Apêl i ysgolion Cymru fynd yn Solar ar #YouthStrike4Climate

Mae Egni Co-op yn cefnogi’r gweithredu uniongyrchol #Youth-Strike4Climate heddiw. Ond mae hefyd yn apelio am i ysgolion ymuno ag ymdrechion Co-op i osod solar ar eu hadeiladau. Meddai Rosie Gillam, sy’n arwain y prosiect “Hyd yma, rydym yn gweithio gyda dros 90 o sefydliadau a busnesau cymunedol ar draws Cymru ar dros 1MW o ynni solar, ond nid oes yr un ysgol ynghlwm. Byddem wrth ein bodd yn cynnwys ysgolion gan fod pobl ifanc mor gefnogol i ynni adnewyddadwy.
 

Ond rydym yn credu y dylai awdurdodau lleol ddefnyddio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol i ddychmygu Cymru wahanol a chanolbwyntio ar newid hinsawdd. Rydym yn awyddus i weithio gydag awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru i ystyried y ffordd orau o ddelio â materion fel caffael a phrydlesi – ni ddylid caniatáu i’r rhain atal gweithredu ar newid hinsawdd ac rydym yn hyderus y gellir dod o hyd i atebion ymarferol. Rydym eisiau gweithio gyda phobl sy’n frwdfrydig ac yn benderfynol o gyflawni hyn.”

Murlun gan Sioned Haf
Ychwanegodd Rosie “Un o fanteision allweddol cwmnïau cydweithredol yw y gallant weithio gydag ysgolion a rhag-gofrestru ar gyfer y Tariff Cyflenwi Trydan – mae hwn yn cadw’r gyfradd bresennol am flwyddyn gan wneud solar yn llawer mwy fforddiadwy. Yn yr hinsawdd ariannol gyfredol, bydd yn anodd iawn i ysgolion osod solar oni bai y byddant yn gweithio gyda chwmni cydweithredol. Gall cwmnïau cydweithredol ddod â chymaint o fanteision eraill hefyd. Ond diwedd Mawrth  yw’r terfyn amser felly os oes diddordeb gan unrhyw ysgol, dylent gysylltu â ni cyn gynted â phosibl – rosie@awel.coop neu drwy www.egni.coop
Meddai Dan McCallum, un o Gyfarwyddwyr Egni Co-op, a dderbyniodd MBE y llynedd am ei wasanaeth i ynni cymunedol yng Nghymru “Rydym yn gwybod ei bod yn bosibl i gwmnïau cydweithredol osod solar ar ysgolion – gosodom 50kw ar Ysgol y Bedol yn 2015. Mae’n siomedig iawn nad oes unrhyw ysgolion wedi ymuno â ni hyd yma – rydym yn awyddus dros ben i gysylltu’r ysgol gyntaf! Byddai’n ffordd wych o weithredu’n weladwy ar newid hinsawdd, gan godi ymwybyddiaeth ac ennyn diddordeb llawer o bobl yng nghymuned yr ysgol. Gobeithiwn weithio gyda’r gyfundrefn addysg ar bob lefel – boed plant yn cymryd rhan yn y gweithredu uniongyrchol #Youth-Strike4Climate, penaethiaid ysgol ac arweinwyr awdurdodau lleol.
Egni South Wales Solar Photovoltaic Coop header logo
Rhagor o wybodaeth
Mae Egni Co-op, sy’n gwmni cydweithredol ffotofoltäig solar Cymreig arobryn yn ceisio defnyddio toeon yng Nghymru i gynhyrchu ynni glân. Mae Egni’n chwilio am adeiladau fel canolfannau cymuned, busnesau ac ysgolion sydd â diddordeb mewn gostwng eu biliau a helpu i fynd i’r afael â newid hinsawdd. Cafodd ei sefydlu gan Awel Aman Tawe, sy’n elusen ynni cymunedol Cymreig.
Mae’r Tariff Cyflenwi Trydan yn dod i ben ar 31Mawrth ond fel cwmni cydweithredol gallwn gofrestru safle a diogelu’r Tariff Cyflenwi Trydan am flwyddyn, gan roi amser i ni godi arian drwy ddefnyddio cyfranddaliadau cymunedol.
Mae Egni wedi gosod 179kw o solar ar saith safle’n barod, ac mae’r rhain wedi bod yn rhedeg yn dda am dair blynedd. Mae ein safleoedd presennol yn cynnwys Ysgol y Bedol, Garnant, Gweithdai Dove, Banwen, Canolfan Hyfforddi Glyn-nedd, Canolfan Ffenics, Abertawe a Chanolfan Hamdden Trimsaran. Rydym hefyd yn rhan o’r un tîm a ddatblygodd fferm wynt gymunedol Awel Co-op uwchlaw Pontardawe – cafodd hon ei chydnabod fel y prosiect ynni cymunedol gorau yng Nghymru a Lloegr a chododd dros £3m drwy gynnig cyfranddaliadau cwmni cydweithredol.
 Cefnogwch Ddiwrnod Ymwybyddiaeth Tlodi Tanwydd ar 15 Chwefror!

Rhannu’r Dudalen