdd eu cyflawni ac rydym wedi medru defnyddio’r profiad sydd gennym wrth dreulio dros ddegawd yn cefnogi prosiectau cymunedol tebyg.”

Ychwanegodd Dan “Rydym eisiau cydnabod y rhan hanfodol mae Llywodraeth Cymru wedi ei chwarae wrth ddarparu’r cyllid pontio o £3.55m i ni er mwyn adeiladu ein prosiect. Mae hyn wedi ein galluogi i gynnal ein cynnig cyfranddaliadau sydd hyd yma wedi codi £2.26m, ac i sicrhau cyllid gan Triodos.  Dylai hon fod yn astudiaeth achos ar sut gall cymorth gan lywodraeth hyrwyddo ymgysylltu â’r gymuned a helpu i ysgogi cyllid i un o ardaloedd mwyaf difreintiedig y DU.

Rydym hefyd eisiau rhoi diolch i Ynni Lleol, Big Society Capital, Esmee Fairbairn Charitable Trust, Robert Owen Community Banking a Rhaglenni Rhanbarthol yr UE am ddarparu arian datblygu hanfodol. Rydym hefyd yn ddiolchgar iawn am y gefnogaeth gan ein cynghorwyr cyfreithiol, Burges Salmon, sydd wedi bod gyda ni ar y daith hon o’r cychwyn cyntaf. Heb ymrwymiad staff Burges Salmon, ni fyddai ein prosiect wedi cael ei adeiladu.

Bydd ein holl elw, a amcangyfrifir yn £3m dros 20 mlynedd, yn cael ei ail-fuddsoddi mewn mwy o brosiectau carbon isel yn ein cymuned. Rydym eisiau i gymaint o bobl, elusennau a grwpiau cymunedol â phosibl fod yn berchen ar ein fferm wynt – mae’n wych eich bod yn gallu bod yn gyd-berchennog ar fferm wynt am £50. Fel cwmni cydweithredol, mae’n un aelod, un bleidlais ni waeth faint o gyfranddaliadau sydd gan rywun. A byddwch yn gallu gweld i ble mae eich arian yn mynd! Ewch i http://awel.coop/?lang=cy i gael mwy o wybodaeth”

Nodiadau i’r Golygydd

Mae Awel Co-op wedi ceisio dathlu creadigrwydd a hwyl i ennyn diddordeb pobl yn y broses o adeiladu’r fferm wynt, ac yn ei rheolaeth yn y dyfodol. Gellir gweld ein cyfres o luniau treigl o adeiladu’r sylfeini, a elwir y Bake Off, ac sydd wedi eu gosod ar gân, yma. Gwnaeth Mike Harrison, sy’n enillydd dau BAFTA Cymru, ffilm ysbrydoledig o’r broses o godi’r tyrbin, gan gipio codiad haul godidog Cymreig.

Mae’r prosiect yn cynnwys dau dyrbin gwynt Enercon, gyda chapasiti o 2.35MW bob un. Mae gan y fferm wynt gapasiti o 4.7MW a bydd yn cynhyrchu digon i ddiwallu anghenion trydan blynyddol cyfatebol dros 2000 o gartrefi. Hyd yma mae’r lefelau cynhyrchu yn uwch na’r disgwyl. Lleolir y fferm wynt ar Fynydd y Gwrhyd yn agos at dref Pontardawe. Mae tua 20 milltir i’r gogledd o Abertawe ar ymyl gorllewinol y Cymoedd.

Rhannu’r Dudalen