Mae’r artist lleol, Jozef Swoboda, sy’n ddisgybl yn Ysgol Gyfun Ystalyfera, wedi cael ei ysbrydoli gan dyrbinau gwynt. Mae ei luniau yn rhoi lle canolog i’r tyrbinau yn y dirwedd. Mae’n cipio egni’r tyrbinau a’r dirwedd naturiol sy’n eu hamgylchynu.
Meddai Dan McCallum, un o gyfarwyddwyr Awel, “Gallwch deimlo’r cynnwrf a’r pŵer yng nghelfwaith Josef. Mae’n cynrychioli’r ffordd y mae pobl ifanc yn gweld ein tirwedd. Erbyn heddiw, mae tyrbinau yn rhan ohoni ac yn ychwanegu dimensiwn arall. Yn y gorffennol, roedd artistiaid fel Joseph Herman, a oedd yn byw yn Ystradgynlais ger Ystalyfera, yn cipio bywyd y glowyr a weithiai dan ddaear. Tra bod Herman yn dathlu dewrder a phenderfyniad ein cymunedau glofaol, mae gwaith Josef Swoboda yn amlygu’r trawsnewid cadarnhaol ym myd ynni. Ac mae yntau’n cael aros uwch ben y ddaear i beintio – mae’n rhaid bod hwn yn beth da!”
Rydym eisiau i’n fferm wynt gymunedol fod yn rhan o ymateb artistig i’r newid yn yr hinsawdd. Rydym wedi cydweithio’n barod gyda Carol Ann Duffy a Gillian Clarke i weithio gyda beirdd lleol, gan gynhyrchu dau lyfr ar y thema newid yn yr hinsawdd. Rydym wedi cydweithio gyda Chanolfan Gelfyddydau Pontardawe i gynhyrchu theatr gymunedol ar faterion cynhesu byd-eang.
Rydym eisiau i artistiaid, ysgrifenwyr a cherddorion eraill fod yn rhan o’r mudiad, sef mudiad pwysicaf ein cenhedlaeth – yn llythrennol, oherwydd mae p’un ai fydd gennym genedlaethau yn y dyfodol yn dibynnu ar ein gweithredoedd ar hyn o bryd. Mae Cymru ar flaen y gad o ran y polisi hwn ac rydym eisiau helpu i’w drosi yn weithredu ymarferol. I gael mwy o wybodaeth ac i gysylltu â ni, ewch i www.awel.coop.