Mae Egni bron iawn a chyrraedd y targed o £4m mewn cyfranddaliadau cwmni cydweithredol.

Mae Egni Co-op wedi cyhoeddi ei fod yn nesáu at ei darged o £4m yn y cynnig cyfranddaliadau cwmni cydweithredol, un o’r mwyaf i’w gynnal erioed yn y DU. Mae Egni wedi gosod solar ar doeon ar ysgolion, adeiladau cymunedol a busnesau ar draws Cymru.

Felodrom Cenedlaethol Cymru Geraint Thomas

Meddai Dan McCallum, cyd-gyfarwyddwr Egni “Rydym wedi cael ymateb anhygoel i’n Cynnig Cyfranddaliadau. Hoffem annog cymaint o bobl â phosibl ar draws y DU i ymuno â ni a helpu i fynd i’r afael â newid hinsawdd trwy bŵer yr haul. Gall pobl a chwmnïau fuddsoddi cyn lleied â £50.”

Gwers solar yn Ysgol Gynradd Maindee

Erbyn hyn, mae Egni wedi gosod 4.2MWp o solar ar doeon ar 85 o safleoedd yng Nghymru. Mae’r holl safleoedd yn cael eu cefnogi gan y Tariff Cyflenwi Trydan. Mae Egni yn ail-ariannu ein benthyciad gan Fanc Datblygu Cymru drwy gyfranddaliadau cwmni cydweithredol gan fod y benthyciad ar log o 5% tra bod aelodau’r cwmni cydweithredol yn buddsoddi ar log o 4%. Mae hyn yn golygu bod mwy o warged i’w gyfeirio i brosiectau addysg ar newid hinsawdd yn ysgolion Cymru.

a) £108k y flwyddyn mewn arbedion trydan yng Nghymru

b) arbed 1,008 o dunelli o allyriadau carbon deuocsid y flwyddyn

Clwb Golff Garnant

Ychwanegodd Dan “Rydym hefyd yn falch iawn o gyhoeddi bod perfformiad ein paneli wedi bod yn ardderchog yn 2020 a byddwn yn gallu talu llog o 4% i’n holl aelodau yn unol â’n Cynnig Cyfranddaliadau. Mae hyn yn cynnwys ein holl safleoedd ysgol sydd bob un yn berchen ar £500 o gyfranddaliadau yn Egni.

Ysgol Gyfun Pentrehafod

Rydym mor ddiolchgar i’n holl aelodau ‒ mae rhai wedi buddsoddi £50 tra bod eraill fel Sefydliad Y Gymdeithas Ddarbodus wedi buddsoddi £100,000. Rydym yn falch o gael y buddsoddiadau lleiaf ‒ mae’n gyfle i feithrin hyder yn y model cwmnïau cydweithredol. Mae llawer o’r bobl a fuddsoddodd £50 yn Awel Co-op wedi ymweld â’n fferm wynt, ei gweld ar waith, ac yna wedi buddsoddi mwy yn Egni. Mae cwmnïau cydweithredol yn strwythurau democrataidd iawn sy’n seiliedig ar un aelod, un bleidlais, felly maen nhw’n ffordd ardderchog o ennyn diddordeb pobl mewn gweithredu ar newid hinsawdd.”

Ysgol Gyfun Cefn Hengoed

Ynglŷn ag Egni

Dyma ffilm ddiweddar a wnaed gan yr enillydd dau BAFTA Cymru, Mike Harrison, ynglŷn â’r prosiect solar ar doeon mwyaf yng Nghymru ar Felodrom Cenedlaethol Geraint Thomas yng Nghasnewydd https://youtu.be/ZC80dcRmla0

Mae’r tîm y tu ôl i Egni Co-op hefyd wedi sefydlu’r fenter arobryn Awel Co-op, sef fferm wynt gymunedol 4.7MW a gomisiynwyd yn Ion 2017. Cafodd ei hariannu gan fenthyciad o £5.25m gan Fanc Triodos a chynnig cyfranddaliadau cymunedol gwerth £3m www.awel.coop.

Enillodd Egni Co-op y wobr Prosiect Ynni Adnewyddadwy Eithriadol mewn seremoni a noddwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr 2019 (https://egni.co-op/egni-co-op-earns-a-place-in-the-sun-at-wales-sustainability-academy-awards/), a chydnabuwyd Awel Aman Tawe fel Sefydliad Amgylcheddol y Flwyddyn yng Ngwobrau Mentrau Cymdeithasol y DU ‒ https://www.socialenterprise.org.uk/winners-of-the-uk-social-enterprise-awards-2019/

Am ragor o fanylion am Egni, cysylltwch â Dan McCallum ar 07590 848818

Ynglŷn â Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru

Mae Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth technegol, masnachol a chaffael am ddim i ddatblygu effeithlonrwydd ynni a phrosiectau ynni adnewyddadwy, ac mae wedi cefnogi Egni. Mae’r gwasanaeth ynni’n helpu gyda chynllunio ariannol a chyllid, er enghraifft grantiau a benthyciadau di-log.

E-bost: enquiries@energyservice.wales

Twitter: @_energyservice | @_gwasanaethynni

Rhannu’r Dudalen