Cydgysylltydd Gwirfoddolwyr Hwb y Gors
Disgrifiad Swydd
- Cyflogwr: Awel Aman Tawe
- Yn adrodd wrth: Rheolwr Canolfan Hwb y Gors
- Cyflog: £14 yr awr
- Oriau: Swydd ran amser – 7.5 awr yr wythnos ‒ oriau gweithio hyblyg dros ddau ddiwrnod
- Cyfnod y Contract: 1 flwyddyn gyda’r posibilrwydd o’i estyn yn amodol ar adolygiad
- Hawl i wyliau: 25 diwrnod o wyliau’r flwyddyn pro rata
- Cynllun Pensiwn Moesegol gyda chyfraniad cyflog o 6.5% a swm cyfatebol gan AAT.
- Dyddiad cau: 10 Ionawr 2025
Pwy ydym ni:
Mae Awel Aman Tawe yn elusen yng Nghwm Aman uchaf a sefydlwyd yn 1998 gyda’r ddau amcan o fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a chefnogi cadernid cymunedol. Rydym wedi datblygu’r ddau gwmni cydweithredol ynni adnewyddadwy mwyaf yng Nghymru: Awel Coop (ein cwmni cydweithredol gwynt) ac Egni Co-op (ein cwmni cydweithredol solar). Rydym hefyd yn rhedeg amrywiaeth o brosiectau yn cynnwys y rhaglen addysg i ysgolion Rhyfelwyr Ynni, trafnidiaeth gymunedol gynaliadwy, rhoi cyngor effeithlonrwydd ynni, a chelfyddydau yn y gymuned. Prynom hen ysgol gynradd Cwm-gors yn 2018 ac ar hyn o bryd rydym yn ei hail-ddatblygu yn ganolfan carbon isel ar gyfer addysg, menter a’r celfyddydau: Hwb y Gors, a fydd yn canolbwyntio ar gydlyniad cymunedol, cadernid a meithrin dyheadau lleol. Rhagwelwn y bydd y ganolfan yn agor yn gynnar yn 2025. Bydd gwirfoddolwyr yn cael eu hymwreiddio yn niwylliant y ganolfan a bydd y Cydgysylltydd Gwirfoddolwyr yn allweddol i’r weledigaeth hon.
Crynodeb o’r Swydd
Bydd gennych ddealltwriaeth ddofn ac angerdd dros ddatblygu’r rhaglen Wirfoddoli yn Hwb y Gors, gan ddod ag egni a brwdfrydedd i’r rôl. Byddwch yn dda am ddatrys problemau a bydd eich trylwyredd cyn gryfed a’ch gwerthfawrogiad o’r darlun mawr. Bydd gennych sgiliau cyfathrebu gwych fel y gallwch ryngweithio gydag amrywiaeth o randdeiliaid, gan helpu’r gwirfoddolwyr i flaenoriaethu anghenion y Ganolfan o fewn y sefydliad. Mae hon yn swydd heriol, tra boddhaus, ac er mwyn iddi lwyddo bydd angen ymrwymiad i’r gymuned leol ac i ddau bwrpas AAT, sef mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a chefnogi cadernid cymunedol. Byddwn yn ymdrechu i sicrhau bod y ganolfan yn hunangynhaliol o fewn 3 blynedd ac yn sero net erbyn 2030. Bydd y Rhaglen Wirfoddoli yn chwarae rhan annatod wrth gyrraedd y nodau hyn.
Y Weledigaeth ar gyfer y Rhaglen Wirfoddoli yn Hwb y Gors
Dros y 18 mis diwethaf, rydym wedi sefydlu nifer o raglenni sy’n darparu cyfleoedd i wirfoddolwyr, yn cynnwys Cynllun Trafnidiaeth Gymunedol Drydan, Cynllun Gardd Gymunedol, Clwb Gwnïo a Chaffi Trwsio. Mae’r cyfleoedd gwirfoddoli hyn wedi ysgogi brwdfrydedd, sgiliau a lles yn y gymuned, ynghyd â chynnwys y rhai hynny sy’n teimlo’n llai hyderus trwy weithgareddau strwythuredig mewn man cymunedol cyfeillgar.
