Awel Co-op ar y Rhestr Fer ar gyfer Gwobr Ddiwydiant Bwysig

Mae prosiect fferm wynt gymunedol Awel Coop ger Abertawe wedi ei enwebu yn y categori ‘Llunio Lleoedd a Arweinir gan y Gymuned’ yng Ngwobrau Cynllunio 2017.

Mae’r gwobrau blynyddol yn cydnabod gwaith eithriadol mewn meysydd fel cynllunio seilwaith, cyfranogiad rhanddeiliaid a chaniatâd cynllunio, ynghyd â llunio lleoedd, dylunio trefol, datblygu economaidd, tai, adfywio, cyngor cyfreithiol ac ymgynghori amgylcheddol.

Meddai’r Cyfarwyddwr, Dan McCallum “Rydym wrth ein bodd o gael bod ar y rhestr fer. Cymerodd 18 mlynedd i ni lywio’r prosiect hwn o’r cam cynllunio i’r adeiladu. Mae’n bwysig bod y system gynllunio yn rhoi mwy o ystyriaeth i lunio lleoedd cymunedol gan mai dyma oedd ein gweledigaeth o’r cychwyn cyntaf. Roeddem eisiau harneisio ased lleol, sef y gwynt, i alluogi adfywio lleol. Mae’n fendigedig gweld ein tyrbinau yn eu lle bellach yn cynhyrchu ynni glân, ac rydym eisiau annog mwy o bobl i ymweld â’n safle. Rydym yn cynnal Diwrnod Agored ar 4 Gorffennaf rhwng 4 – 8pm. Mae croeso i bawb – anfonwch e-bost at info@awelamantawe.co.uk neu ffoniwch 01639 830870 i fwcio lle. Byddwn yn darapru te, coffi a phice ar y maen wedi’u pweru gan y gwynt!”

Mae’r prosiect yn perthyn i’r cwmni cydweithredol lleol, Awel Coop, ac mae’n cynnwys dau dyrbin gwynt Enercon 2.35MWh a ddechreuodd gynhyrchu ym mis Ionawr. Rydym yn disgwyl cynhyrchu tua 12,558 MWh o ynni carbon isel glân bob blwyddyn, sy’n ddigon i gyflenwi dros 2000 o gartrefi.

Lleolir y fferm wynt ar Fynydd y Gwrhyd, yn agos i dref Pontardawe a thua 20 milltir o ogledd Abertawe, ac yn ddiweddar sicrhaodd un o’r buddsoddiadau mwyaf erioed yn Nyffryn Aman: buddsoddiad 15 mlynedd, gwerth £5.25m, gan Triodos, prif fanc cynaliadwy Ewrop.

Ychwanegodd Dan “Yn ogystal â Triodos, rydym eisiau diolch i’n cynghorwyr sydd wedi gweithio’n galed gyda ni dros lawer o flynyddoedd i sicrhau caniatâd cynllunio – Dulas, ADAS a’n tîm cyfreithiol yn Burges Salmon.”

Mae’r cwmni cydweithredol hefyd wedi codi £2.3m yn ychwanegol drwy’r cynnig cyfranddaliadau mwyaf erioed yng Nghymru. Nod y cynnig cyfranddaliadau yw codi cyfanswm o £3m cyn diwedd Gorffennaf a fydd yn ei alluogi i ailariannu benthyciad gan Lywodraeth Cymru.

Caiff y prosiect ei gefnogi gan y seren Hollywood, Michael Sheen, sy’n dod o Bort Talbot;  y chwedl rygbi Cymreig, Paul Thorburn; Bardd Cenedlaethol Cymru, Gillian Clarke; a Paul Allen o’r Canolfan Technoleg Amgen ym Machynlleth, Powys.

Cyhoeddir yr enillwyr yn Savoy Place yn Llundain heno.

 

Rhannu’r Dudalen