Rheolwr Caffi Hwb y Gors

Rheolwr Caffi Hwb y Gors

Disgrifiad Swydd

Pwy ydym ni:

Mae Awel Aman Tawe yn elusen yng Nghwm Aman uchaf a sefydlwyd yn 1998 gyda’r dddau amcan o fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a chefnogi cadernid cymunedol.  Rydym wedi datblygu’r ddau gwmni cydweithredol ynni adnewyddadwy mwyaf yng Nghymru: Awel Coop (ein cwmni cydweithredol gwynt) ac Egni Co-op (ein cwmni cydweithredol solar).  Rydym hefyd yn rhedeg amrywiaeth o brosiectau yn cynnwys y rhaglen addysg i ysgolion Rhyfelwyr Ynni, trafnidiaeth gymunedol gynaliadwy, rhoi cyngor effeithlonrwydd ynni, a chelfyddydau cymunedol.  Prynom hen ysgol gynradd Cwm-gors yn 2018 ac ar hyn o bryd rydym yn ei hail-ddatblygu yn Ganolfan carbon isel ar gyfer addysg, menter a’r celfyddyau: Hwb y Gors. Rhagwelwn y bydd y ganolfan yn agor yn gynnar yn 2025 a bydd Rheolwr y Caffi yn chwarae rhan allweddol yn datblygu ein gweledigaeth ar gyfer y lleoliad.

Crynodeb o’r Swydd

Bydd gennych ddealltwriaeth ddofn ac angerdd dros lansio, datblygu a thyfu ein Caffi llysieuol a fegan yn Hwb y Gors, gan ddod ag egni a brwdfrydedd i’r rôl. Byddwch yn brofiadol ac yn ymrwymedig i weini bwyd maethlon sy’n adlewyrchu ysbryd Hwb y Gors. Byddwch yn dda am ddatrys problemau a bydd eich trylwyredd cyn gryfed â’ch gwerthfawrogiad o’r darlun mawr. Bydd gennych sgiliau cyfathrebu gwych fel y gallwch ryngweithio gydag amrywiaeth o randdeiliaid, yn cynnwys gwirfoddolwyr, ac ar yr un pryd byddwch yn gallu blaenoriaethu anghenion y Ganolfan o fewn y sefydliad yn barhaus.  Mae hon yn swydd heriol, tra boddhaus, ac er mwyn iddi lwyddo bydd angen ymrwymiad i’r gymuned leol ac i ddau bwrpas AAT sef mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a chefnogi cadernid cymunedol.  Byddwn yn ymdrechu i sicrhau bod y ganolfan yn hunangynhaliol o fewn 3 blynedd ac yn sero net erbyn 2030.  Bydd y caffi yn chwarae rhan annatod wrth gyrraedd y nodau hyn.

Y Weledigaeth ar gyfer y Caffi yn Hwb y Gors 

Hoffem weld ein caffi (sydd heb ei enwi eto) yn gwasanaethu’r gymuned trwy gyflenwi bwydydd llysieuol/fegan iach, blasus.  Rhagwelwn y bydd ein caffi yn dod yn fan cyfarfod pwysig i bawb yng nghymuned Cwm-gors, i ymwelwyr o bellach i ffwrdd, ac i’r gymuned o artistiaid, addysgwyr a busnesau bach yn y Ganolfan.

Yn allweddol i gyflenwi’r gwasanaeth yn y ganolfan fydd cyd-drefnu a gweithio gyda gwirfoddolwyr y ganolfan a swyddogion Hwb, a fydd yn darparu gwasanaeth gweini minimol (lluniaeth ysgafn) pan nad yw Rheolwr y Caffi yn bresennol, ynghyd ag ymgysylltu â gwirfoddolwyr ein gardd gymunedol i ddefnyddio’u cynnyrch.

Mae hyblygrwydd o ran oriau gwaith yn hanfodol.  Rhagwelwn y bydd y caffi ar agor yn ystod y dydd a hyd at ddwy noswaith yr wythnos yn cynnwys dydd Gwener.