Ymgysylltodd 159 o wirfoddolwyr yn 2023, gan roi’r swm nodedig o 1400 awr o’u hamser. Enillom Wobr Gwirfoddolwyr (Categori Amgylcheddol) CGG Castell-nedd Port Talbot yn 2023 a 2024.
Rhagwelwn y byddwn yn ehangu’r cyfleoedd presennol yn y Rhaglen Wirfoddoli ynghyd â chreu rhai newydd yn y caffi yn ystod prydau bwyd, digwyddiadau a gweithdai cymunedol rheolaidd. Rydym eisiau i’n gwirfoddolwyr gael ymdeimlad o berchnogaeth dros yr adeilad a bod yn gyfrannol yn y rhan fwyaf o’r meysydd gweithredu, er mwyn cynnwys amrywiaeth eang o bobl, a chwmpasu llawer o wahanol ddiddordebau, galluoedd ac ar gontinwwm o gyfranogiad ‒ yn amrywio o ‘gwrdd a chyfarch’ sylfaenol i rannu sgiliau arbenigol. Yn ogystal ag ehangu’r rolau yn y Raglen Wirfoddoli rydym yn bwriadu cynnig cyfleoedd hyfforddi a datblygu personol i’n Gwirfoddolwyr, yn cynnwys gweithio tuag at gymwysterau achrededig.
Bydd y Cydgysylltydd Gwirfoddolwyr yn allweddol i’r llwyddiant hwn gan ddangos gweledigaeth eglur, empathi a chymorth bugeiliol, ynghyd â gweinyddu cadarn i ddatblygu ac arolygu rheolaeth o ddydd i ddydd ein gwirfoddolwyr.
Rolau a Chyfrifoldebau
Fel Cydgysylltydd Gwirfoddolwyr byddwch yn:
- Rheoli gweithrediadau o ddydd i ddydd y Rhaglen Wirfoddoli
- Recriwtio gwirfoddolwyr ‒ prosesu ceisiadau, casglu geirdaon, cynnal cyfweliadau a rheoli’r broses ymsefydlu
- Gosod gwirfoddolwyr mewn rôl(au) priodol ar sail eu dymuniad a’u profiad
- Hwyluso a phennu cyfleoedd hyfforddiant ac achrediad trwy Agored Cymru
- Cynnal adolygiadau 1:1 rheolaidd a mentora parhaus i sicrhau bod gwirfoddolwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, yn cynnwys trefnu digwyddiad dathlu blynyddol
- Cynnal sesiynau adolygu anffurfiol (‘cyfweliadau’) gyda gwirfoddolwyr presennol i sicrhau bod yr holl ddata perthnasol yn cael eu casglu
- Cynnal cofnodion gwirfoddolwyr cywir ac adrodd wrth Reolwr y Ganolfan yn chwarterol ar ddeilliannau allweddol
- Bod yn gyfarwydd â’r holl bolisïau a gweithdrefnau sy’n gysylltiedig â’r rhaglen a sicrhau bod yr holl wirfoddolwyr yn gyfarwydd â nhw ac yn cadw atynt
- Hybu’r rhaglen wirfoddoli yn y gymuned er budd recriwtio a chadw
- Cyfathrebu â’r tîm staffio a phartneriaid allanol, heb fod yn gyfyngedig i CGG Castell-nedd Port Talbot, y Cydgysylltydd Dug Caeredin, Presgripsiynwyr Cymdeithasol a’r Cydgysylltwyr Ardal Leol
- Sicrhau cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant wrth recriwtio gwirfoddolwyr
- Datrys materion sy’n ymgodi o’r cynllun a chynghori gwirfoddolwyr ar y ffordd orau o ddatrys materion gyda chleientiaid a darparu gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid
- Codi ymwybyddiaeth y staff o rôl a gwerth gwirfoddolwyr o fewn y sefydliad
