9 Tachwedd. Lansio cynnig cyfranddaliadau

Rydym yn lansio ein Cynnig Cyfran o ddydd Llun 9 – 23 Tachwedd. Mae’r lansiad wedi ei symud ymlaen ar frys oherwydd penderfyniad ysgytiol y Llywodraeth i ddod â gostyngiad ar dreth i ben ar ynni adnewyddadwy cymunedol ar gyfer prosiectau sydd wedi’u dechrau ac offer a brynwyd ar ol 30 Tachwedd 2015.

Mae disgwyl i ni ddechrau adeiladu’r fferm wynt ym mis Mawrth 2016 a’i gwblhau erbyn diwedd Rhagfyr 2016. Mae’r tyrbinau gwynt Enercon wedi’u harchebu ac mae cwmni lleol, Raymond Bron Construction, wedi’i benodi i’w adeiladu.

Rhannu’r Dudalen