Anrhydedd Blwyddyn Newydd i Ynni Cymunedol

Mae Dan McCallum, cyd-sylfaenydd Awel Aman Tawe, wedi cael ei gydnabod yn Rhestr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd gydag MBE am wasanaethau i ynni cymunedol yng Nghymru.

Mae hyn yn gydnabyddiaeth bwysig o’n fferm wynt gymunedol ac o’r gwaith a wnaed gan ein staff, gwirfoddolwyr ac Ymddiriedolwyr dros y 18 mlynedd diwethaf. Mae ein prosiect wedi dod yn rhan o fudiad yng Nghymru sy’n ceisio sicrhau mwy o berchenogaeth gymunedol ar ynni adnewyddadwy ac sydd bellach yn cynnwys llawer o bobl a sefydliadau. Bu datblygu ein prosiect yn waith anodd, ond mae’n ysbrydoledig i ni weld llawer o brosiectau’n cael eu datblygu yn ei sgil gan gymunedau ledled Cymru.

Llun gan Mike Harrison, aelod o Awel Co-op

Mae gan ynni cymunedol y potensial unigryw i fedru dod â chymunedau at ei gilydd yn y frwydr i fynd i’r afael â newid hinsawdd, a hefyd i gadw cyllid o’u hadnoddau ynni o fewn y cymunedau hynny.

Comisiynodd Awel Co-op ei fferm wynt 4.7MW yn Ionawr 2017. Mae’r prosiect wedi cynhyrchu mwy na 10GW o drydan, digon i gyflenwi tua 2500 o gartrefi bob blwyddyn.  Mae wedi codi dros £2.5m drwy gynnig cyfranddaliadau cymunedol, y swm uchaf erioed yng Nghymru, ac mae’n ceisio codi £3m fel y bydd y prosiect yn perthyn i gymaint o bobl a sefydliadau â phosibl yng Nghymru. Gwerth cyfalaf y fferm wynt yw £8.25m ac mae’n cael ei chydariannu gan fenthyciad o £5.25m gan Triodos.

 

Mae stori ynni cymunedol yng Nghymru yn un barhaus a gall pobl ymuno â hi o hyd. Mae ein cynnig cyfranddaliadau ninnau yn agored o hyd ar www.awel.coop, ac mae’r prosiectau cyffrous eraill sydd â chynigion cyfranddaliadau agored neu sydd ar fin lansio cynigion newydd yn cynnwys www.ynniteg.cymruCarmarthenshire Energywww.egni.coop a www.gowerpower.coop. Mae’r gwaith yn cwmpasu’r holl dechnolegau yn cynnwys gwynt, hydro a’r cwmni cyflenwi lleol arloesol cyffrous, Ynni Ogwen. Cafwyd cydweithrediad gwobrwyedig hefyd rhwng awdurdodau lleol fel Cyngor Abertawe ac Ynni Cymunedol Abertawe. Gan symud ymlaen, mae menter ar y cyd newydd gyffrous yng nghoedwig Alwen yng Ngogledd Cymru rhwng Innogy ac Ynni Cymunedol Cymru a fydd yn gweld cyfran gymunedol o 15% yn y fferm wynt arfaethedig newydd yno.

Mae Llywodraeth Cymru yn haeddu cydnabyddiaeth hefyd gan ei bod wedi cefnogi’r holl brosiectau uchod trwy’r rhaglen Ynni Lleol sy’n rhoi cyllid a chyngor. Mae hefyd wedi rhoi cymorth polisi, gyda tharged newydd ar gyfer ynni lleol o 1GW erbyn 2030 a bod yr holl adnewyddion yn cynnwys elfen o berchenogaeth leol erbyn 2020. Mae hyn wedi helpu i ddenu adnoddau ychwanegol i’r sector ynni cymunedol fel Robert Owen Community Banking, Banc Triodos a Banc Datblygu Cymru.

 

Rhannu’r Dudalen