Rheolwr Canolfan Hwb y Gors
Cyn i Hwb y Gors agor yn ddiweddarach eleni, rydym wrthi’n recriwtio Rheolwr Canolfan. Rydym yn chwilio am rywun i oruchwylio lansiad yr Hwb, helpu i ddatblygu’r gweithdrefnau ariannol a gweithredol, a phan fydd wedi agor, cymryd rheolaeth y Ganolfan drosodd. Mae datblygu Hwb y Gors wedi bod yn llafur cariad i Awel Aman Tawe, ac rydym yn chwilio am rywun all ddangos yr un ddealltwriaeth ac angerdd dros ddatblygiad a thwf yr hyb cymunedol carbon isel hwn ar gyfer y celfyddydau, addysg a menter yng Nghwmgors. Mae hon yn swydd heriol, tra boddhaus, a bydd ei llwyddiant yn dibynnu ar ymrwymiad i’r gymuned leol ac i ddau nod AAT, sef mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a chefnogi cadernid cymunedol. Gyda chymorth gweddill y tîm, bydd deiliad y swydd yn ymdrechu i sicrhau bod y ganolfan yn hunangynhaliol o fewn 3 blynedd ac yn sero-net erbyn 2030.
I gael y disgrifiad swydd a’r manylion am sut i wneud cais, darllenwch y ddogfen ganlynol: Hwb y Gors Centre Manager JD Cymraeg.docx
Os ydych yn cael trafferth cyrchu’r ddolen uchod a/neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost at Emily ar: croeso@awel.coop
Ariennir y swydd hon yn rhannol gan Gronfa Pobl a Lleoedd y Loteri Genedlaethol.