A dyma rywbeth arall na roddodd y Rhufeiniaid i ni…..Pwer Solar!

Mae Egni Coop wedi cyhoeddi cwblhau aráe anferth o solar ar doeon yn Ysgol Gyfun Caerllion. Mae’r ysgol yn gyfagos i’r gaer, yr amffitheatr a’r baddonau Rhufeinig enwog.  Roedd yr ysgol a’r disgyblion yn awyddus iawn i leihau eu hôl-troed carbon ac ymunont yn y rhaglen bartneriaeth rhwng Cyngor Dinas Casnewydd ac Egni sydd wedi gosod solar ar draws y fwrdeistref. 

Solar ar Adeilad Iska yn Ysgol Gyfun Caerllion

Meddai Rosie Gillam, Cyfarwyddwr Egni, “Maint yr aráe solar yw 78 kW ac mae wedi bod yn cynhyrchu’n ardderchog yn ystod y tywydd heulog hwn. Roedd staff yr ysgol yn gefnogol iawn yn ystod y broses osod a aeth yn ei blaen yn ystod yr holl gyfyngiadau Covid-19 a thra roeddent yn paratoi ar gyfer dychweliad y plant i’r ysgol ym mis Medi. Hoffem ddiolch hefyd i’n gosodwyr, Joju Solar, sydd wedi’n helpu’n fawr i ddangos bod Cymru’n arwain yr Adferiad Gwyrdd ar yr adeg allweddol hon yn yr argyfwng hinsawdd. Erbyn hyn rydym wedi gosod dros 3MW ar draws Cymru, y cyflwyniad mwyaf o solar ar doeon yn hanes Cymru. A rhag ofn nad oeddech yn gwybod beth arall wnaeth (neu na wnaeth) y Rhufeiniaid drosom, dyma ddolen i sgetsh enwog Monty Python: https://www.youtube.com/watch?v=Y7tvauOJMHo!

Meddai’r Cynghorydd Deb Davies, Aelod o’r Cabinet dros Ddatblygu Cynaliadwy, “Mae’r cyngor yn benderfynol o arwain ar fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, a thrwy weithio gydag Egni Co-op, rydym wedi llwyddo’n barod i gyflawni cynnydd ugeinplyg yn swm yr ynni adnewyddadwy a osodwyd ar ein hadeiladau. Mae hwn yn gam mawr tuag at ein huchelgais o fod yn garbon niwtral erbyn 2030.”

System solar ar do fflat yn Ysgol Gyfun Caerllion

Esboniodd Dr Chris Jardine, Cyfarwyddwr Technegol Joju Solar, “Mae ynni cymunedol yn ffordd o gyflawni gostyngiadau carbon ar raddfa sylweddol, ac ar yr un pryd rydym yn cyd-ymweithio â’r gymuned leol. Mae’n rhaid creu’r trawsnewid i ynni cynaliadwy o’r gwaelod i fyny fel hyn, os yw’n mynd i fod yn llwyddiannus. Mae cynllun Egni yng Nghasnewydd yn enghraifft berffaith o’r hyn y gellir ei gyflawni.”

Mae Egni hefyd yn hyrwyddo rhaglen addysgol arbenigol sy’n amlygu’r buddion a’r defnydd o baneli solar, ynni adnewyddadwy a’r model busnes o gwmnïau cydweithredol.

Mae’r cwmni cydweithredol hefyd yn rhan o brosiect yr UE i gefnogi entrepreneuriaeth cwmnïau cydweithredol mewn ysgolion. http://youcoope.eu/

Bydd Egni yn gweithio gyda Chyngor Dinas Casnewydd yn y prosiect hwn ac yn defnyddio’r deunyddiau a gynhyrchir fel rhan o becyn addysg yn ysgolion y ddinas. Mae pob ysgol sy’n cymryd rhan yn derbyn cyfranddaliadau gwerth £500 yn Egni Coop hefyd i helpu i wella’r ddealltwriaeth o’r model busnes cwmnïau cydweithredol ymhlith pobl ifanc.

Meddai’r Cynghorydd Gail Giles, aelod cabinet y cyngor dros addysg a sgiliau, “Rydym wrth ein bodd o weld y ffordd gadarnhaol mae’r disgyblion a’r staff yn ein hysgolion yn cyd-ymweithio â’r prosiect uchelgeisiol hwn.”

Rhannu’r Dudalen