Rydym yn chwilio am berson arbennig a all weithio gyda ni i wireddu’r weledigaeth hon.

Rolau a Chyfrifoldebau

Fel Rheolwr y Caffi byddwch yn:

Manyleb Person   

 Hanfodol Dymunol
Profiad  
2 flynedd o leiaf yn gweithio mewn allfa fwydx 
2 flynedd o leiaf o brofiad o goginio bwyd llysieuol/fegan o safon uchel mewn lleoliad masnacholx 
Sgiliau mathemategol da a phrofiad o drafod arianx  
Profiad o weithio gyda sefydliadau yn y gymuned a dealltwriaeth dda o amgylchedd y sector elusennaux  
Profiad o reoli staff ac/neu wirfoddolwyrx 
Profiad ac angerdd dros fwyd a datblygu bwydlennix  
Profiad o lunio a rheoli cyllidebaux 
   
Gwybodaeth, Sgiliau a Galluoedd  
Sgiliau cyfathrebu a gwasanaeth i gwsmeriaid rhagorolx  
Yn gallu gweithio’n gydweithredol gydag ystod eang o bobl yn cynnwys gwirfoddolwyr a phobl sy’n agored i niwedx  
Sgiliau TGCh ‒ yn gallu defnyddio cronfeydd data, cyfryngau cymdeithasol a chyfrannu at gynnwys y we x
Sgiliau datrys problemau da ac ymwybyddiaeth o asesiadau risgx  
Yn gallu bod yn flaengar a chanfod, blaenoriaethu a chynllunio gweithgareddau’n annibynnolx  
Ymrwymiad i herio ymddygiad gwahaniaethol neu amharchusx  
Yn gallu cyfrannu at bennu targedau a chynllunio datblygiad yn strategol x
Yn gallu gweithio’n annibynnol ac yn gydweithredol fel rhan o dîm.x 
Siaradwr Cymraeg neu ymrwymiad i ddysgu.x 
   
Rhinweddau Personol Hanfodol Dymunol
Rhinweddau arweinyddiaethx 
Ymrwymiad i egwyddorion cydraddoldeb a pharch at eraillx  
Dealltwriaeth dda o’r materion cymdeithasol ac economaidd a wynebir gan y gymuned leolx  
Hyblygrwydd o ran oriau gwaith yn cynnwys gyda’r hwyr ac ar y penwythnos.x  
Ymrwymiad i’r Ymgyrch Ras i Serox 
Parodrwydd i gyflawni hyfforddiant a datblygu personolx 

Hyfforddiant Angenrheidiol ‒ darperir hwn gan Awel Aman Tawe

Mae’r swyddi yn agored i’r holl ymgeiswyr sydd â’r cymwysterau priodol, heb ystyried oed, anabledd, rhywedd, priodas/partneriaeth sifil, beichiogrwydd, mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, neu gyfeiriadedd rhywiol.

Y Broses Ymgeisio:

Rhaid i geisiadau gynnwys CV a llythyr eglurhaol. Mae AAT yn fan arbennig i weithio ynddo ac mae’n bwysig ein bod yn deall yn glir pam rydych chi eisiau bod yn rhan o’r tîm a beth rydych chi’n teimlo y gallwch ei gyfrannu. Fel rhan o’ch cais, gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi disgrifiad llawn o’ch symbyliad, profiad a’ch addasrwydd ar gyfer y rôl mewn perthynas â’r disgwyliadau a esbonnir yn y fanyleb person a’r disgrifiad swydd

E-bostiwch eich cais at croeso@awel.coop. Rhowch Rheolwr Caffi Hwb y Gors yn y llinell pwnc.

Dyddiad cau: 31 Ionawr 2025

Cyfweliadau: 11 Chwefror 2025

Ariennir y swydd hon yn rhannol gan Gronfa Pobl a Lleoedd y Loteri Genedlaethol.

Rhannu’r Dudalen