- Rheoli’r gyllideb wirfoddoli ar gyfer hyfforddiant a gwisgoedd o fewn y gyllideb benodedig
- Gwerthuso’r cynllun ar ddiwedd y flwyddyn
Manyleb Person
Hanfodol | Dymunol | |
Profiad o weithio gyda sefydliadau yn y gymuned a dealltwriaeth dda o amgylchedd y sector elusennau | x | |
Profiad o reoli staff ac/neu wirfoddolwyr | x | |
Gwybodaeth a dealltwriaeth o’r gymuned leol | x | |
Gwybodaeth, Sgiliau a Galluoedd | ||
Sgiliau cyfathrebu a gwasanaeth i gwsmeriaid rhagorol | x | |
Yn gallu gweithio’n gydweithredol gydag ystod eang o bobl yn cynnwys pobl sy’n agored i niwed | x | |
Sgiliau TGCh ‒ yn gallu defnyddio cronfeydd data, cyfryngau cymdeithasol a chyfrannu at gynnwys y we | x | |
Sgiliau datrys problemau da ac ymwybyddiaeth o asesiadau risg | x | |
Yn gallu bod yn flaengar a chanfod, blaenoriaethu a chynllunio gweithgareddau’n annibynnol | x | |
Ymrwymiad i herio ymddygiad gwahaniaethol neu amharchus | x | |
Yn gallu cyfrannu at bennu targedau a chynllunio datblygiad yn strategol | x | |
Yn gallu gweithio’n annibynnol ac yn gydweithredol fel rhan o dîm. | x | |
Siaradwr Cymraeg neu ymrwymiad i ddysgu. | x | |
Rhinweddau Personol | Hanfodol | Dymunol |
Rhinweddau arweinyddiaeth | x | |
Ymrwymiad i egwyddorion cydraddoldeb a pharch at eraill | x | |
Dealltwriaeth dda o’r materion cymdeithasol ac economaidd a wynebir gan y gymuned leol | x | |
Hyblygrwydd o ran oriau gwaith yn cynnwys gyda’r hwyr ac ar y penwythnos | x | |
Ymrwymiad i’r Ymgyrch Ras i Sero | x | |
Parodrwydd i gyflawni hyfforddiant a datblygu personol | x |
Hyfforddiant Angenrheidiol ‒ darperir hwn gan AAT
- GDPR
- Diogelu
- EDI
- Ymwybyddiaeth o Anabledd
- Trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol
- Hylendid Bwyd
Noder: Mae swydd rhan amser arall yn cael ei hysbysebu y gallai’r ymgeisydd ymgeisio amdani ar yr un pryd.
Mae’r swyddi yn agored i’r holl ymgeiswyr sydd â’r cymwysterau priodol, heb ystyried oed, anabledd, rhywedd, priodas/partneriaeth sifil, beichiogrwydd, mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, neu gyfeiriadedd rhywiol.
Y broses ymgeisio:
Rhaid i geisiadau gynnwys CV a llythyr eglurhaol. Mae AAT yn fan arbennig i weithio ynddo ac mae’n bwysig ein bod yn deall yn glir pam rydych chi eisiau bod yn rhan o’r tîm a beth rydych chi’n teimlo y gallwch ei gyfrannu. Fel rhan o’ch llythyr eglurhaol, gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi disgrifiad llawn o’ch symbyliad, profiad a’ch addasrwydd ar gyfer y rôl mewn perthynas â’r disgwyliadau a esbonnir yn y fanyleb person a’r disgrifiad swydd.
E-bostiwch eich cais at croeso@awel.coop. Rhowch Cydgysylltydd Gwirfoddolwyr Hwb y Gors yn y llinell pwnc.
Dyddiad cau: 10 Ionawr 2025
Cyfweliadau: 22 Ionawr 2025
Ariennir y swydd hon gan Sefydliad Moondance.