Rydym yn llawn cynnwrf wrth i ni recriwtio tîm o bobl frwdfrydig i’n helpu i redeg Hwb y Gors pan fyddwn yn agor yn y Gwanwyn 2025!
Rydym yn chwilio am bobl sy’n ymrwymedig i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a chefnogi lles cymunedol. Byddant yn cydweithio’n agos gyda thîm Awel Aman Tawe i sicrhau llwyddiant aruthrol i’n Hwb Cymunedol carbon isel newydd ar gyfer addysg, menter a’r celfyddydau.
Mae Awel Aman Tawe yn elusen gofrestredig ac yn gwmni cyfyngedig drwy warant, y mae ei rhaglen waith yn cefnogi’r trawsnewid i sero net. Rydym yn gweithio ar nifer o brosiectau yn cynnwys effeithlonrwydd ynni, ynni adnewyddadwy, cadernid cymunedol, trafnidiaeth gynaliadwy, celfyddydau cymunedol a rhaglenni addysg. Rydym wedi datblygu dau o’r cwmnïau cydweithredol ynni adnewyddadwy mwyaf yn y DU sydd wedi helpu i gefnogi datblygiad Hwb y Gors.
Rydym yn llawn cynnwrf wrth hysbysebu’r rolau canlynol:
- Rheolwr Caffi (Llawn amser)
- Swyddog Addysg a’r Celfyddydau (Llawn amser)
- Swyddog Hwb y Gors (Rhan amser)
- Cydgysylltydd Gwirfoddolwyr (7.5 awr yr wythnos)
Cliciwch ar y dolennau uchod i weld y disgrifiadau swydd.
Am fwy o wybodaeth anfonwch e-bost at: louise@awel.coop