Fel rhan o’r Prosiect Ewropeaidd YOUCOOPE, mae Awel Aman Tawe (AAT) wedi datblygu MOOC mewn cydweithrediad â phartneriaid o bum gwlad, i hyfforddi athrawon mewn entrepreneuriaeth cwmnïau cydweithredol ac i annog sefydliadau addysgol i gynnwys y model cwmnïau cydweithredol yn eu cwricwla.
Mae’r hyfforddiant ar-lein newydd ar entrepreneuriaeth cwmnïau cydweithredol wedi cael ei lansio. Cafodd ei gynhyrchu gan y Prosiect Ewropeaidd YOUCOOPE sydd wedi bod wrthi ers mis Ebrill diwethaf yn datblygu’r deunydd hyfforddi mewn cydweithrediad â naw partner o’r Eidal, Cymru, Gwlad Belg, Sbaen a Lloegr.
Mae Entrepreneuriaeth Cwmnïau Cydweithredol mewn Addysg: Offer ac Adnoddau yn gwrs digidol byr ar gyfer addysgwyr proffesiynol mewn ysgolion uwchradd a phrifysgolion sydd â diddordeb mewn deall a chyflwyno addysg entrepreneuriaeth o safbwynt cwmnïau cydweithredol. Bydd y Cwrs Ar-lein Enfawr Agored (MOOC) yn darparu gwybodaeth, offer a deunydd addysgol iddynt fel y gallant gynnwys cysyniadau, sgiliau a phrofiadau bywyd go iawn o entrepreneuriaeth cwmnïau cydweithredol yn eu gwersi.
Meddai Jeremy Miles, Aelod o’r Senedd Llafur Cymru a Chydweithredol dros Gastell-nedd, “Mae’n wych bod yr adnoddau hyn yn cael eu darparu am ddim i ysgolion a cholegau fel y gallant ddysgu am entrepreneuriaeth cwmnïau cydweithredol. Rwy’n falch bod menter gymdeithasol yn fy etholaeth innau, Awel Aman Tawe, wedi bod yn rhan o’r prosiect. Wrth i ni ddod allan o’r pandemig, mae’n hanfodol ein bod yn annog entrepreneuriaeth ac yn enwedig yng Nghymru, lle gallwn adeiladu ar ein traddodiad cydweithredol.”
Meddai Cadeirydd Ymddiriedolwyr AAT, Mary Ann Brocklesby, “Rydym yn falch iawn o gael cydweithio gyda phartneriaid Ewropeaidd a rhannu ein profiad o ddatblygu ein dau gwmni cydweithredol ynni adnewyddadwy, Awel ac Egni. Mae’n hanfodol bod Cymru’n parhau i ymgysylltu â’n partneriaid Ewropeaidd er mwyn dysgu oddi wrth eu traddodiadau cydweithredol.”
Gall athrawon sydd â diddordeb mewn dilyn yr hyfforddiant digidol hwn gofrestru am ddim ar wefan YOUCOOPE a dilyn y MOOC yn Saesneg, Eidaleg neu Sbaeneg. Bydd hyn yn caniatáu iddynt ymgeisio hefyd am weithdai ar-lein unigryw lle byddant yn gallu picio i mewn i addysg entrepreneuriaeth cwmnïau cydweithredol, cwrdd ag addysgwyr sydd â’r un diddordebau, a dysgu ffyrdd newydd o gyflwyno’r methodolegau hyn yn yr ystafell ddosbarth.
Mae’r cwrs ar-lein, y cynnwys digidol y gellir ei lawrlwytho, a’r gweithdai i athrawon uwchradd a phrifysgol a hyrwyddir gan YOUCOOPE, yn rhoi ystyriaeth i’r Fframwaith Ewropeaidd EntreComp ar gyfer datblygu sgiliau entrepreneuraidd, a noddir gan y Comisiwn Ewropeaidd, ac sy’n cynnwys y sgiliau meddal, fel y’u hystyrir, ar gyfer dyfodol personol a phroffesiynol pobl ifanc.
Entrepreneuriaeth a Chydweithrediaeth
Bydd y Prosiect Ewropeaidd YOUCOOPE: Entrepreneuriaeth Cwmnïau Cydweithredol i addysgwyr, dan arweiniad Canolfan Entrepreneuriaeth Rhyngwladol Santander (CISE) yn Sbaen, mewn cydweithrediad ag Awel Aman Tawe/Egni Co-op a naw sefydliad arall, yn canolbwyntio ar hyfforddi’r hyfforddwyr fel y gallant symbylu a lledaenu entrepreneuriaeth ymhlith pobl ifanc Ewrop yng nghyd-destun gwerthoedd cydweithredol. Bydd yn erfyn ar gyfer dysgu sgiliau entrepreneuraidd a chymdeithasol a fydd yn gwella’u cyflogadwyedd.
Mae’r prosiect hefyd yn annog sefydliadau addysgol ar lefel uwchradd a phrifysgol i gynnwys y model cwmnïau cydweithredol yn eu cwricwlwm a’u hyrwyddo ymhlith myfyrwyr ac entrepreneuriaid ifanc ledled Ewrop.
Bydd yr adnoddau a gynhyrchir yn ystod y prosiect hefyd yn annog sefydliadau addysgol i chwilio am gyfleoedd i gydweithredu gyda chwmnïau cydweithredol lleol, fel y gall pobl ifanc ennill dealltwriaeth o bwysigrwydd ac effeithlonrwydd y model hwn, ynghyd â hwyluso’r pontio rhwng yr ystafell ddosbarth a chyd-destun byd gwaith, ac atgyfnerthu profiadau bywyd go iawn.
Mae gan y prosiect YOUCOOPE gyllideb o dros 230,000 o Euros ac mae’n cael ei gyd-ariannu gan y Comisiwn Ewropeaidd. Ynghyd ag Awel Aman Tawe, mae’r consortiwm yn cynnwys naw sefydliad o bum gwlad Ewropeaidd: Co-operative College CI (Y Deyrnas Unedig), Ciudad Industrial del Valle del Nalón (Sbaen), Università degli Studi di Trento (Yr Eidal), European Research Institute on Cooperative and Social Enterprises (Yr Eidal), Bantani Education (Gwlad Belg), Federazione Trentina della Cooperazione (Yr Eidal), Escuela Andaluza de Economía Social (Sbaen), University of Trento (Yr Eidal) ac Awel Aman Tawe (Cymru).