Mae Awel Aman Tawe, sy’n fenter gymdeithasol a leolir yng Nghastell-nedd Port Talbot, De Cymru, wedi ennill y Wobr am Sefydliad Amgylcheddol y Flwyddyn yng Ngwobrau Mentrau Cymdeithasol y DU, a gynhaliwyd yn Neuadd y Ddinas yng nghanol Llundain ar noson 4 Rhagfyr.
Mae’r Dyfarniadau Cenedlaethol, a drefnir gan Social Enterprise UK (SEUK), yn cydnabod rhagoriaeth a llwyddiant eithriadol gan fentrau cymdeithasol, sef busnesau a sefydlir at ddiben cymdeithasol neu amgylcheddol. O fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd i ostwng digartrefedd, mae mentrau cymdeithasol yn ymgymryd â rhai o’r heriau mwyaf a wynebwn, gan ddefnyddio’u helw i newid bywydau a diogelu’r blaned.
Mae 100,000 o’r busnesau hyn yn y DU yn cyfrannu £60 biliwn at yr economi ac yn cyflogi dwy filiwn o bobl.
Mae Awel Aman Tawe yn elusen sydd wedi sefydlu dau gwmni cydweithredol (Awel ac Egni) i gynhyrchu ynni adnewyddadwy, ymgysylltu â’r gymuned a chyflawni deilliannau addysgol. Cafodd ei fferm wynt, Awel Coop, ei chomisiynu yn 2017 ac mae ganddi amrywiaeth o aelodau lleol yn cynnwys elusennau, clybiau rygbi a phêl-droed, ysgolion a’r Ganolfan Gelfyddydau leol. Mae dros 2000 o bobl wedi ymweld â’r prosiect hyd yma. Mae Egni Coop yn datblygu solar ar doeon ar gyfer ysgolion, busnesau ac adeiladau cymunedol – ei nod yw gosod 5MW o solar ar draws Cymru ac mae ganddo Gynnig Cyfranddaliadau sydd ar agor nawr ac sydd wedi codi £1.3m hyd yma. www.egni.coop
Dywedodd Dan McCallum, cyd-sylfaenydd Awel Aman Tawe “Roedden ni’n grŵp bach iawn o bobl mewn hen gymuned lofaol sydd wedi bod yn gweithio ar hyn am 20 mlynedd – wnaethon ni fyth meddwl y byddem yn ennill y wobr hon ac mae’n anrhydedd anferth. Erbyn hyn mae gennym 1,000+ o aelodau ac 20,000 o aelodau anuniongyrchol trwy ein grwpiau cymunedol. Mynd i’r afael â newid hinsawdd ar lefel gymunedol yw ein nod parhaol a bydd y gydnabyddiaeth hon yn ein helpu ninnau, ac eraill, i wneud mwy – mae hwn yn fater brys.”
Cafodd y dathliad blynyddol o fentrau cymdeithasol Prydeinig ei drefnu gan y cerddor, y newyddiadurwr a’r offeiriad yn Eglwys Loegr, y Parchedig Richard Coles
Meddai Peter Holbrook, Prif Weithredwr Social Enterprise UK:
“Mae enillwyr Gwobrau Mentrau Cymdeithasol y DU eleni yn dangos pa mor symbylol a hanfodol yw’r mudiad mentrau cymdeithasol.
O fynd i’r afael â thlodi eiddo a chyfnod i gymryd perchenogaeth ar eu strydoedd mawr a chreu cynlluniau ynni adnewyddadwy sy’n perthyn i’r gymuned – maen nhw’n dangos sut gall busnes ymgymryd â’r heriau mwyaf a wynebwn a bod yn rym ystyrlon er daioni yn y byd hwn.
Mae’r cyfnod rydym yn byw ynddo yn golygu bod rhaid i ni newid y ffordd rydym yn gwneud busnes. Mae mentrau cymdeithasol yn ymgymryd yn barod â’r bygythiad triphlyg sef argyfwng hinsawdd, anghydraddoldebau cymdeithasol cynyddol ac economi sy’n methu gormod o bobl. Maen nhw’n dangos sut olwg all fod ar fusnes yn y dyfodol, a sut mae’n rhaid i fusnes newid.”
Cadwyn gyflenwi mentrau cymdeithasol
Derbyniodd Awel Aman Tawe a’r enillwyr eraill dlysau pwrpasol a wnaed gan y fenter gymdeithasol, Designs in Mind, sy’n cyflogi pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl.
Bu mentrau cymdeithasol yn gyfrifol hefyd am gyflenwi’r holl nwyddau a gwasanaethau ar y noson, yn cynnwys yr arlwyo, rigin, diodydd, y darnau blodau canol a’r bagiau o bethau da.
Noddwyd y Gwobrau gan Big Society Capital, Y Cyngor Prydeinig, Cafédirect, The Co-op, Deloitte, GLL, Johnson & Johnson, Landmarc, Linklaters, PwC, Power to Change, Santander ac SAP
Diwedd
Notes to Editors
Photos will be made available on the morning of 5 December on this webpage – https://www.socialenterprise.org.uk/winners-of-the-uk-social-enterprise-awards-2019/
For more information, please contact Awel Aman Tawe on 07590 848818 or 01639 830870 or the Social Enterprise UK press office on 020 3589 4950.
About Social Enterprises
Social enterprises are businesses which trade for a social purpose that reinvest or donate over half their profits to further this social or environmental mission. They are an increasingly important part of the UK economy contributing £60 billion and employing 2 million people. Estimates are there are 100,000 in the UK. Research carried out by Social Enterprise UK, the membership body for the sector, shows they are outperforming traditional businesses when it comes to start-up rates, turnover growth and innovation. They are also ahead of the pack when it comes to workforce diversity and pay. For more information and statistics see Social Enterprise UK’s State of Social enterprise Report 2019 and the ‘Hidden Revolution’ report which showed the true scale and impact of the sector.
About Social Enterprise UK
Social Enterprise UK is the largest network of certified social enterprises in the UK and the leading global authority on social enterprises. Together with our members we are the voice for the sector. We have led public policy for 15 years, helping pass the Social Value Act, and are a strategic partner to government. We exist to increase the profile of the sector through our campaign and research, and build the markets for our members – working with some of the UK’s biggest companies to support them to bring social enterprises into their supply chains. Our members reflect the diversity of the sector ranging from local grass-roots organisations to multi-million-pound businesses. We see social enterprise as the future of business.